Data chwarterol ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Ionawr i Mawrth 2019.

Pwyntiau allweddol

Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019

  • Cafodd 4,640 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 0.96% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,971 (42.48%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019)

  • Cafodd 15,599 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 3.21% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 6,753 (43.29%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099