Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019
- Cafodd 4,640 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 0.96% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,971 (42.48%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (Ebrill 2018 i Fawrth 2019)
- Cafodd 15,599 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 3.21% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 6,753 (43.29%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.