Skip to main content

Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019

  • Cafodd 3,927 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 0.84% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,692 (43.09%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2019 i fis Medi 2019)

  • Cafodd 8,369 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 1.79% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 3,630 (43.37%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Helen Roberts

Ffôn: 0300 025 8871

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099

Rhannu’r dudalen hon