Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi galw am gwelliannau ar fyrder mewn ymateb i adroddiad heddiw ar wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dan arweiniad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, mae'r adroddiad yn codi nifer o bryderon sylweddol ynghylch staffio, prosesau a diwylliant sylfaenol mewn gwasanaethau mamolaeth sydd wedi peryglu'r gofal a ddarperir. 

Comisiynwyd yr adroddiad ym mis Hydref 2018, yn dilyn pryderon ynghylch arferion adrodd am ddigwyddiadau difrifol ac ansawdd a diogelwch y gofal a oedd yn cael ei ddarparu mewn unedau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. 

Cynhaliwyd ymweliad safle dros dri diwrnod ym mis Ionawr 2019 pan gafodd yr adolygwyr gyfle i siarad â theuluoedd a staff. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth pryderon i'r golwg o ran ansawdd a diogelwch, ac fe gafodd camau penodol eu hargymell a'u gweithredu ar unwaith. 

Oherwydd canfyddiadau'r adroddiad bydd adolygiad annibynnol o 43 o feichiogrwydd rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018 yn cael ei gynnal, a hefyd fel y mae'r adroddiad yn argymell ymarfer edrych yn ôl i 2010. 

Cyhoeddodd y Gweinidog bod gwasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'u gosod ar y lefel uwch-gyfeirio uchaf, sef "Mesurau Arbennig". 

Fel rhan o'r trefniadau uwch-gyfeirio, cyhoeddodd y Gweinidog y canlynol: 

  • Sefydlu panel goruchwylio annibynnol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, dan gadeiryddiaeth Mick Giannasi, gyda'r nod o gael sicrwydd cadarn gan y Bwrdd Iechyd bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu yn erbyn cerrig milltir a gytunwyd
     
  • Trefniadau i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant y Bwrdd yn y sefydliad, dan arweiniad David Jenkins, cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
     
  • Bydd Uned Gyflawni GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer adrodd, rheoli ac adolygu pryderon a digwyddiadau diogelwch cleifion.

Wrth ymateb heddiw, dywedodd Mr Gething ei bod yn hanfodol i'r Bwrdd Iechyd ymateb yn gadarn i argymhellion yr adroddiad er mwyn rhoi sylw i'r methiannau hyn.

Hefyd, penderfynodd y Gweinidog gynyddu cyfanswm y sefydliad i "Ymyrraeth wedi'i Dargedu". Bydd hyn yn caniatáu cyfnod i gyrff adolygu edrych ar y materion ehangach hyn ac i'r Bwrdd a'i dîm gweithredol, gyda chefnogaeth a throsolwg allanol, gyflwyno mesurau gwella priodol.

Dywedodd: 

"Dylai beichiogrwydd a genedigaeth fod yn brofiadau cadarnhaol, ond mae'n amlwg nad yw’r gofal a ddarparwyd yn y gwasanaethau mamolaeth hyn yn agos at yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl ar gyfer darpariaeth gofal unrhyw le yng Nghymru. 

Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn ddifrifol ac yn achos pryder, ac fe fydd yn anodd ei ddarllen ac yn peri gofid i deuluoedd a staff sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth. Hoffwn i ddechrau drwy ymddiheuro i'r menywod a'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd. 

Rwy'n benderfynol y bydd y camau rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn ysgogi'r newidiadau angenrheidiol i wella gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Mae'n hanfodol bwysig i'r gwaith hwn ddarparu tawelwch meddwl i deuluoedd sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd yn eu hysbytai. 

Hoffwn i ddiolch i'r teuluoedd a fu'n cymryd rhan yn y broses hon drwy rannu eu profiadau personol â'r tîm adolygu, yn ogystal â'r tîm adolygu ei hun am ei waith. 

Rhaid i ni nawr symud ymlaen a chanolbwyntio ar roi argymhellion yr adroddiad hwn ar waith i adfer hyder yn y gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai hyn."

Dywedodd Mr Giannasi:

"Rwyf wedi derbyn y rôl hon yn gwbl ymwybodol o'i harwyddocâd a'm blaenoriaeth yw sicrhau bod argymhellion adroddiad heddiw yn cael eu gweithredu, fel bod mamau a babanod yng ngofal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn derbyn y gwasanaethau diogel y maent yn eu haeddu. 

Bydd y panel annibynnol a benodwyd yn dechrau ar y gwaith hwn yn awr, gan gefnogi'r Bwrdd Iechyd i wneud y gwelliannau angenrheidiol a chynghori Llywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed.”