Data ar fferyllfeydd, presgripsiynau a roddwyd a gwasanaethau fferyllol a gynigir ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwasanaethau fferyllol cyffredinol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd 716 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2019, un yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 4 contractwyr offer yng Nghymru ar 31 Mawrth 2019.
Gwasnaethau hanfodol
- Dosbarthwyd 74.9 milliwn o eitemau presgripsiwn gan fferyllfeydd cymunedol yn 2018-19, i fyny 0.4% ar 2017-18.
Gwasanaethau uwch
- Darparodd 97% o fferyllfeydd wasanaethau Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau, ac 75% wasanaethau Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau yn 2018-19.
Gwasanaethau pellach
- Mae’r gyfran o fferyllfeydd cymunedol sy’n achrededig i ddarparu gwasanaethau pellach amrywiol wedi codi’n rheolaidd ers 2007-08.
- Darparodd 84% o fferyllfeydd wasanaethau Dull Atal Cenhedlu Brys yn 2018-19.
- Darparodd 78% o fferyllfeydd wasanaethau Brechiad Ffliw Tymhorol yn 2018-19.
- Cynigwyd ymgynghoriadau drwy’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin gan 98% o fferyllfeydd yn 2018-19.
Adroddiadau
Gwasanaethau fferyllol cyffredinol, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
PDF
Saesneg yn unig
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.