Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ystadegau hyn?

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru sydd â chontract gyda byrddau iechyd. Mae'n cefnogi cydweithwyr polisi fferylliaeth gymunedol Llywodraeth Cymru a chynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Fferyllfeydd cymunedol yw'r rhai a geir mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad, er enghraifft, ar y stryd fawr, mewn archfarchnadoedd neu mewn meddygfeydd teulu. Crynhoir data ar gyfer y prif wasanaethau y mae fferyllfeydd cymunedol wedi'u hachredu i'w darparu yn y datganiad ystadegol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • rhoi presgripsiynau
  • adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau
  • adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau
  • atal cenhedlu brys
  • brechlyn ffliw tymhorol
  • gwasanaeth anhwylderau cyffredin

Ffynonellau data

Daw'r data yn y datganiad hwn, a’r tablau cysylltiedig yn StatsCymru, o ddwy ffynhonnell ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Daw gwybodaeth am y fferyllfeydd sydd wedi'u hachredu i ddarparu gwasanaethau ychwanegol a gwell o Gronfa Ddata Fferylliaeth Cymru Gyfan, tra bod nifer y fferyllfeydd sy'n darparu gwasanaethau MUR, DMR, EC, SFV a CAS, a’r niferoedd ar gyfer pob un o’r gwasanaeth a ddarperir, yn cael eu lunio ar sail y fferyllfeydd sy'n cyflwyno ceisiadau am daliad am ddarparu'r gwasanaethau. Mae'r nifer sy'n darparu'r gwasanaethau yn debygol o fod yn is na'r nifer a achredwyd i'w darparu gan na fydd pob fferyllfa yn darparu'r gwasanaethau bob blwyddyn.

Cwmpas

Mae ystadegau fferylliaeth gymunedol yn ymwneud â gwasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol sydd â chontract gyda byrddau iechyd lleol i weinyddu presgripsiynau'r GIG. O ganlyniad, dylai pob fferyllfa fod wedi’i chynnwys ac nid oes unrhyw bryderon bod unrhyw ddata ar goll.

Cyflwynir ystadegau ar gyfer blynyddoedd ariannol (1 Ebrill tan 31 Mawrth).

Ystadegau cyhoeddedig ar wasanaethau fferylliaeth yng Nghymru

Cyhoeddir datganiad ystadegol blynyddol llawn drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr holl ddata a nodir yn yr Adran 'Beth yw'r ystadegau hyn?' ac mae data manylach wedi'i gynnwys yn y tablau Excel sydd ynghlwm.

Cyhoeddir y rhan fwyaf o'r data ar StatsCymru hefyd.

Cyhoeddir datganiad ystadegol ar wahân: Presgripsiynau yng Nghymru hefyd sy'n cynnwys data rhagnodi manwl. Bydd nifer y presgripsiynau a weinyddir fel y'u cyhoeddwyd yn y datganiad gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yng Nghymru yn wahanol i nifer y presgripsiynau a weinyddir yn y datganiad presgripsiynau yng Nghymru am amryw o resymau, gan gynnwys:

  • Dim ond presgripsiynau a weinyddir o fferyllfeydd cymunedol y mae'r datganiad fferylliaeth gymunedol yn eu cyfrif , tra bod y datganiad presgripsiynau yng Nghymru yn cyfrif presgripsiynau gan feddygon teulu yng Nghymru sy'n cael eu gweinyddu o unrhyw fferyllfa neu feddygfa deulu sy'n cynnig y gwasanaeth hwnnw.
  • Mae'r datganiad fferylliaeth gymunedol yn cyfrif presgripsiynau a weinyddir, waeth ble mae'r meddyg teulu sy'n rhagnodi wedi'i leoli; ond dim ond presgripsiynau gan feddygon teulu yng Nghymru y mae'r datganiad presgripsiynau yng Nghymru yn eu cyfrif.

Beth yw defnyddiau posibl yr ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i Weinidogion
  • llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
  • sicrhau bod data ar gael i'r cyhoedd ar wasanaethau fferylliaeth gymunedol yng Nghymru
  • monitro'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
  • datblygu polisi

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hwn?

Y prif ddefnyddwyr yw:

  • gweinidogion, aelodau o'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • sefydliadau'r GIG, gan gynnwys byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • fferyllwyr
  • yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
  • meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru  
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • cwmnïau preifat a dinasyddion unigol

Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac nad ydych chi'n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cwmpasu'n ddigonol, neu os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cryfderau a chyfyngiadau'r data

Cryfderau

  • Mae'r allbynnau yn rhoi trosolwg ystadegol o nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a'r lefelau gweithgarwch y maent yn eu cynnig o fewn y casgliad o wasanaethau a gynigir ganddynt.
  • Mae gan y data gwmpas rhagorol a dylai gwmpasu pob fferyllfa gymunedol sydd â chontract gyda byrddau iechyd lleol yng Nghymru.
  • Mae'r allbynnau'n canolbwyntio'n glir ar Gymru ac fe'u datblygwyd i ddiwallu anghenion mewnol ac allanol defnyddwyr yng Nghymru. Nod y datganiadau hyn yw llywio polisi Llywodraeth Cymru ar gynllunio a darparu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.
  • Caiff y wybodaeth ei phrosesu a'i chyhoeddi'n rheolaidd ac mewn modd trefnus i alluogi defnyddwyr i weld yr ystadegau pan fyddant yn gyfredol ac o'r diddordeb mwyaf.
  • Gwnaed defnydd effeithlon o ffynonellau data gweinyddol i gynhyrchu allbynnau, gan gynnwys defnyddio data megis Cronfa Ddata Fferylliaeth Cymru Gyfan. (AWPD).
  • Darperir ystadegau manwl drwy ein gwefan StatsCymru.

Cyfyngiadau

  • Nid oes data ar y gweithlu fferylliaeth gymunedol ar gael.
  • Nid oes data ar gael ar ddarpariaeth gwasanaethau fferylliaeth yn y Gymraeg.
  • Cyhoeddir data cryno ar lefel bwrdd iechyd lleol; gellid darparu data ar lefel awdurdod lleol pe bai galw am hynny.
  • Mae data bwrdd iechyd lleol yn seiliedig ar leoliad y fferyllfa gymunedol; nid oes data ar gael ar fwrdd iechyd preswyl y defnyddiwr gwasanaethau.
  • Gan fod polisi fferylliaeth gymunedol yn bwnc datganoledig, gyda gwahanol lywodraethau’n gwneud penderfyniadau polisi gwahanol, prin yw'r cymariaethau rhwng gwledydd eraill y DU.
  • Mae Gwasanaethau Presgripsiwn, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, wedi dweud, oherwydd y prosesau cymhleth dan sylw, y gallai fod gwallau o ran cipio gwybodaeth am bresgripsiynau a adlewyrchir wedyn yn y data. Mae prosesau sicrhau ansawdd mewnol yn bodoli ac, ar hyn o bryd, mae'r gweithgarwch prosesu presgripsiynau’n cael ei archwilio'n fewnol ar gyfer 2019-20 gyda chywirdeb o 99.8% (h.y. mae o leiaf 99.8% o bresgripsiynau'n cael eu prosesu'n gywir).

Diffiniadau

Eitemau a weinyddir

Mae eitem a weinyddir yn cyfeirio at un eitem a ragnodir gan feddyg (neu ddeintydd) ar ffurflen bresgripsiwn. Os yw ffurflen bresgripsiwn yn cynnwys tair eitem, caiff ei chyfrif fel tair eitem a weinyddir. Gall eitem bresgripsiwn fod ar gyfer swm amrywiol e.e. 14, 28 neu 56 tabled.

Gwasanaethau

O dan fframwaith cytundebol y gwasanaethau fferyllol, rhennir gwasanaethau’n dri chategori:

  • gwasanaethau hanfodol y mae'n rhaid i bob fferyllfa gymunedol eu darparu
  • gwasanaethau uwch y gall pob fferyllfa gymunedol ddewis eu darparu, cyn belled â'u bod yn bodloni meini prawf penodol
  • gwasanaethau ychwanegol a gomisiynir yn lleol gan Fyrddau Iechyd i adlewyrchu anghenion y boblogaeth leol

Mae rhagor o fanylion ar gael drwy GIG Cymru.

Gwasanaethau hanfodol

Gwasanaethau hanfodol yw'r rhai y mae'n rhaid i bob contractwr fferylliaeth gymunedol eu darparu fel arfer. Maent yn wasanaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac nid ydynt yn agored i drefniant lleol fel arfer. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gweinyddu, ail-weinyddu, gwaredu meddyginiaethau diangen, hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chymorth ar gyfer hunanofal.

Gwasanaethau uwch

Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau

Rhaid achredu safleoedd fferylliaeth a rhaid i fferyllwyr gael eu hyfforddi a'u cofrestru i allu darparu Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau (MURs). Mae MUR yn golygu bod fferyllwyr yn adolygu defnydd y cleifion o'u meddyginiaethau i wella eu dealltwriaeth o sut y dylid eu cymryd ac unrhyw sgil-effeithiau posibl.

Adolygiadau o Feddyginiaethau wrth Ryddhau

Cyflwynwyd y Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau (DMR) yng Nghymru ar 1 Tachwedd 2011. Nod y gwasanaeth DMR yw rhoi cymorth i gleifion a ryddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddar drwy sicrhau bod newidiadau a wneir i'w meddyginiaethau’n cael eu gwneud fel y'u bwriadwyd yn y gymuned.

Mae 'adolygiadau defnyddwyr offer' a'r 'gwasanaeth addasu stoma' yn wasanaethau uwch hefyd.

Gwasanaethau ychwanegol

Gwasanaethau oriau ychwanegol (yn cynnwys oriau estynedig a rota Gŵyl y Banc)

TDarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod cyfnod agor estynedig er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad prydlon at feddyginiaethau y tu allan i oriau arferol (boed hynny am y cyfnod hwnnw i gyd neu ran ohono).

Gwasanaeth sgrinio firysau a gludir yn y gwaed

Mae'n cynnwys sgrinio gwaed yn y fan a'r lle ar gyfer pobl sy'n wynebu risg o gael feirysau a gludir yn y gwaed megis hepatitis C a gwasanaethau atgyfeirio i driniaeth.

Gwasanaeth anhwylderau cyffredin

Mae'n golygu darparu cyngor a chymorth i bobl ar reoli mân anhwylderau cyffredin, gan gynnwys, lle y bo'n briodol, cyflenwi meddyginiaethau ar gyfer trin yr anhwylder hwnnw i'r bobl hynny a fyddai wedi mynd at eu meddyg teulu am gyngor neu bresgripsiwn fel arall.

Therapi a Arsylwyd yn Uniongyrchol

Arsylwi ar gleifion sy'n cymryd meddyginiaethau rhagnodedig i sicrhau eu bod yn cadw at gynllun triniaeth y cytunwyd arno, gan amlaf ar gyfer meddyginiaethau lle dangoswyd bod y problemau sy'n gysylltiedig â chydymffurfiaeth wael yn sylweddol (e.e. wrth drin twbercwlosis).

Gwasanaeth Presgripsiwn Annibynnol

Mae'n cynnwys darparu cyngor a chymorth i bobl ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau lle gall y fferyllydd ragnodi yn ogystal â chyflenwi triniaeth.

Gwasanaeth Adolygu Anadlyddion

Mae'n golygu darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n defnyddio anadlyddion i reoli eu salwch anadlol (e.e. asthma neu COPD) ac mae'n cynnwys gwirio techneg anadlydd a chynghori ar newidiadau i anadlyddion i wella canlyniadau triniaeth.

Rheoli meddyginiaethau mewn gofal cartref (y Gwasanaeth cymorth asesu a chydymffurfio â meddyginiaethau gynt (gan gynnwys darparu Cofnodion Rhoi Meddyginiaethau (Siartiau MAR))

Darparu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu cleifion a gofalwyr i sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu cymryd yn ddiogel ac yn effeithiol, a gallant gynnwys darparu siartiau cofnodion rhoi meddyginiaethau (MAR) a/neu ddyfeisiau cydymffurfio; a darparu MURs ychwanegol a gomisiynir gan fyrddau iechyd fel gwasanaethau ychwanegol.

Cynlluniau mân anhwylderau/anafiadau

Darparu cyngor a chymorth i bobl ar reoli mân anhwylderau yn cynnwys mân anafiadau, gan gynnwys, lle bo angen, cyflenwi meddyginiaethau neu orchuddion ar gyfer trin y mân anhwylder i'r bobl hynny a fyddai wedi defnyddio eu meddyg teulu neu un o wasanaethau eraill y GIG fel arall. Yn cynnwys 'brysbennu a thrin' lle caiff mân anafiadau arwynebol eu trin yn y fferyllfa yn hytrach na gorfod ymweld â meddyg neu Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Gallai'r mathau o anafiadau y gellir eu trin o dan y gwasanaeth hwn gynnwys mân grafiadau, toriadau a chlwyfau arwynebol, ysigiadau a mân losgiadau.

Cyngor fferyllol i gartrefi gofal

Darparu cyngor a chymorth i'r preswylwyr a'r staff mewn cartref gofal i sicrhau bod meddyginiaethau a chyfarpar yn cael eu harchebu'n briodol ac yn effeithiol, eu storio, eu cyflenwi a'u rhoi yn ddiogel, bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a bod camau priodol yn cael eu cymryd i leihau nifer yr achosion o ddefnyddio meddyginiaethau penodedig mewn cleifion sy'n wynebu risg o niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau.

Cynllun gofal lliniarol 'Wrth Gefn'

Darparu meddyginiaethau gofal lliniarol i gleifion y rhagwelir y gallai eu cyflwr meddygol ddirywio i fod yn salwch angheuol.

Gwasanaethau gofal lliniarol y tu allan i oriau arferol

Cadw cyflenwad o feddyginiaethau arbenigol y cytunwyd arnynt y gellir wedyn eu gweinyddu ar gyfer cleifion sy'n derbyn gofal lliniarol heb oedi diangen; gall fod galw brys am feddyginiaethau o'r fath a/neu gall y galw fod yn anwadal.

Darparu dulliau atal cenhedlu brys

Darparu dulliau atal cenhedlu brys a chyngor iechyd rhywiol drwy fferyllfa gymunedol.

Gwasanaeth Meddyginiaethau Achub Anadlol

Cyflenwi 'Pecyn Achub' o feddyginiaethau i gleifion â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) neu asthma sydd fel arfer yn cynnwys cyflenwad byr o gorticosteroid, sef gwrthfiotig i'w ddefnyddio yn unol â chynllun hunan-reoli COPD neu asthma cleifion.

Gwasanaeth brechu rhag ffliw tymhorol (SFV)

Darparu brechiad gan y GIG yn erbyn ffliw tymhorol i bobl dros 65 oed neu bobl mewn grŵp sy'n wynebu risg gan fferyllydd.

Rhoi'r gorau i ysmygu lefel 2

Darparu therapi disodli nicotin (NRT) i gleifion sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu ac sy'n cymryd rhan mewn gwasanaethau cymorth ymddygiad.

Rhoi'r gorau i ysmygu lefel 3

Darparu cyngor a chymorth ymddygiad un-i-un i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu.

Profi a thrin dolur gwddf

Mae'n cynnwys asesu'r bobl sy'n dod i’r fferyllfa gyda dolur gwddf, gan gynnwys, lle y bo'n briodol, archwiliad a swab o'r gwddf i ganfod a oes gan glaf haint bacteriol. Lle bo angen, cyflenwir gwrthfiotigau.

Rhoi meddyginiaeth ragnodedig dan oruchwyliaeth (camddefnyddio sylweddau)

Goruchwylio cleifion wrth gymryd meddyginiaethau penodedig ar bresgripsiwn er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at gynllun triniaeth y cytunwyd arno ac atal meddyginiaethau sydd â'r potensial o gael eu camddefnyddio rhag cael eu dargyfeirio (e.e. opiadau).

Cyfnewid chwistrellau a nodwyddau

Darparu nodwyddau a chwistrellau di-haint, offer chwistrellu a chynwysyddion offer miniog i ddychwelyd offer a ddefnyddiwyd.

Gwasanaethau cydymffurfiaeth meddyginiaethau twbercwlosis

Mae'r gwasanaeth hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r fferyllydd oruchwylio'r defnydd o feddyginiaethau gwrth-dwbercwlosis wrth eu rhoi yn y fferyllfa, gan sicrhau bod y dos wedi'i roi i'r claf.

Cynllun lleihau gwastraff

Mae'n golygu sicrhau mai dim ond y meddyginiaethau hynny sydd eu hangen ar y claf y mae'r fferyllfa yn eu cyflenwi.

Gwasanaethau eraill

Gwasanaethau a ddarperir gan lai na 5 fferyllfa.

Contractwr offer

Mae gan bob contractwr offer a fferylliaeth gymunedol drefniant gyda bwrdd iechyd lleol i weinyddu presgripsiynau'r GIG. Mae'r trefniant yn pennu'r safle a'r contractwr a enwir. Gall fferyllfeydd cymunedol weinyddu'r casgliad llawn o gyffuriau ac offer, ond mae contractwyr offer wedi'u cyfyngu i gyflenwi offer fel y'u rhestrir yn Rhan IXA/B/C o'r Tariff Cyffuriau misol a gyhoeddir gan Is-adran Prisio Presgripsiynau Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Rheoli rheoliadau mynediad

Mae rheoliadau rheoli mynediad yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw fferyllfa yng Nghymru sy'n dymuno cael contract GIG i weinyddu presgripsiynau'r GIG fodloni'r Bwrdd Iechyd ei bod hi naill ai'n 'angenrheidiol' neu'n 'ddymunol' caniatáu'r cais i sicrhau bod gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu'n ddigonol mewn cymdogaeth benodol. Mae angen caniatâd hefyd ar gyfer mân adleoliadau a newid perchnogaeth. Mae mân adleoliadau’n cynnwys fferyllfeydd sy'n dymuno adleoli dros bellter byr o fewn yr un gymdogaeth. Dim ond os darperir yr un gwasanaethau ag o'r blaen, os nad oes unrhyw darfu ar y gwasanaethau a ddarperir ac os nad oes unrhyw adleoli y caniateir newid perchnogaeth. Noder y daeth rheoliadau'r gwasanaeth fferylliaeth i rym yng Nghymru ar 10 Mai 2013.

Ardal dan reolaeth

Ardal y mae'r bwrdd iechyd lleol perthnasol yn penderfynu ei bod yn wledig ei chymeriad at ddiben penderfynu ar geisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol y GIG yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Gwasanaethau Fferyllol y GIG (Cymru) 1992/662 fel y'u diwygiwyd neu reoliad 6 o Reoliadau Gwasanaethau Fferyllol y GIG (Cymru) 2013/898.

Cylch prosesu data

Casglu data

Darperir manylion y gwasanaethau a ddarperir gan bob fferyllfa gymunedol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru o Gronfa Ddata Fferylliaeth Cymru Gyfan.

Ceir data rhagnodi, gan gynnwys nifer y fferyllfeydd a phresgripsiynau a roddir ym mhob bwrdd iechyd lleol, gan Wasanaethau Gofal Sylfaenol, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, ynghyd â gwybodaeth fanylach am ddarparu'r brechlyn ffliw tymhorol a dulliau atal cenhedlu brys, a'r ymgynghoriadau a gynigir o dan y 'Cynllun Anhwylderau Cyffredin’.

Darperir gwybodaeth am geisiadau i agor fferyllfa gymunedol ynghyd â chyfrif o'r nifer sy'n agor a chau ym mhob bwrdd iechyd lleol drwy'r ffurflen PHS1W gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Cyflwynir data ar daenlenni Excel drwy Afon, system trosglwyddo data gwe ddiogel Llywodraeth Cymru.

Ystadegwyr Llywodraeth Cymru sy'n cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru lle bo angen. Bydd y gwiriadau dilysu hyn yn cynnwys camau megis:

  • mae pob fferyllfa gymunedol yn bresennol ym mhob darn o ddata
  • mae’r gwasanaethau a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol wedi'u cynnwys yn nata'r blynyddoedd diweddaraf
  • sicrhau bod unrhyw wasanaethau newydd wedi'u cynnwys a gofyn am eglurhad ar yr hyn mae'r gwasanaeth newydd yn ei gynnwys
  • mae gwybodaeth gyfanredol yn unol â'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn seiliedig ar ddata blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wybodaeth gyd-destunol
  • unrhyw newidiadau i'r clystyrau fferylliaeth, a diweddaru manylion os oes angen

Ar ôl ei ddilysu, cyhoeddir data yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a mynediad at ddata sy'n cael ei lywio gan y golofn dibynadwyedd sydd wedi'i chynnwys yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ym mis Medi bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, cyhoeddir ystadegau mewn tudalen we html gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru a thablau cryno atodol a gyhoeddir yn Excel.

Datgelu a chyfrinachedd

Cyhoeddir data ar lefel bwrdd iechyd lleol a chenedlaethol cyfanredol, heb fawr ddim risg o ddatgelu gwybodaeth am unrhyw unigolyn neu fferyllfa. Bydd gwiriadau'n dal i gael eu cynnal a bydd niferoedd bach penodol yn cael eu hatal os bydd angen.

Ni dderbynnir unrhyw wybodaeth bersonol yn ymwneud â manylion megis enw cyntaf, cyfenw neu ddyddiad geni gan Lywodraeth Cymru yn y set ddata hon.

Symbolau a chonfensiynau talgrynnu

Lle mae ffigurau wedi'u talgrynnu, efallai y bydd yn ymddangos bod anghysondeb rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a'r cyfanswm. Defnyddir y symbolau canlynol yn y tablau:

..  Nid yw'r eitem ddata ar gael

.  Nid yw'r eitem ddata’n berthnasol

-  Nid sero yn union yw'r eitem ddata, ond amcangyfrifir ei bod yn sero neu'n llai na hanner y digid terfynol a ddangosir

*  Mae'r eitem ddata yn ddadlennol neu ddim yn ddigon cadarn i'w chyhoeddi

Gwybodaeth o ansawdd

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu Colofn ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol. Nod y datganiad ystadegol hwn yw bodloni'r egwyddorion ansawdd hyn yn y ffyrdd canlynol:

Egwyddor 11: Perthnasedd

Mae'r ystadegau a gynhyrchir yn cefnogi penderfyniadau polisi gwasanaethau fferylliaeth gymunedol a chynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae ystadegau’n cefnogi dadansoddiad o bynciau allweddol hefyd megis atal cenhedlu brys a'r brechlyn ffliw tymhorol.

Gall yr ystadegau a gyflwynir lywio trafodaethau a chraffu cyhoeddus.

Cyhoeddir gwybodaeth gefndir am ystadegau a ffynonellau ar gyfer defnyddwyr ac mae'n annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod i ni sut y maent yn defnyddio'r data.

Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol cyn gwneud newidiadau a, lle bo modd, yn rhoi cyhoeddusrwydd i newidiadau ar y rhyngrwyd ac mewn pwyllgorau a rhwydweithiau eraill er mwyn ymgynghori â defnyddwyr yn ehangach. Ein nod yw ymateb yn gyflym i newidiadau polisi er mwyn sicrhau bod ein hystadegau’n parhau yn berthnasol.

Egwyddor 12: Cywirdeb a dibynadwyedd

Daw'r rhan fwyaf o'r data a gynhwysir o ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir wrth reoli'r gwasanaeth ac maent yn rhan o fframwaith cytundebol.

Mae Gwasanaethau Presgripsiwn, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, wedi dweud, oherwydd y prosesau cymhleth dan sylw, y gallai fod gwallau o ran cipio gwybodaeth am bresgripsiynau a adlewyrchir wedyn yn y data. Mae prosesau sicrhau ansawdd mewnol yn bodoli ac, ar hyn o bryd, mae'r gweithgarwch prosesu presgripsiynau’n cael ei archwilio'n fewnol ar gyfer 2019-20 gyda chywirdeb o 99.8% (h.y. mae o leiaf 99.8% o bresgripsiynau'n cael eu prosesu'n gywir).

Egwyddor 13: Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir ystadegau cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser perthnasol. Yn gyffredinol, cyflenwir data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwedd yr haf/ddechrau'r hydref, a chyhoeddir datganiad blynyddol ym mis Hydref.

Mae'r holl allbynnau'n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r calendr sydd ar y gweill. At hynny, cyhoeddir dyddiadau cyhoeddi ymhell ymlaen llaw a chyfathrebir unrhyw oedi drwy hysbysiadau ar ein gwefan. Mae unrhyw ddiwygiadau neu ohiriadau i allbynnau yn dilyn y polisïau Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau a gyhoeddwyd ar-lein.

Egwyddor 14: Cydlyniaeth a chymaroldeb

Mae'r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar systemau casglu data a diffiniadau sy'n gyson ar draws pob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru.

Darperir data StatsCymru ar nifer y fferyllfeydd cymunedol mor bell yn ôl â 1998-99 ar lefel Cymru a 2004-05 ar lefel bwrdd iechyd lleol.

Darperir data ar rai gwasanaethau uwch ac ychwanegol o'r flwyddyn y cawsant eu cynnig gan fferyllfeydd cymunedol.

Sylwer bod darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Cadarnhawyd enwau'r byrddau iechyd mewn datganiad ysgrifenedig, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data tebyg ar gyfer gwledydd eraill y DU ar gael yma:

Lloegr, gwasanaethau fferyllol cyffredinol

Yr Alban, data a gwybodaeth am fferyllfeydd a phresgripsiynau

Gogledd Iwerddon, ystadegau fferyllwyr

Gellir cymharu'r rhan fwyaf o'r data ar gyfer Cymru â data Lloegr, ond mae rhai achosion lle na ellir gwneud hynny. Gellir cymharu'r eitemau data canlynol:

  • cyfrifiadau fferylliaeth gymunedol
  • gweithgarwch gweinyddu fferylliaeth gymunedol
  • perchnogaeth fferylliaeth gymunedol gan gynnwys diffiniadau o gontractwr annibynnol a chontractwr lluosog
  • adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau
  • adolygiadau o'r defnydd o offer ac addasu offer stoma
  • gwasanaethau ychwanegol lleol

Ni ellir cymharu'r eitemau data canlynol:

  • ceisiadau fferylliaeth gymunedol – mae'r rhain yn wahanol gan fod data Cymru yn seiliedig ar Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 a data Lloegr yn seiliedig ar ddeddfwriaeth Rheoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) 2005.
  • apelau – ni ellir cymharu'r rhain chwaith gan eu bod yn seiliedig ar y rheoliadau ceisiadau fferylliaeth sy'n gymwys.
  • adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau – cyflwynodd Cymru y gwasanaeth yn 2011 ac ni chyflwynwyd y gwasanaeth yn Lloegr.
  • Gwasanaeth meddyginiaethau newydd – cyflwynodd Lloegr y gwasanaeth yn 2011 ac ni chyflwynwyd y gwasanaeth yng Nghymru.

Egwyddor 15: Hygyrchedd

Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus a gyhoeddwyd ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae negeseuon RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir y datganiadau ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol ar yr un pryd hefyd.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i ddatganiadau ystadegol ar Twitter ac mae pob datganiad ar gael i'w lawrlwytho am ddim.

O 2020 ymlaen, cyhoeddir y datganiad ystadegol mewn fformat html. Darperir testun Alt ar gyfer pob siart a thabl fel y gellir eu darllen gyda darllenydd sgrin.

Cyhoeddir data ar StatsCymru (cyfrwng data agored am ddim sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, creu a lawrlwytho tablau) a hefyd mewn tablau atodiadau mewn taenlen Excel.

Defnyddir Cymraeg clir gymaint â phosibl yn ein hallbynnau, ac mae pob allbwn yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir ein holl benawdau tudalen we yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac fel arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaeth gyhoeddus.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn Reoliad llawn Ystadegau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol yng Nghymru ddiwethaf yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cyhoeddi’r datganiad ystadegol mewn fformat html, gyda data mwy agored yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru.
  • Diweddaru’r adroddiad ansawdd ac adnewyddu’r sylwebaeth yn y datganiad.

Lledaenu

O ystyried y cryfderau a'r cyfyngiadau a restrir uchod, mae data fferylliaeth gymunedol o ansawdd digonol i gyfiawnhau ei gyhoeddi. Cyhoeddir datganiad ystadegol cryno gyda chrynodebau lefel uchel ac mae'n gysylltiedig â thablau data Excel manwl. Cyhoeddir tablau data rhyngweithiol pellach ar StatsCymru.