Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau gweithredol ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant yn ystod COVID-19 gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol
  • darparwyr cartrefi gofal i blant
  • gwasanaethau mabwysiadu
  • gwasanaethau maethu

Cefndir

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cyflwyno heriau digynsail i deuluoedd agored i niwed ac wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau plant. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y gwasanaethau plant a’u partneriaid am ddal i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac am y cyflymder y bu’n rhaid i weithwyr proffesiynol addasu eu harferion i gefnogi teuluoedd agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar ddarparu cymorth parhaus i blant agored i niwed, plant sy'n wynebu risg a phlant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd, yn ystod y cyfnod hwn ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Rhannwch â'ch timau a gallwch fod yn sicr ein bod yn gweithio'n galed i barhau i ddarparu canllawiau a fydd yn eich cynorthwyo wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Nodwch y gall y canllawiau cyfredol newid yn unol â chyfraddau trosglwyddo yn y gymuned. Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r gwasanaethau cymdeithasol i blant i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd newidiol a mesurau iechyd y cyhoedd.

Ystyr 'plentyn' a 'plant' yn y canllawiau hyn yw plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Gall y term 'y rhai sy'n gadael gofal' fod yn berthnasol i rai pobl ifanc hyd at 25 oed.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar COVID-19 ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar feysydd fel gweithwyr hanfodol, profi am y coronafeirws a'r defnydd priodol o Gyfarpar Diogelu Personol.

Rydym yn cydnabod y bydd teuluoedd yn wynebu pwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Er mwyn sicrhau diogelwch a llesiant eich staff a'r plant a'r teuluoedd rydych yn eu cefnogi, mae'n hollbwysig eich bod yn darparu gwasanaethau mewn ffordd sy'n gyson â chyngor gwyddonol arbenigol Llywodraeth Cymru.

Cofiwch y gall y cyngor gwyddonol newid, gan newid y canllawiau yn sgil hynny. Mae’r wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf gan Llywodraeth Cymru am y coronafeirws ar gael yn https://llyw.cymru/coronafeirws

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau hyn i PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru

Y gynulleidfa

Dylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan bawb sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • hybu llesiant plant agored i niwed, gan gynnwys y rhai hynny sydd â chynllun gofal a chymorth eisoes
  • diogelu plant sy'n wynebu risg, gan gynnwys y rhai hynny sydd â chynllun gofal, cymorth ac amddiffyn eisoes
  • asesu a chynllunio gofal a chymorth ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd
  • gwneud ac adolygu penderfyniadau ar leoli plant sy'n derbyn gofal, y rhai sy'n gadael gofal a phlant sydd wedi'u mabwysiadu

Dylai'r canllawiau hyn gael eu cymhwyso fesul achos, gan sicrhau bod y canlyniad gorau i blant wrth wraidd y broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau. Mae cofnodi penderfyniadau a dangos pam a sut y cawsant eu gwneud yn parhau i fod yn gyfrifoldeb allweddol wrth gymhwyso'r canllawiau hyn. Mae canfod dymuniadau a theimladau plant yn ganolog i waith cymdeithasol. Dylid cyfathrebu penderfyniadau, a’r rhesymeg dros wneud y penderfyniadau hynny yn glir i blant a phobl ifanc.

Nod y canllawiau hyn yw:

  • annog dull hyblyg a phragmataidd o gynnal cymorth i blant sy'n derbyn gofal a phlant agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws newydd ac wrth i’r cyfyngiadau lacio
  • cydnabod y meysydd o ddarpariaeth lle y bydd awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd bodloni eu gofynion statudol, a rhoi canllawiau ar y mesurau y dylid eu rhoi ar waith yn unol ag ysbryd y gyfraith
  • lleihau effaith y coronafeirws newydd ar Wasanaethau Plant a phartneriaid i'r eithaf pan fydd llai o adnoddau i ymdopi â phwysau ychwanegol, ac wrth i arferion gwaith eraill gael eu cyflwyno a’u darparu
  • hyrwyddo gwaith partneriaeth ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd

Mesur dros dro yw'r canllawiau hyn mewn ymateb i'r amgylchiadau digynsail rydym wedi eu hwynebu. Cafodd y canllawiau eu cyhoeddi’n wreiddiol ar 23 Ebrill 2020 ac maent wedi bod yn cael eu diweddaru o bryd i’w gilydd.  Byddant yn parhau ar waith nes clywir yn wahanol.

Fframwaith adfer ar gyfer gwasanaethau plant

I gefnogi cynllun yr awdurdodau lleol i adfer gwasanaethau plant arferol pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio yn yr haf, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Penaethiaid Gwasanaethau Plant a rhanddeiliaid i ddatblygu Fframwaith Adfer. Mae’r Fframwaith yn sefydlu trywydd realistig a chyson ar gyfer adfer gwasanaethau cymdeithasol i blant; addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu o’r profiadau cadarnhaol yn ystod y cyfnod clo. Mae’n sefydlu egwyddorion gweithio i helpu awdurdodau lleol i gynllunio mewn ffordd gyson ac ar y cyflymder sy’n addas i’r awdurdodau lleol unigol. Mae’r egwyddorion hyn yn canolbwyntio ar gefnogi blaenoriaethu gwaith a gwasanaethau, cynnal llesiant y gweithlu, darparu lleoliadau, cyswllt â phlant a theuluoedd ac ymgysylltiad â’r Farnwriaeth.

Egwyddorion

Mae gan awdurdodau lleol a'u partneriaid diogelu perthnasol ddyletswyddau penodol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y Codau Ymarfer a'r canllawiau statudol sy'n gysylltiedig â diogelu a hybu llesiant plant.  

Wrth gymhwyso'r canllawiau hyn, dylai awdurdodau lleol a'u partneriaid barhau i weithio mewn ffordd arloesol i gyflawni eu dyletswyddau statudol. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn parhau i archwilio hyblygrwydd mewn rheoliadau a chanllawiau wrth i'r sefyllfa ddatblygu. 

Wrth gynllunio'r ffordd ymlaen, dylid ystyried darparu gwasanaethau fesul cam: 

Tabl
Statws Y gwasanaeth a ddarperir 

Coch (cyfnod clo) 

Bydd ymarferwyr ar gael i ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn electronig, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymweliadau wyneb yn wyneb yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol.

Oran

Bydd ymarferwyr yn parhau i ymgysylltu â phlant o bell, oni bai ei bod yn angenrheidiol ac yn ddiogel iddynt gyfarfod â nhw'n bersonol, ar ôl ystyried egwyddor asesu risg cam dau.

Gwyrdd Pan gaiff cyfyngiadau COVID-19 eu codi, ni fydd angen i ymarferwyr ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar asesu risg, a dylid defnyddio'r ystod lawn o ddulliau rhyngweithio unwaith eto, gan gynnwys cyswllt o bell, ymweliadau a chyswllt wyneb yn wyneb.

Yn seiliedig ar y dull gweithredu fesul cam uchod, ar adeg cyhoeddi'r canllawiau hyn, rydym ar y cam Coch. Wrth wneud penderfyniadau am sut i ddarparu gwasanaethau, neu benderfyniadau am blant unigol, dylai'r egwyddorion canlynol lywio gwaith pawb.   

i. Hybu llesiant a diogelu:

  • mae'n ofynnol i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran i ddiogelu plant a helpu i hybu eu llesiant
  • caiff gwybodaeth ei rhannu'n unol â'r canllawiau ar rannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant
  • parhau i weithio'n rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'r plentyn a'i anghenion o ran gofal, cymorth ac amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys deall yr effaith y gall y trefniadau mewn perthynas â COVID-19 ei chael ar newid yr anghenion hyn
  • cydberthynas waith gydgynhyrchiol â phlant, y rhai sy'n gadael gofal, eu teuluoedd a'u gofalwyr er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn cynnwys egluro i blant a'u teuluoedd yr effaith y gall y trefniadau mewn perthynas â COVID-19 ei chael ar eu gofal a'u cymorth

ii. Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn:

  • mae hawliau a llesiant y plentyn a'i fudd pennaf yn parhau'n hollbwysig
  • cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wrth ystyried effaith y trefniadau mewn perthynas â COVID-19, bydd ymarferwyr yn parhau i geisio clywed barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn, a'u hystyried, a darparu cymorth priodol i alluogi'r plentyn i gyfrannu at y penderfyniadau a wneir amdano
  • dylid ystyried nodweddion, diwylliant a chredoau'r plentyn a'i deulu.

Mae'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol (NASA) yn pennu dull safonol o ddarparu gwasanaethau eirioli statudol yng Nghymru. Mae'r NASA yn cynnwys cynnig gweithredol o eiriolaeth, ac mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael cynnig gweithredol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol statudol pan fyddant yn dechrau derbyn gofal neu'n dod yn destun ymchwiliadau amddiffyn plant sy'n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol.

Mae darparwyr gwasanaethau yn parhau i gynnig pob ymyriad eirioli ar gyfer y cynnig gweithredol ac eiriolaeth sy'n seiliedig ar faterion, gan ddefnyddio technoleg i hwyluso cymorth o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn cael diweddariadau rheolaidd gan ddarparwyr er mwyn monitro effaith COVID-19 ar y cynnig gweithredol.

Sut y dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu gweithgarwch yn ystod yr argyfwng?

Mae COVID-19 wedi rhoi pwysau newydd ac ychwanegol ar blant, y rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd a gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y mwyafrif o Wasanaethau Cymdeithasol Plant yn parhau i asesu risg achosion sydd eisoes ar y gweill a'u bod yn eu hadolygu'n rheolaidd. Disgwylir y bydd pob awdurdod lleol yn parhau i fabwysiadu'r dull gweithredu hwn wrth ystyried rhyngweithiadau personol, gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i rannu gwybodaeth, osgoi dyblygu a sicrhau dealltwriaeth a rennir o anghenion mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc unigol sy'n gadael gofal. Mater i'r awdurdodau lleol fydd penderfynu pryd i gyflwyno cyswllt personol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol a budd gorau'r plentyn/y sawl sy’n gadael gofal. 

Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn bwysig wrth wneud penderfyniadau am achosion newydd sy'n cynnwys plant sydd ag anghenion o ran gofal, cymorth ac amddiffyn o ganlyniad i bwysau ychwanegol COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y newidiadau mewn gwasanaethau cyffredinol ac ataliol wedi rhoi pwysau ychwanegol ar Wasanaethau Cymdeithasol Plant mewn perthynas â chefnogi plant agored i niwed, plant sy'n wynebu risg a'r rhai sy'n gadael gofal.

Dylai awdurdodau lleol weithio gydag asiantaethau partner i ystyried y ffordd orau o gefnogi gwasanaethau hyn, gan fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael. Dylai llesiant y gweithlu barhau i fod yn ystyriaeth allweddol. Bydd y penderfyniadau a wneir mewn un asiantaeth yn effeithio ar drefniadau asiantaethau eraill ac mae'r achos dros weithio'n rhyngasiantaethol yn gryfach nag erioed er mwyn osgoi dyblygu a chau'r bylchau. Mae cofnodi penderfyniadau a dangos pam a sut y cawsant eu gwneud yn parhau i fod yn gyfrifoldeb allweddol i awdurdodau lleol. Dylid sicrhau bod penderfyniadau, a'r rhesymau drostynt, yn cael eu cyfleu'n glir i blant a'u teuluoedd. 

Dylai gwasanaethau plant weithio'n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau addysg, cymorth i deuluoedd ac iechyd er mwyn diwallu anghenion plant a phobl ifanc agored i niwed. Yn benodol, efallai y bydd angen gwaith agosach gyda gwasanaethau lles addysg i sicrhau bod plant a phobl ifanc, nad ydynt wedi dychwelyd i'r ysgol, yn ddiogel ac yn cael eu gweld a'u clywed.

Os bydd ysgolion yn cau neu'n cau'n rhannol oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol, dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gydweithio i nodi'r plant y mae eu hanghenion yn golygu, fel eithriad, y gallent fynychu'r ysgol.  Wrth wneud hynny dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried yr egwyddorion canlynol:

  • rhaid inni sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel, yn cael eu gweld, eu clywed, eu meithrin a'u datblygu
  • dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gydweithio i nodi'r rhai a fyddai'n elwa'n eithriadol o gael mynediad i'r ysgol
  • dylai'r penderfyniad ystyried effaith unrhyw gyfyngiadau ar iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol y plentyn neu'r person ifanc, a datblygiad addysgol
  • dylai'r penderfyniad ystyried sut y gellid lliniaru risgiau peidio â mynychu'r ysgol drwy'r cymorth mwyaf priodol i'r plentyn neu'r person ifanc
  • dylai'r penderfyniad ystyried barn y plentyn neu'r person ifanc a'i rieni/gofalwyr, fel y gellir deall a darparu eu hanghenion drwy'r cymorth mwyaf priodol
  • dylai plant a phobl ifanc gael eu categoreiddio yn ôl penderfyniadau am y risgiau a’r manteision, chael eu blaenoriaethu yn unol â hynny ar gyfer cymorth
  • dylid rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am y penderfyniad
  • dylai'r risgiau i blant a phobl ifanc gael eu hadolygu a'u monitro'n rheolaidd ar sail amlasiantaethol

Mae canllawiau ar gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dysgwyr dan anfantais wedi'u cyhoeddi a gallent helpu i nodi a chefnogi dysgwyr a allai elwa o gymorth ychwanegol.

Cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol plant

Cofrestru gweithwyr cymdeithasol

Yn ystod yr argyfwng presennol, rydym wedi cyflwyno mesurau i helpu cynifer o ymarferwyr â phosibl ar y rheng flaen i fynd i'r afael ag effeithiau’r coronafeirws. Rydym wedi gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn trefnu i weithwyr cymdeithasol a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol gael eu hailgofrestru dros dro.

Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyfarpar diogelu personol

Rydym yn cydnabod bod awydd am ganllawiau clir ar y defnydd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol plant. Mae Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r canllawiau canlynol i'w defnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal, sy'n berthnasol i ofal cymdeithasol plant.

Gweler hefyd nodyn cynghori Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae dolen i'r canllawiau COVID-19: infection prevention and control (IPC) (gan gynnwys tabl 4) i'w gweld ar wefan GOV.UK.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r cyfarpar y dylid ei ddefnyddio ym mhob lleoliad lle bydd rhyngweithio â rhywun (p'un a yw'n symptomatig ai peidio) a lle ceir cyswllt o fewn dau fetr. Maent hefyd yn ymdrin â'r defnydd o fasgiau a gogls os bydd risg o amlygiad i ffactorau fel trosglwyddiad hylif, er enghraifft.

Rhoddir cyngor ymarferol ar gynnal cyswllt â phlant a theuluoedd mewn sefyllfaoedd gwahanol yn yr adran nesaf, gan gynnwys ailgyflwyno cyswllt wyneb yn wyneb a gwasanaethau rheolaidd yn ddiogel.

Mae’r canllawiau ar Atal a Rheoli Haint ac Achosion o COVID-19 mewn Lleoliadau Preswyl yng Nghymru wedi’i ddiweddaru. Mae’n rhoi gwybodaeth am atal haint a mesurau rheoli mewn amryw o leoliadau gan gynnwys rhai i blant. Rydym yn cydnabod bod rhoi’r canllawiau hyn ar waith mewn cartrefi plant wedi bod yn anodd ac y bydd angen gwneud addasiadau fesul achos.

Gwybodaeth am Gyfarpar Diogelu Personol a Phrofion i blant mewn cartrefi preswyl.

Profi am COVID-19

Mae profi gweithwyr allweddol a’r gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth. Rydym yn profi gweithwyr gofal cymdeithasol mewn lleoliadau gofal preswyl a gofal cartref sydd â symptomau er mwyn galluogi’r rhai sy’n cael canlyniad negatif i’w prawf i ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted â phosibl o fewn y cyfnod hunanynysu o saith diwrnod neu'r cyfnod cwarantin i gartrefi o 10 diwrnod. Dylai gweithwyr sydd â symptomau ddechrau hunanynysu yn syth a gwneud cais am brawf. Unwaith y byddant yn gwybod canlyniad y prawf dylent wneud y canlynol:

  1. os yw’n negatif maent yn rhydd i ailddechrau gweithio yn syth 
  2. os yw’n bositif dylent barhau i hunanynysu am weddill y cyfnod o 7 diwrnod a argymhellir, yna cânt ailddechrau gweithio os nad oes ganddynt dymheredd uchel o hyd. 

Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar brofion i'w gweld yn - https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws

Mae gofynion y strategaeth Profi. Olrhain, Diogelu ar gyfer cyflogwyr (gweler y canllawiau) yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion o ran GDPR a'r angen i gofnodi, cadw ac, o bosibl, rhyddhau gwybodaeth bersonol gweithwyr i helpu mewn achos o brofi, olrhain a diogelu.

Canllawiau ar gynnal cyswllt

Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gadw'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol gan gynnwys cadw pellter corfforol yn y gweithle. Yn ogystal, bydd angen iddynt ystyried y canllawiau sy'n ymwneud â hunanynysu a sicrhau bod pob aelod o staff yn gwbl ymwybodol o ofynion y canllawiau hynny. Mae angen iddynt hefyd gydymffurfio â strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru (gweler y paragraffau blaenorol) a sicrhau bod eu staff yn gwbl ymwybodol o'r gofynion hynny hefyd a'r materion sy'n ymwneud â GDPR.

Cyswllt gan weithwyr cymdeithasol

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn pennu cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau pobl ac yn gosod gofynion i sicrhau bod pobl yn parhau i gadw pellter corfforol er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws. Daeth rheolau i ddiogelu gweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws hefyd i rym ar 7 Ebrill, gan orfodi'r rheol cadw pellter corfforol o 2 fetr yn y gweithle.

Wrth ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gymesur, mae’n bwysig parhau i gadw cadw pellter cymdeithasol neu corfforol. Wrth ystyried cyswllt personol ac wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol barhau i asesu risg fesul achos. Bydd gan awdurdodau lleol eisoes eu prosesau asesu risg eu hunain ar waith, a dylai'r rhain barhau. Dylid ystyried egwyddor y broses asesu risg dwy gam – yn seiliedig ar asesu angenrheidrwydd a risg: 
 

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn pennu cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau pobl ac yn gosod gofynion i sicrhau bod pobl yn parhau i gadw pellter corfforol er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws. Daeth rheolau i ddiogelu gweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws hefyd i rym ar 7 Ebrill, gan orfodi'r rheol cadw pellter corfforol o 2 fetr yn y gweithle .

Mae'r broses o lacio'r rheoliadau hyn fesul cam, a ddechreuodd ar 2 Mehefin, yn cefnogi'r broses o adfer gwasanaethau rheolaidd yn raddol mewn ffordd gymesur, gan bwysleisio pwysigrwydd parhaus cadw pellter cymdeithasol neu corfforol. Wrth ystyried cyswllt personol ac wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol barhau i asesu risg fesul achos. Bydd gan awdurdodau lleol eisoes eu prosesau asesu risg eu hunain ar waith, a dylai'r rhain barhau. Dylid ystyried egwyddor y broses asesu risg dwy gam – yn seiliedig ar asesu angenrheidrwydd a risg: 

1.  Asesu angenrheidrwydd

  • p'un a ddefnyddiwyd dulliau cyfathrebu o bell ac nad ystyrir eu bod yn effeithiol mwyach
  • p'un a oes pryderon penodol yn bodoli neu angen cymryd camau gweithredu sy’n golygu ei bod yn angenrheidiol cynnal ymweliad â'r cartref, rhyngweithio'n bersonol neu weld plentyn yn gorfforol
  • p'un a fydd cyswllt corfforol yn helpu i sicrhau lleoliad cadarnhaol neu’n cefnogi proses bontio lwyddiannus, neu p'un a ystyrir ei fod yn arbennig o fuddiol i lesiant ac iechyd meddwl

2. Asesu risg

  • iechyd, natur agored i niwed ac amgylchiadau personol y gweithiwr ac unrhyw unigolyn y bydd yn ei weld wyneb yn wyneb, gan ystyried yn arbennig a oes unrhyw un o'r unigolion yn y 'grŵp sy’n wynebu mwy o risg' neu’r 'grŵp sy’n eithriadol o agored i niwed’ o ran y coronafeirws – yr arferid ei alw’n ‘warchod' a sicrhau nad oes unrhyw apwyntiadau wyneb yn wyneb yn digwydd os oes unrhyw un o'r unigolion (waeth pa mor agored i niwed ydynt) yn dangos symptomau COVID-19
  • yn dangos symptomau COVID-19
  • p'un a yw'r cyfarfod arfaethedig yn rhywle lle y gellir cadw pellter cymdeithasol
  • ystyried oedran a dealltwriaeth unrhyw blentyn a/neu oedolyn dan sylw, p'un a fydd mwy nag un plentyn yn bresennol, neu p'un a oes cymhlethdodau ychwanegol yn gysylltiedig â nam neu ddealltwriaeth
  • y defnydd o gyfarpar diogelu a'r effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar y rhyngweithio arfaethedig

Drwy gydol yr argyfwng hwn, mae awdurdodau lleol wedi parhau i gynnal ymweliadau diogelu statudol wyneb yn wyneb lle mae'r risgiau mwyaf wedi'u nodi a lle yr ystyrir bod y plant ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn ag ailgyflwyno cyswllt personol ar gyfer achosion mwy arferol, dylid ystyried y dull asesu risg dau gam. Mae hyn yn golygu y gall amlder y cyswllt personol â phlant, y rhai sy’n gadael gofal, teuluoedd a gofalwyr barhau i fod yn llai na’r arfer. Fodd bynnag, gall fod sail dros gynyddu amlder y cyswllt yn raddol yn seiliedig ar wybodaeth am anghenion gofal a chymorth y plentyn ar y pryd.

Mae sicrhau bod plant sy'n wynebu risg yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu hamddiffyn yn hollbwysig. Mae cyfrifoldeb ar bawb o ran diogelu plant o hyd, a dylai pob gwasanaeth cyhoeddus barhau i gymryd cyfrifoldeb am gadw plant yn ddiogel a pharhau i godi pryderon. Bydd angen i awdurdodau lleol a gweithwyr cymdeithasol wneud penderfyniadau proffesiynol, hyddysg ynglŷn ag ymweld â phlant sy'n wynebu risg, gan gydbwyso'r risgiau i blant, y rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd a gofalwyr a'r risgiau i'r gweithlu. Dylai gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol ddilyn y canllawiau ar gyfarpar diogelu personol wrth ymweld â chartrefi preifat. Dylid defnyddio dulliau gweithredu gwahanol yn dibynnu a’r p’un a yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol ai peidio. 

Amser teulu (trefniadau cyswllt i blant a’u teuluoedd)

Un o brif egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 yw y dylid sicrhau bod cyswllt parhaus rhwng y plentyn a'i deulu tra bydd y plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol. Dylai trefniadau o'r fath ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a chael eu llywio ganddynt. Gall cyswllt parhaus â brodyr a chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau ac unigolion eraill o bwys fod yn ffactor hollbwysig wrth gefnogi sefydlogrwydd lleoliad. 

Bydd y trefniadau cyswllt presennol wedi'u nodi yng nghynllun gofal a chymorth plentyn sy'n derbyn gofal. Bydd y rhain bob amser yn disgrifio amlder a hyd y cyswllt ag aelodau'r teulu a ph'un a ddylai'r cyswllt hwnnw gael ei oruchwylio ai peidio. Er mwyn cefnogi llinellau cyfathrebu agored, dylai awdurdodau lleol ystyried ffyrdd y gall plant gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn ddiogel pan fydd angen cymorth arnynt. 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am aelwydydd yn cwrdd, gweler y ddolen hon https://llyw.cymru/lefelau-rhybudd-covid-19

Dylai canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar adael eich cartref a gweld pobl eraill gael eu hystyried bob amser wrth i weithwyr cymdeithasol asesu dichonoldeb ymweliadau wyneb yn wyneb â’r teulu. Rydym yn disgwyl y bydd mathau amgen o gyswllt rhwng plant mewn gofal a'u perthnasau biolegol yn parhau hefyd. Mae'n hollbwysig bod plant a theuluoedd yn cadw mewn cysylltiad ar yr adeg anodd hon, ac i rai plant, byddai peidio â gweld perthnasau yn brofiad trawmatig iawn.

Caniateir i aelodau o bedair aelwyd ar wahân (ac unrhyw ofalwyr) gwrdd yn yr awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol. Dylai gweithwyr cymdeithasol ystyried hyn wrth asesu dichonoldeb ymweliadau wyneb yn wyneb â’r teulu. Rydym yn disgwyl y bydd mathau amgen o gyswllt rhwng plant mewn gofal a'u perthnasau biolegol yn parhau hefyd. Mae'n hollbwysig bod plant a theuluoedd yn cadw mewn cysylltiad ar yr adeg anodd hon, ac i rai plant, byddai peidio â gweld perthnasau yn brofiad trawmatig iawn.

Dylai awdurdodau lleol barhau i ystyried ffyrdd y gellir darparu cyfarpar i deuluoedd i'w galluogi i gynnal cyswllt parhaus. Lle y bydd trefniadau cyswllt amgen wedi gweithio’n dda yn ystod y cyfnod hwn, dylid parhau i gynnig y trefniadau hyn hefyd, yn unol â chytundeb pawb dan sylw. Lle na ellir cynnal ymweliadau â’r teulu yn seiliedig ar asesiad unigol, rhaid i hyn gael ei gyfleu’n glir i’r plant a’u teuluoedd.

Dylid ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael wrth wneud trefniadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad, gan gynnwys cymysgedd hybrid o gyfarfodydd yn yr awyr agored a threfniadau rhithwir parhaus. Rydym yn disgwyl i ysbryd unrhyw orchmynion cyswllt a wnaed mewn perthynas â phlant mewn gofal gael eu cynnal, a mater i weithwyr cymdeithasol fydd penderfynu ar y ffordd orau o gefnogi'r adegau rhyngweithio gwerthfawr hynny â'r teulu yn seiliedig ar amgylchiadau pob achos.

Fel y mae’r wybodaeth ddiweddaraf am aelwydydd yn ei egluro, mewn teuluoedd lle y mae cyfrifoldeb rhieni yn cael ei rannu, caiff plant symud rhwng aelwydydd y rhieni. Yn yr un modd, ar gyfer plant mewn gofal nad ydynt yn byw gyda’u rhieni ond sydd â threfniadau eisoes ar waith i ymweld â nhw i gael cysylltiad, cânt barhau â’r trefniadau hynny.

Rydym yn gweithio'n galed ym mhob rhan o'r llywodraeth a gyda'r farnwriaeth er mwyn gwneud yn siŵr bod y system cyfiawnder teuluol yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r Llysoedd Teulu wedi cyhoeddi canllawiau ar gynnal gwrandawiadau llys o bell ac mewn modd hybrid. Dylai awdurdodau lleol geisio sicrhau y caiff gweithwyr cymdeithasol eu cefnogi wrth baratoi ar gyfer y llys ac wrth fynychu gwrandawiadau llys er mwyn osgoi teimladau o unigedd a chefnogi llesiant. 

Cadw mewn cysylltiad â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sydd wedi'u lleoli gyda'u rhieni 

Mae cynnal cyswllt gweithiwr cymdeithasol â theuluoedd, lle mae plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ar ffiniau’r system ofal neu wedi'u lleoli gartref gyda'u rhieni o dan Orchmynion Gofal, yn hollbwysig. Dylai gweithwyr cymdeithasol geisio ailgyflwyno cyswllt wyneb yn wyneb â phlant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, plant ar ffiniau gofal a phlant sydd wedi’u lleoli gyda’u rhieni. Dylai amlder cyswllt wyneb yn wyneb fod yn seiliedig ar asesiad risg, a gaiff ei adolygu’n rheolaidd, a dylai rheolwr gytuno ar yr amlder hwnnw. Dylid parhau i ystyried ffyrdd o gynnal cyswllt o bell lle yr ystyrir bod y risgiau i iechyd yn rhy uchel. Dylai gweithwyr cymdeithasol ystyried manteision cyswllt o bell a sut y gall cymysgedd o ddulliau cysylltu gefnogi plant a theuluoedd yn well, gan barhau i helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau’r risg o haint. 

Bydd gweithwyr cymdeithasol yn brofiadol o ran asesu'r risg o niwed i blant ac mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i'w cefnogi wrth eu gwaith. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod llawer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud hyn a byddem yn disgwyl i'r dull gweithredu hwn gael ei efelychu ledled Cymru. 

Dylid asesu risg unrhyw ymweliad â chartref gan ddefnyddio egwyddor y broses dwy gam a chydymffurfio â chyngor Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol. Os na fydd yn ymarferol nac yn bosibl cynnal pellter cymdeithasol yn ystod ymweliad â chartref, yna dylid dilyn y canllawiau ar gyfarpar diogelwch personol.

Dylid cynnal ymweliadau diogelu statudol i weld plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wyneb yn wyneb o leiaf bob 10 diwrnod gwaith. Os penderfynir, yn dilyn asesiad risg dau gam, y dylid bodloni'r gofyniad hwn drwy gyswllt o bell/rhithwir ar gyfer rhai plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, rhaid i reolwr gytuno â'r penderfyniad hwn a rhaid i'r rhesymeg drosto gael ei gofnodi. Ym mhob achos, dylid adolygu'r risgiau yn aml ac o leiaf unwaith yr wythnos. Rhaid i hyn gael ei gyfleu i'r plant a'u teuluoedd.

Cynadleddau amddiffyn plant cychwynnol, cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol/dilynol a chynlluniau gofal, cymorth ac amddiffyn 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y trefniadau mewn perthynas â COVID-19, gallu'r gweithlu a natur y risg i blant a theuluoedd, sy'n newid yn gyflym, yn cyflwyno heriau gwirioneddol iawn i'r broses o wneud penderfyniadau amlddisgyblaethol am amddiffyn plant a'r broses arferol o lunio cynlluniau gofal, cymorth ac amddiffyn ar gyfer plant unigol.

Fodd bynnag, dylid parhau i gynnal cynadleddau amddiffyn plant cychwynnol a chyfarfodydd grŵp craidd gan ddefnyddio ffyrdd arloesol fel technoleg cyfarfod o bell. Mae'n bwysig bod asiantaethau partner sydd â gwybodaeth am y plentyn, neu sy'n chwarae rôl yn y gwaith o ddiwallu ei anghenion, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir o'r fath. Deallwn fod rhai awdurdodau lleol yn datblygu dulliau gweithredu hybrid er mwyn diwallu anghenion teuluoedd unigol, y gall fod yn well gan rai ohonynt gyfarfod â'u gweithiwr cymdeithasol yn gorfforol, gydag asiantaethau eraill yn ymuno o bell. Rydym yn croesawu'r dulliau arloesol hyn o roi trefniadau sy'n canolbwyntio ar y person ar waith fesul achos gan fod presenoldeb rheini yn hanfodol. 

Dylid cynnwys penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff cyfarfodydd eu cynnal a natur ac amlder y cyswllt â phlant unigol a'u teuluoedd mewn Cynlluniau Gofal, Cymorth ac Amddiffyn yn y ffordd arferol, a'u hegluro i'r teulu. Fodd bynnag, dylid cadw cofnod clir o'r penderfyniadau a wnaed, unrhyw newidiadau o ran lefel y risg a'r ymateb i hynny.  

Cysylltu â theuluoedd / plant

Canllawiau i deuluoedd ar drefniadau cyfarfod yn ystod y cyfyngiadau presennol  

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am aelwydydd yn cwrdd, gweler y ddolen hon https://llyw.cymru/lefelau-rhybudd-covid-19

Sut y gall gofalwyr maeth helpu plant i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd biolegol?

Rydym yn disgwyl y bydd pob plentyn mewn gofal maeth yn parhau i gael ei gefnogi i gynnal cyswllt â'i deulu biolegol a gallu treulio amser gyda'i frodyr a'i chwiorydd, er enghraifft, mewn unrhyw ffordd bosibl. Dylid cefnogi gofalwyr maeth i ystyried ailgyflwyno cyswllt personol mewn mannau awyr agored, yn unol â'r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, neu mewn lleoliadau cymunedol addas yn unol â chytundeb pawb dan sylw a lle y gall y lleoliadau hynny gydymffurfio â'r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a hylendid.

Dylid parhau i gynnal cyswllt drwy alwadau ffôn dyddiol neu reolaidd, sgyrsiau drwy gyswllt fideo, y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau eraill hefyd. Rydym yn cydnabod na fydd gan bob teulu fynediad i'r rhyngrwyd na gliniaduron, ac mewn nifer o achosion efallai mai mynediad cyfyngedig fydd gan blant i ddyfeisiau electronig neu na fydd hawl ganddynt i gael cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, felly bydd angen rhoi ystyriaeth i hyn a chefnogi teuluoedd maeth i helpu plant i gadw mewn cysylltiad, er enghraifft drwy ysgrifennu llythyr.

Dylai'r trefniadau geisio bodloni'r disgwyliadau a bennir yn adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhesymol er mwyn sicrhau y gellir cynnal cyswllt yn y ffordd fwyaf diogel a phriodol o dan yr amgylchiadau presennol. 

Cyswllt drwy orchmynion llys ac achosion sy'n mynd rhagddynt

Bydd y llysoedd yn disgwyl i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol ar ôl ystyried yr holl ffactorau perthnasol. 

Mae Llywydd yr Is-adran Deuluoedd a Phennaeth Cyfiawnder Teuluol Cymru a Lloegr wedi rhoi cyngor yn ei ddatganiad, Coronavirus Crisis: Guidance on Compliance with Family Court Child Arrangement Orders. Er bod y datganiad hwn wedi'i gyfeirio at deuluoedd sydd wedi gwahanu sy'n destun achosion cyfraith breifat, mae'r egwyddorion yn berthnasol. Os bydd cyswllt drwy orchymyn llys, ac na all y cyswllt ddigwydd neu os bydd yn digwydd o bell, dylai awdurdodau lleol gofnodi'r rhesymau dros eu penderfyniadau.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant wedi penderfynu y gall canolfannau cyswllt wneud penderfyniadau annibynnol o ran p'un a allant ailagor eu gwasanaethau, yn eu barn nhw. Bydd parodrwydd canolfannau i allu cynnig gwasanaethau yn amrywio'n sylweddol ac ni ddylai'r un ganolfan ystyried agor ei gwasanaethau os nad yw'n teimlo'n gwbl barod i wneud hynny neu os byddai gwneud hynny'n mynd yn groes i unrhyw gyngor lleol. Bydd natur y cyngor lleol hwn yn amrywio a bydd disgwyl i ganolfannau wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y canllawiau a roddir yng nghyngor cyfredol Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae dyletswydd gyfreithiol ar weithredwr cyfrifol unrhyw gyfleuster o hyd i nodi ac asesu risgiau a rhoi mesurau rhagofalus llawn ar waith sy'n cydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau cyfredol y Llywodraeth. Mae cyfyngiadau o'r fath yn cynnwys materion yn ymwneud â sicrhau bod cyfranogwyr yn cadw pellter corfforol a'r angen i sicrhau y caiff unrhyw arwynebau a chyfarpar cyffredin eu diheintio'n llawn rhwng a chyn i ddefnyddwyr neu grwpiau gwahanol gyffwrdd â nhw, yn ogystal â'r angen i gyfyngu ar nifer yr aelwydydd a all gwrdd ar unrhyw adeg benodol. Os oes trefniadau cyswllt wedi'i oruchwylio ar waith, mae llai o risg o drosglwyddo'r feirws yn yr awyr agored na dan do, felly, lle y bo'n bosibl, dylid trefnu cyfarfodydd yn yr awyr agored er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. 

Dylid parhau i ystyried goruchwylio'r cyswllt drwy ddefnyddio technoleg fideo-gynadledda, gydag aelod o'r staff yn bresennol yn ystod y fideogynhadledd, lle y bo hynny’n ddiogel, er mwyn cynnal lefelau goruchwylio. Os yw'r teulu'n hunanynysu neu'n cael ei warchod, dylai'r aelod o'r staff fod yn bresennol o bell.

Cyswllt â babanod/mamau biolegol

Byddem yn disgwyl i drefniadau cyswllt â babanod newydd-anedig, babanod a phlant bach a'u mamau biolegol gael eu blaenoriaethu. Rydym yn cydnabod y bydd hi'n anodd rheoli cydymffurfiaeth â mesurau cadw pellter cymdeithasol, ond dylid gwneud pob ymdrech i gynnal llesiant y plentyn a'r fam fiolegol yn yr amgylchiadau hyn.

Rhaid rhoi mesurau priodol ar waith i sicrhau bod pawb dan sylw wedi'u hamddiffyn cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosibl, gan ystyried amgylchiadau'r teulu, drwy gadw pellter cymdeithasol a chadarnhau nad oes gan neb dan sylw symptomau COVID-19. Dylid ystyried mesurau ychwanegol er mwyn galluogi cyswllt wyneb yn wyneb gan gynnal pellter cymdeithasol ar yr un pryd, gan gynnwys trefnu cyswllt mewn mannau agored, er mwyn helpu i leihau'r risg o haint. 

Dylid ystyried cynnal asesiad risg dau gam, gan gynnwys iechyd y plentyn a'r rhiant, y risg o haint ac unrhyw bobl eraill agored i niwed sy'n byw ym mhob aelwyd. Dylid gwneud penderfyniadau gan ystyried cyfrifoldebau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol a'r hyn sy'n gyfystyr â chyswllt rhesymol. Dylid darparu tystiolaeth glir o bob penderfyniad, gan gynnwys yr holl ffactorau perthnasol, a'u cofnodi. 

Canllawiau i deuluoedd sydd wedi gwahanu

Drwy gydol y cyfyngiadau symud, mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi nodi lle nad yw rhieni (neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhianta dros blentyn neu sy’n gofalu amdano) yn byw yn yr un aelwyd, y gellir symud plant dan 18 rhwng cartrefi eu rhieni neu'r bobl hynny. 

Mae’r rheoliadau ar y cyfyngiadau yn awr wedi’u diweddaru. Mae'r canllawiau hyn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol a diben cynnal y cyfyngiadau er mwyn helpu i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo, gan gynnwys i'n hanwyliaid. O ran rhieni sydd wedi gwahanu sy'n rhannu cyfrifoldeb rhieni, gall trefniadau o ran mynediad a chyswllt barhau, fodd bynnag, os ydych yn perthyn i grŵp sy'n wynebu risg neu grŵp eithriadol o agored i niwed, dylech aros gartref ac ni ddylai'r plant ymweld â chi. O 16 Awst, pan gafodd y cynllun gwarchod ei rewi, gellir llacio'r cyfyngiadau hyn cyn belled â bod pellter caeth o 2 fetr yn cael ei gynnal.

Yn yr un modd â rhannau eraill o'r canllawiau, bydd angen i chi arfer barn bersonol wrth ymweld â phlant nad ydynt yn byw gyda chi neu drefnu iddynt ddod i aros, a bydd angen i bob aelwyd barhau i lynu wrth y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. 

Mae'r canllawiau diweddaraf ar aelwydydd estynedig i'w gweld yn y cwestiynau cyffredin.  

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym yn annog rhieni i gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiad a chynnal ymdeimlad o drefn ar gyfer eu plant. 

Er bod y datganiad a gyhoeddwyd gan Lywydd yr Is-adran Teuluoedd yn ymwneud â Gorchmynion Trefniadau Plant Llysoedd Teulu, mae'n berthnasol i bob teulu sydd wedi gwahanu lle mae gan y plant gysylltiadau â mwy nag un aelwyd. Mae'r datganiad yn cynnig cyngor cyffredinol i rieni, gan gydnabod y bydd amgylchiadau pob plentyn a theulu yn wahanol. Os oes gorchmynion llys ar waith yn ymwneud â threfniadau cyswllt rhwng rhieni sydd wedi gwahanu, bydd y llysoedd yn disgwyl i rieni ymddwyn yn rhesymol ac yn synhwyrol wrth gynnal y trefniadau hyn, gan barhau i ddilyn y cyngor swyddogol ar yr un pryd.

Cynlluniau gofal a chymorth, cynlluniau llwybrau ac adolygiadau

Rydym yn cydnabod bod COVID-19 wedi’i gwneud hi'n anodd i awdurdodau lleol fodloni rhai o'r gofynion a bennir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â datblygu cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd ac adolygiadau statudol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, cynnal asesiadau iechyd o fewn y terfynau amser presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu'r terfynau amser ar gyfer adolygu a chynnal cynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau llwybrau.

Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol wneud pob ymdrech i gydymffurfio'n llawn â'r ddeddfwriaeth a pharhau i roi ystyriaeth lawn i anghenion a dymuniadau'r plant yn eu gofal. Mae'n hollbwysig bod y broses o ddatblygu cynlluniau gofal a chymorth/cynlluniau llwybrau yn parhau a'u bod yn cael eu cwblhau, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol penodol yn llawn yn y broses honno a hwyluso barn plant a theuluoedd, fel y bo'n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd goblygiadau ymarferol o ran cyflawni ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth o fewn y terfynau amser a sicrhau cyfraniad effeithiol gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg yn ystod yr argyfwng presennol. Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod cynlluniau cymorth/cynlluniau llwybr yn canolbwyntio ar gynnydd a chanlyniadau ffocws ar blant. Mae hyn yn cynnwys camau penodol a strategaethau realistig a fydd yn helpu i ddiwallu anghenion y plentyn a chyflawni canlyniadau a gynlluniwyd.

Bydd Swyddogion Adolygu Annibynnol yn parhau i fod yn gyfrifol am fonitro perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn a chynnal adolygiadau rheolaidd. Dylai Swyddogion Adolygu Annibynnol barhau i ddefnyddio dulliau digidol o gynnal adolygiadau ac ystyried cyfarfodydd hybrid (cymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir) ar gyfer achosion mwy cymhleth, i fonitro cynnydd a gwneud penderfyniadau. Dylai cyfarfodydd adolygu barhau i fod yn rhai amlasiantaethol, gan gynnwys asiantaethau a gweithwyr proffesiynol allweddol fel y bo'n rhesymol ymarferol, a dylent gynnwys rôl eiriolwyr a hwyluso dymuniadau'r plentyn ac aelodau o'i deulu. Dylai plant a phobl ifanc gael gwybod am y newidiadau yn eu hadolygiadau statudol a’u cefnogi i gymryd rhan i sicrhau bod eu barn a’u dymuniadau yn cael eu clywed. Rhaid ystyried gallu plant i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir a gwneud ymdrech i’w cynnwys, er enghraifft drwy alwadau ffôn ymlaen llaw, galwadau prawf ac ati, i helpu’r plant i ymgyfarwyddo gyda’r broses newydd.  

Maethu

Rydym yn cydnabod y pwysau ar wasanaethau a lleoliadau maethu yn ystod y cyfnod hwn.  Mae awdurdodau lleol eisoes yn rhoi mesurau ar waith i gefnogi gofalwyr maeth a sicrhau sefydlogrwydd parhaus y gweithlu a lleoliadau. Mae AfA Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar weithredu'n effeithiol yn ystod y cyfnod hwn.

Beth ddylai ddigwydd i blant maeth os bydd gofalwyr maeth yn hunanynysu neu'n mynd yn sâl?

Mae cynnal lleoliad sefydlog parhaol i blant lle bynnag y bo hynny'n bosibl yn hollbwysig. Os bydd gofalwyr/plant maeth yn dechrau datblygu symptomau COVID-19, byddem yn disgwyl i'r plant aros gyda'u rhieni maeth yn unol â'r canllawiau ar hunanynysu. Er ei bod yn adeg ansicr i'r rhai sy'n ymwneud â gofalu am blant mewn gofal maeth a'u cefnogi, rydym yn ddiolchgar am y cymorth a'r sefydlogrwydd parhaus sy'n cael ei ddarparu i blant mewn gofal maeth.

Beth os nad oes digon o ofalwyr maeth i ofalu am blant ychwanegol neu roi seibiant i ofalwyr maeth eraill sydd wedi mynd yn sâl?

Rydym yn cydnabod y gallai fod yn anodd darparu seibiant ychwanegol i ofalwyr maeth yn y cyd-destun hwn. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod systemau'n parhau ar waith i gynnal ymgeiswyr sydd â diddordeb a nodi ffyrdd o ryddhau lle mewn cartrefi maeth presennol er mwyn ei gwneud yn haws nodi lleoliadau posibl a sicrhau bod gofalwyr maeth newydd yn cael eu hasesu a'u cymeradwyo.

Lle y gall fod angen i blant gael gofal am gyfnod byr o amser at ddibenion seibiant os yw'r rhieni biolegol neu'r gofalwyr maeth yn sâl, gall awdurdodau lleol addasu'r ddarpariaeth seibiant byr bresennol at ddibenion gwahanol. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai awdurdodau lleol newid eu datganiad o ddiben ar gyfer y lleoliadau hyn a hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni recriwtio a chymeradwyo mwy o ofalwyr maeth yn y byrdymor. Beth sy'n cael ei wneud i newid y rheoliadau sy'n ymwneud â phaneli maethu?

Rydym yn cydnabod y bydd gwasanaethau maethu yn awyddus i benodi mwy o ofalwyr maeth brys er mwyn helpu i gynyddu capasiti yn eu gwasanaethau rhag ofn y bydd galw ychwanegol. Byddem yn eu hannog i wneud hyn. Er y byddant am sicrhau bod y prosesau asesu a chymeradwyo yn drylwyr ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau, nid ydym am i hyn gael ei oedi'n ddiangen.

Er bod yr argyfwng yn cyflwyno heriau newydd, deallwn fod lleoliadau maeth yn parhau'n sefydlog ar hyn o bryd yng Nghymru a bod awdurdodau lleol wedi bod yn cynnig mwy o gymorth i ofalwyr maeth. Credwn fod digon o hyblygrwydd eisoes yn Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 i alluogi gwasanaethau maethu i gynnull paneli o bell.

Cynnal asesiadau meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth

Mae Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 yn cynnwys gofyniad y dylai darparwr gwasanaethau maethu geisio 'manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol)' fel rhan o'r broses asesu ar gyfer darpar ofalwyr maeth. Rydym yn ymwybodol bod y pandemig wedi codi problemau o ran y gallu i rai darpar ofalwyr maeth gael asesiadau meddygol gyda meddygon teulu, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell. 

Er mwyn cadw'r system gofal maeth yn llifo tra'n parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu plant, lleihau'r tarfu ar y broses faethu a sicrhau bod digon o leoliadau gofal maeth ar gael, rydym wedi rhoi’r trefniadau canlynol ar waith:

  • gall darpar ofalwyr maeth yr oedd eu ceisiadau eisoes yn y system ar 8 Tachwedd 2020 ac nad ydynt wedi gallu cael asesiadau iechyd wyneb yn wyneb neu rithwir gyda meddyg teulu yn ystod y broses asesu fynd gerbron panel yn ôl y bwriada bydd unrhyw argymhelliad i'w cymeradwyo yn cael ei seilio ar hunanddatganiad iechyd
  • o 8 Tachwedd 2020, rhaid i bob ymgeisydd newydd i fod ofalwr maeth sy'n ymuno â'r system gael naill aiasesiad wyneb yn wyneb neu asesiad iechyd o bell gan feddyg teulu yn ystod y broses asesu a chyn symud ymlaen i broses y panel maethu
  • erbyn 31 Mawrth 2021, rhaid i bob gofalwr maeth a gymeradwywyd gan ddefnyddio ffurflen hunanddatganiad iechyd fod wedi cael asesiad iechyd oedolion llawn a rhaid i'r gwasanaeth gwblhau adolygiad o'u cymeradwyaeth, yn unol â’r broses adolygu blwyddyn gyntaf o dan y drefn reoleiddio

Mae'n bwysig defnyddio'r amser rhwng nawr a diwedd mis Mawrth i sefydlu asesiadau iechyd oedolion llawn ar gyfer eich gofalwyr maeth sydd newydd eu cymeradwyo fel bod modd osgoi ôl-groniad ar ddiwedd mis Mawrth 2021.

Rydym yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr cynghorwyr meddygol i’r broses asesu iechyd ar gyfer darpar ofalwyr maeth a byddem yn annog asiantaethau, lle y bo'n bosibl, i barhau i weithio'n agos gyda'r cynghorydd meddygol yn eu hardal i fanteisio i'r eithaf ar y cymorth clinigol sydd ei angen ar gyfer y broses hon. Gall eu cymorth hefyd helpu i leddfu unrhyw faterion sy'n codi o ran y gallu i gael mynediad at asesiadau iechyd.

Cydnabyddir, fodd bynnag, nad oes gan bob asiantaeth fynediad at gynghorydd meddygol. Noder bod yr holl ofynion eraill a nodir yn y rheoliadau mewn grym o hyd.

A allwn ni newid nifer y plant y gall cartref maeth ofalu amdanynt?

Mae'n bosibl y bydd angen i delerau cymeradwyo gofalwyr maeth, gan gynnwys ystod oedran a nifer y lleoliadau, fod yn hyblyg yn yr amgylchiadau presennol. Os bydd gwasanaethau maethu yn poeni am gapasiti, dylent ddechrau nodi cartrefi maethu posibl a allai gynnig lle i blant ychwanegol a chynnal sgyrsiau sensitif a phriodol fel rhan o'u gwaith cynllunio wrth gefn. Ni fydd disgwyl i unrhyw gartref maethu roi lle i blant ychwanegol, ond bydd llawer ohonynt am gynnig help a dylid galluogi'r teuluoedd hyn i wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989 yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd wrth leoli mwy nag un plentyn gyda'i gilydd drwy ganiatáu i awdurdodau lleol wneud i'r terfyn maethu arferol mewn lleoliadau penodol.

Cyswllt wyneb yn wyneb/personol yn ystod y broses gofal maeth

Wrth ystyried cyswllt personol ac wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol barhau i asesu risg fesul achos. Bydd gan awdurdodau lleol eisoes eu prosesau asesu risg eu hunain ar waith, a dylai'r rhain barhau. Dylid ystyried egwyddor y broses asesu risg dwy gam – yn seiliedig ar asesu angenrheidrwydd a risg. Gall enghreifftiau gynnwys:

  • asesiad ar gyfer unigolion cysylltiedig a gofalwyr maeth cyffredinol (gan gynnwys ymweliadau â chartrefi ymgeiswyr) 
  • cyswllt wyneb yn wyneb â'r teulu 
  • gwasanaethau cymorth ataliol 
  • symud ymlaen i fabwysiadu 
  • cymorth lleoli – rhywfaint

Lle nad ystyrir bod cyswllt wyneb yn wyneb/personol yn angenrheidiol neu'n briodol, dylid defnyddio technoleg cyfathrebu o bell. 

A ddylai gwasanaethau wneud taliadau ychwanegol i ofalwyr maeth yn ystod pandemig COVID-19?

Gwasanaethau maethu ddylai benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi eu gofalwyr maeth yn ystod y pandemig. Mae canllawiau AfA Cymru yn cynnig cyngor defnyddiol i wasanaethau i'w helpu i wneud penderfyniadau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth ofalu am blant agored i niwed ym mhob cymuned yng Nghymru yn ystod yr argyfwng iechyd. Mae cardiau gweithwyr gofal cymdeithasol ar gael i'w rhoi i ofalwyr maeth, yn ogystal â gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig. 

Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

Daeth Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 i rym ar 1 Tachwedd 2020 a byddant yn dod i ben ar 31 Mawrth (gellir dirymu'r rhain cyn y dyddiad hwn os bydd sefyllfa’r  pandemig yn gwella).  

Nod y Rheoliadau hyn yw cefnogi'r sector maethu yn ystod y pandemig drwy wneud diwygiad i Reoliad 26 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 i ymestyn y cyfnod y caiff awdurdod lleol roi cymeradwyaeth dros dro i berson cysylltiedig / gofalwr sy'n berthnasau o 16 wythnos i 24 wythnos.

Mae Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru (AFA Cymru) wedi cynhyrchu canllaw arfer da i gefnogi'r newid hwn: https://www.afacymru.org.uk/wp-content/uploads/2020/11/WGguideCovidreg26.pdf

Cartrefi preswyl plant

Mae sicrhau bod plant agored i niwed yn parhau i gael eu hamddiffyn yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chartrefi preswyl ar gynlluniau parhad er mwyn sicrhau y gallant barhau ar agor yn ddiogel i wneud yn siŵr bod y plant yn y cartrefi hyn yn parhau i gael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae mwy o wybodaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Os bydd darparwyr yn awyddus i newid diben cartref gofal o ddarpariaeth seibiant byr i gymorth yn ystod pandemig COVID-19, bydd angen iddynt anfon hysbysiad o newid i'w datganiad o ddiben i AGC.

Rhaid i chi barhau i hysbysu AGC os ydych yn bwriadu cau eich cartref ac os bydd gennych brinder staff uniongyrchol neu os byddwch yn rhagweld y bydd gennych brinder staff cyn bo hir a all olygu y bydd yn rhaid i chi gau eich cartref, dylech drafod hynny ar fyrder â'r awdurdodau lleoli lleol perthnasol. 

Rydym yn disgwyl i bob plentyn mewn gofal preswyl barhau i gael ei gefnogi i gynnal cyswllt â'i deulu biolegol a gallu treulio amser gyda'i frodyr a'i chwiorydd. Mae canllawiau newydd wedi'u llunio i gefnogi darparwyr wrth iddynt helpu plant i ailgysylltu'n ddiogel â'u teuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, tra bydd y cyfyngiadau ar waith. Mae darparwyr wedi bod yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad drwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys galwadau ffôn  dyddiol neu reolaidd, sgyrsiau drwy gyswllt fideo, y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau eraill. Yn ogystal â'r dulliau hyn, mae'r canllawiau newydd yn annog darparwyr gofal a chymorth i wneud pob ymdrech i hwyluso ymweliadau yn yr awyr agored lle y bo hynny'n ddiogel. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ynghylch ymweliadau cyfyngedig dan do. Wrth wneud trefniadau i blant ailgysylltu â'u teulu a'u ffrindiau, rhaid i ddarparwyr drafod a chytuno ar y trefniadau hyn â'r awdurdod lleoli. Rhaid i fanylion y trefniadau cyswllt gael eu nodi yng nghynllun gofal a chymorth a chynllun personol y plentyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae canllawiau diwygiedig wedi'u paratoi ar y defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn Cartrefi Preswyl Plant a'r gofynion o ran profi plant. Mae cyfres o Gwestiynau Cyffredin wedi'u paratoi er mwyn helpu awdurdodau lleol a darparwyr i weithio drwy rai o'r materion hyn a godwyd mewn perthynas â theilwra Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i amgylchiadau gwahanol mewn lleoliadau plant.

Sicrhau lleoliadau os na ellir dod o hyd i leoliadau mewn cartrefi plant neu ofal maeth? 

Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y llety a ddarperir i blant yn diwallu eu hanghenion hyd eithaf eu gallu o ystyried y cyd-destun presennol. 

Rhaid i unrhyw wasanaeth sy'n darparu gofal a llety i blant, fel y'i  diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fod wedi'u cofrestru ag AGC fel cartref gofal i blant.

Gall lleoliadau mewn darpariaeth annibynnol a rhannol annibynnol fod yn briodol i rai pobl ifanc, gan roi'r cyfle iddynt baratoi i fyw fel oedolyn, ac rydym yn disgwyl i'r rhain barhau (gweler yr adran ar y rhai sy'n gadael gofal isod mewn perthynas â'r cymorth ychwanegol sydd ei angen). Os yw'r gwasanaeth yn darparu gofal, rhaid iddo fod wedi'i gofrestru ag AGC.

Rhaid i awdurdodau lleol barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hybu llesiant plant sy'n derbyn gofal a sicrhau eu bod yn ddiogel yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mabwysiadu

Dylai pob plentyn barhau i gael y cyfle gorau i ffynnu mewn amgylchedd teulu diogel lle y caiff ei anghenion sylfaenol eu diwallu a lle y gall fwynhau’r un cyfleoedd ag unrhyw blentyn arall. I rai plant sy’n agored i niwed, mae mabwysiadu yn ymyrraeth gadarnhaol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion gofal a gwella eu canlyniadau cyffredinol.

Mae’n hollbwysig nad ydym yn anghofio pwysigrwydd bwrw ymlaen â lleoliadau mabwysiadu yn y cyfnod anodd hwn Mae’n bwysig bod Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol yn parhau i recriwtio mabwysiadwyr, bwrw ymlaen â chynlluniau i leoli plant a chefnogi’r teuluoedd sy’n mabwysiadu, gan weithio mewn ffyrdd arloesol a hyblyg lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn galluogi asiantaethau i gynnal eu gwasanaethau a dychwelyd i drefn fwy arferol pan fydd argyfwng COVID-19 drosodd, gan felly ddarparu lleoliadau parhaol i’r plant hyn a rhyddhau lleoliadau maeth y bydd eu hangen i ddiwallu anghenion plant eraill sy’n agored i niwed yng Nghymru.

Er mwyn helpu i barhau â gwasanaethau mabwysiadu, yn enwedig o ran hwyluso trefniadau cyswllt a lleoliadau mabwysiadu, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cyflwyno 'Fframwaith Asesu Risg' i bob asiantaeth fabwysiadu ei ddefnyddio.  Nod y Fframwaith yw darparu map ffordd realistig a chyson ar gyfer parhau â gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru, addasu a mabwysiadu’r ffyrdd newydd o weithio o ganlyniad i COVID-19, a sicrhau y gellir symud plant sy'n agored i niwed sydd â chynllun mabwysiadu i'w cartrefi parhaol mewn ffordd amserol, sydd wedi'i chynllunio a'i chefnogi. Gellir cael mynediad uniongyrchol i'r fframwaith hwn oddi wrth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

A ddylem atal pob cyfarfod cychwynnol ar gyfer plant gyda rhieni mabwysiedig newydd?

Na ddylech – er ein bod yn deall y bydd y cyfarfodydd hyn yn heriol yn yr amgylchiadau hyn, ni ddylai’r cyfarfodydd ddod i ben y llwyr. Dylid gwneud penderfyniad fesul achos, yn seiliedig ar risg, er mwy sicrhau bod y plant hynny y gellir eu symud i’w cartrefi parhaol yn cael mynd iddynt.   

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu fframwaith i gefnogi gwasanaethau Cymru i ystyried a yw’n bosibl fesul achos, gan fodloni’r canllawiau cyfreithiol angenrheidiol a’r cyfyngiadau sydd ar waith yn yr argyfwng iechyd y cyhoedd presennol. Dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol ystyried defnyddio technoleg cyfathrebu i barhau â’r broses fabwysiadu os yw’n bosibl.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, a oes rhaid i ni gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2020? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y goblygiadau sy'n gysylltiedig â chyflwyno Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020  gan iddynt gael eu cyflwyno wrth i’r pandemig COVID-19 ddechrau.

O fis Ebrill i fis Hydref 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru sicrwydd i ddarparwyr na fyddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd, boed hynny drwy ddefnyddio pwerau Cyfarwyddyd Gweinidogol neu fel arall, mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri gofynion y Rheoliadau newydd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Hydref 2020 neu nes y bydd pethau'n dychwelyd i'r arfer, ar yr amod bod rheswm da dros hynny. 

O 1 Tachwedd 2020 daeth Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 i rym a byddant yn peidio â bod yn effeithiol ar 31 Mawrth 2021 ond gellir eu dirymu ar unrhyw adeg cyn hynny os bydd y sefyllfa'n gwella. Mae'r Rheoliadau'n rhoi effaith ddeddfwriaethol i'r cytundeb uchod.  Crynhoir y mesurau lliniaru fel a ganlyn:

A. Lliniaru rhai gofynion gweithdrefnol yng ngham 1 a cam 2

Cam 1 a chyfnod 2 y broses ddau gam o asesu mabwysiadwyr i ddigwydd yr un pryd. Gallai hyn olygu, er enghraifft, lle na fu'n bosibl cael asesiadau iechyd a gwiriadau eraill yn ystod cam 1, y gall ymgeiswyr symud i gam 2, a gellir cynnal y gwiriadau hyn yn ystod cam 2 y broses.

Fodd bynnag, mae’n dal y ofynnol cwblhau'r holl wiriadau angenrheidiol yn llawn cyn i fabwysiadydd gael ei gymeradwyo.

Ni fydd ymgeiswyr yn gallu cael mynediad i'r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM) os yw eu ceisiadau'n aflwyddiannus am resymau sy'n ymwneud, er enghraifft â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriadau iechyd, fel y byddai wedi digwydd pe bai'r gwiriadau hyn yn cael eu cwblhau yng ngham 1. Bydd mabwysiadwyr yn gallu cael mynediad i'r IRM ar ôl cam 2, os na chaiff eu cais ei gymeradwyo am unrhyw reswm arall nad yw'n ymwneud â gwiriadau DBS, iechyd neu wiriadau awdurdod lleol megis materion amddiffyn plant.

B. Lliniaru’r amserlenni ar gyfer cwblhau camau 1 a 2 a hyd yr amser y gall darpar fabwysiadydd oedi rhwng cam 1 a 2

  • mae’r amserlenni ar gyfer cam 1 a cham 2 o'r broses, sef dau fis (cam 1) a phedwar mis (cam 2) yn parhau ond dim ond lle y bo'n rhesymol ymarferol y bydd yn ofynnol i asiantaethau fodloni'r amserlenni yn ystod y pandemig
  • bydd y cyfyngiad o 6 mis ar yr amser y gall darpar fabwysiadydd ei adael rhwng cam 1 a cham 2 yn cael ei ddileu.

Datblygwyd Canllaw Arfer Da gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gefnogi darparwyr a gellir ei weld drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol drwy contact@adoptcymru.com 

A ddylem atal paneli mabwysiadu? 

Dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol ystyried sut y gellir parhau i gynnal paneli er mwyn sicrhau bod y system fabwysiadu'n parhau i leoli plant, ond rydym yn derbyn y gall fod rhywfaint o oedi, yn enwedig ar gyfer achosion mwy cymhleth. 

Dylid ystyried parhau i gynnal paneli o bell drwy fideoalwadau a fideogynadleddau, a dylid penderfynu ar hyn fesul achos. Dim ond drwy alwadau fideo/ffôn y dylid rhoi’r cyfle i rieni sy'n mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr ymuno. 

Mae’n bosibl y gellir cynnal paneli rhannol neu ‘hybrid’ (lle bydd rhai aelodau'n bresennol yn gorfforol), a dylid ystyried hyn yn enwedig wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, ond yn amodol ar gynnal pob asesiad risg a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol. 

Cynnal asesiadau meddygol ar gyfer darpar fabwysiadwyr

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (yn rheoliad 26(a)) yn pennu bod yn rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadwr yn dilyn archwiliad meddygol llawn. Yn ystod argyfwng COVID-19, rydym yn ymwybodol bod gallu'r GIG i ddarparu'r asesiadau iechyd hyn ar gyfer darpar fabwysiadwyr wedi lleihau'n sylweddol gan mai delio â'r sefyllfa frys fu'r flaenoriaeth.

Ar 15 Mehefin 2020, cyflwynwyd asesiad meddygol rhithwir ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Dim ond am gyfnod penodol y bydd yr asesiad hwn ar waith tra bydd yn anodd cynnal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn ystod argyfwng COVID-19. 

Lle y bo'n bosibl, argymhellir y dylid cynnal yr ymgynghoriad personol arferol â meddyg teulu. Mewn achosion lle mae hyn yn anodd, gall darpar fabwysiadwyr gael asesiad meddygol rhithwir gan feddyg teulu drwy dechnoleg o bell. 

Bydd yr asesiad meddygol rhithwir dros dro hwn yn sicrhau y gall darpar fabwysiadwyr gael asesiadau meddygol a symud ymlaen i'r panel penderfynu, gan alluogi'r broses fabwysiadu i fynd rhagddi. 

Mae canllawiau pellach a'r protocol ar gyfer cael gafael ar adroddiadau meddygol oedolion ar gyfer ymgeiswyr i fod yn ddarpar fabwysiadwyr i'w gweld yn Atodiad 3. 

Cyswllt wyneb yn wyneb/personol yn ystod y broses fabwysiadu

Wrth ystyried cyswllt personol ac wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol barhau i asesu risg fesul achos. Bydd gan awdurdodau lleol eisoes eu prosesau asesu risg eu hunain ar waith, a dylai'r rhain barhau. Dylid ystyried egwyddor y broses asesu risg dwy gam – yn seiliedig ar asesu angenrheidrwydd a risg. Gall enghreifftiau gynnwys:

  • cyflwyniadau a symud plant i leoliadau mabwysiadu y cytunwyd arnynt. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu fframwaith i gefnogi gwasanaethau yng Nghymru i ystyried a yw hyn yn bosibl fesul achos unigol, gan gydymffurfio â'r canllawiau cyfreithiol angenrheidiol a'r cyfyngiadau sydd wedi'u gosod i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol ar yr un pryd. Gellir cael copi o'r fframwaith hwn gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol  
  • y cyswllt olaf rhwng y rhiant biolegol a'r plentyn 
  • ymweliadau â chartrefi darpar fabwysiadwyr i gwblhau elfennau o'r broses asesu 

Lle nad ystyrir bod cyswllt wyneb yn wyneb/personol yn angenrheidiol neu'n briodol, dylid defnyddio technoleg cyfathrebu o bell.

Ymweliadau â phlant a theuluoedd

Dylai teuluoedd y mae angen ymweld â nhw, yn enwedig ar gyfer cymorth mabwysiadu, gael eu blaenoriaethu ar sail angen. Mewn amgylchiadau lle bydd angen ymweld â theuluoedd, bydd angen cynnal asesiadau risg. Dylid cynnig cyngor a chymorth o bell lle bo hynny'n briodol. 

Paratoi a hyfforddiant arall i fabwysiadwyr

Dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol geisio rhoi cynlluniau ar waith i barhau i hwyluso cynifer ohonynt â phosibl drwy fidegynadledda neu gyfleusterau eraill.  

A yw'r term 'plant agored i niwed' yn cynnwys plant wedi'u mabwysiadu ar gyfer y ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig?

Mae plant agored i niwed yn cynnwys plant â gweithiwr cymdeithasol; plant â datganiadau o anghenion addysgol arbennig; a phlant eraill sydd ar ffiniau gofal a chymorth os yw'r ysgol neu'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd wedi nodi eu bod yn agored i niwed. Dylai awdurdodau lleol asesu pob sefyllfa fesul achos yn unol ag anghenion y plentyn neu'r person ifanc. 

Pa gymorth arall y gall teuluoedd sy'n mabwysiadu ei gael?

Mae'n amlwg y gallai pandemig COVID-19 roi pwysau a straen ychwanegol ar deuluoedd. Mae'n hollbwysig bod teuluoedd sydd â'r angen mwyaf am gymorth yn cael yr help cywir mewn modd amserol. Mae gwasanaethau ledled Cymru wedi addasu er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau'n ddiogel yn ystod yr argyfwng iechyd hwn. 

Asiantaethau mabwysiadu rhanbarthol a gwirfoddol

Dylai teuluoedd mabwysiadu a gweithwyr proffesiynol gysylltu â'u gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol neu wirfoddol er mwyn cael gafael ar y gwasanaethau cymorth mabwysiadu arbenigol y gellir eu darparu. Mae cyngor ar hyn ar gael drwy wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol neu'n uniongyrchol gan y gwasanaethau eu hunain. 

Er bod y mwyafrif o ymweliadau cymorth wyneb yn wyneb wedi cael eu hatal, mae cymorth yn cael ei gynnig o bell drwy Skype neu gyfleusterau fideoalwadau eraill. Lle roedd grwpiau cymorth wedi'u cynllunio, mae'r rhain bellach yn cael eu sefydlu o bell. Yn yr un modd, mae unrhyw sesiynau therapiwtig yn cael eu cynnal yn yr un ffordd. 

https://www.adoptionwales.org/

https://www.barnardos.org.uk/barnardos-cymru

Adoption UK Cymru

Mae elusen Adoption UK Cymru yn parhau i gynnal ei llinell gymorth, sydd ar agor i unrhyw un y mae angen cyngor penodol arno ar rianta neu fabwysiadu. Gellir cysylltu â'r llinell gymorth drwy ffonio 0300 666 0006 neu e-bostio wales@adoptionuk.org.uk. Mae ganddi hefyd fforwm i unrhyw un sydd am rannu pryderon ag eraill sy'n profi'r un teimladau ynghyd â rhestr o gwestiynau cyffredin ar ei gwefan. Gall yr aelodau fanteisio ar rwydwaith o grwpiau cymunedol lleol, a arweinir gan dîm o wirfoddolwyr profiadol sy'n fabwysiadwyr eu hunain. 

Yn yr hinsawdd bresennol, mae cyfarfodydd corfforol wedi cael eu hatal, ond gall yr aelodau barhau i ymgysylltu â'u cymuned leol drwy grwpiau negeseua a rhith-gyfarfodydd ar-lein. Mae grwpiau rhithwir a hyfforddiant ar-lein hefyd ar gael yn ogystal â sesiynau cymorth un i un a chymorth cymheiriaid i unrhyw un sy'n delio ag ymddygiad heriol.

Mae Gwasanaethau Therapiwtig, Addysg a Chymorth ym maes Mabwysiadu (TESSA) yn parhau i gynnal atgyfeiriadau, ymgyngoriadau a gwaith paru â phartneriaid sy'n rhieni. 

Mae Connected, sef gwasanaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn cynnal trafodaethau unigol â phob teulu er mwyn nodi'r hyn y gellir ei gynnig i blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd mae grwpiau wyneb yn wyneb wedi'u hatal ond mae cymorth yn parhau i gael ei ddarparu o bell. 

O ran cymorth cyffredinol i deuluoedd, mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ym mhob awdurdod lleol ac yn rhoi cymorth cynnar i deuluoedd sy'n helpu i atal problemau rhag gwaethygu. Caiff rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ei darparu drwy awdurdodau lleol ac mae'r broses atgyfeirio ar gael ar wefannau awdurdodau lleol ynghyd â llinell gyngor y gall teuluoedd neu weithwyr proffesiynol ei defnyddio i gysylltu.

Mae gwefan ganolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrthi'n cael ei haddasu er mwyn sicrhau bod mabwysiadwyr yn deall y sefyllfa bresennol mewn perthynas â COVID-19 a'u bod yn cael eu cyfeirio'n briodol.  Mae'r Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol yn diweddaru'r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, gan gyfeirio mabwysiadwyr at wybodaeth, grwpiau cymorth a fforymau eraill.

Y rhai sy'n gadael gofal

Sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r rhai sy'n gadael gofal?

Gwyddom fod y rhai sy'n gadael gofal yn arbennig o agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn a'i bod yn debygol y bydd angen mwy o gymorth arnynt na'r arfer. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi addasu'n gyflym i'r amgylchiadau a'u bod yn darparu cymorth parhaus effeithiol.

Dylai awdurdodau barhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol, gan gynnwys cynnig cynghorwyr personol i'r rhai sy'n gadael gofal a pharatoi neu adolygu cynlluniau llwybrau. Rydym yn cydnabod bod y cyfyngiadau wedi’i gwneud yn anodd i awdurdodau lleol gefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal ac yn dod yn annibynnol. Wrth i’r cyfyngiadau lacio, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod cynlluniau llwybr yn nodi’n glir unrhyw gynlluniau cynnydd ac unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn cydnabod y pwysau ychwanegol sydd ar awdurdodau lleol, ac os oes modd iddynt addasu'r cymorth y gallant ei gynnig i'r rhai sy'n gadael gofal yn ystod y cyfnod hwn, dylent asesu eu hanghenion a rhoi blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, gan ddefnyddio’r egwyddor asesu risg dau gam. 

Mae sefydliadau Trydydd Sector yn barod i ddarparu cymorth. Mae Voices from Care wedi datblygu pecyn cymorth pwrpasol i'r rhai sy'n gadael gofal, sydd wedi'i ddosbarthu i awdurdodau lleol. Bwriedir i'r cymorth a gynigir gefnogi lles emosiynol drwy gynnig gofod cymdeithasol rhithwir. Maent hefyd yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth a chyngor pwrpasol a byddant hefyd yn ceisio addasu eu gwasanaeth wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Dylai darparwyr gwasanaethau barhau i gynnig pob ymyrraeth eirioli ar gyfer y cynnig gweithredol ac eiriolaeth yn seiliedig ar faterion, gan ddefnyddio cymysgedd o gyswllt awyr agored a thechnoleg i hwyluso cymorth. Dylai darparwyr gwasanaethau ystyried parhau ag unrhyw drefniadau cyswllt eraill sydd wedi bod o fantais yn ystod y cyfnod clo, os pawb dan sylw yn cytuno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r canllawiau ar gyfer Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, gan nodi y dylai awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n gadael gofal a allai fod mewn caledi ariannol o ganlyniad i golli incwm, anawsterau gyda chytundebau tenantiaeth, bwyd a hanfodion bywyd sylfaenol eraill. Mae'r canllawiau diweddaraf hefyd yn annog cymorth ariannol ar gyfer technoleg i gadw mewn cysylltiad, gan gynnwys dyfeisiau a chredyd ffôn.

Cyngor Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n byw mewn llety â chymorth a'r rhai mewn llety rhent preifat.  

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ychwanegu cyngor at ei Hwb Gwybodaeth gan restru amrywiaeth o gymorth i’r rhai sy'n gadael gofal.

A oes disgwyl i gynghorwyr personol barhau i ymweld â'r rhai sy'n gadael gofal, ac a allant wneud hynny?

Dylai cynghorwyr personol barhau i benderfynu ar natur eu cyswllt â'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw yn ystod y cyfnod hwn. 

Wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn ag ailgyflwyno cyswllt personol ar gyfer achosion arferol neu gyswllt amlach ag eraill, dylid dilyn yr egwyddor asesu risg dau gam. Bydd cynghorwyr personol yn dymuno ystyried eu hamgylchiadau unigol a pha mor agored i niwed y maent, gan dybio ei bod yn debygol y bydd angen mwy o gymorth na'r arfer ar y rhai sy'n gadael gofal wrth i fesurau gael eu llacio.

Dylai cynghorwyr personol a'u rheolwyr barhau i asesu lefel y risg a blaenoriaethu achosion lle y bydd cyswllt personol yn fwyaf buddiol, a lle na fydd yn bosibl darparu'r lefel gywir o gymorth i'r unigolyn sy'n gadael gofal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. Dylid ystyried defnyddio cymysgedd o gyswllt personol yn yr awyr agored a threfniadau rhithwir yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. 

Lle yr ystyrir bod angen gwaith wyneb yn wyneb dan do a lle y bydd asesiad risg wedi'i gynnal, dylai cynghorwyr personol ystyried y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol a'r defnydd o gyfarpar diogelu personol er mwyn lleihau unrhyw risg bosibl o ddal neu ledaenu’r feirws a’u diogelu nhw eu hunain a'r rhai y maent yn ymweld â nhw.

Lle y bu'r trefniadau cyswllt amgen a gyflwynwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn fuddiol, rydym yn annog cynghorwyr personol i barhau i ddefnyddio technoleg i gysylltu â phobl ifanc dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. 

A ddylem barhau i bontio'r rhai sy'n gadael gofal sy'n troi'n 18 oed i fywyd annibynnol? A ellir parhau i symud y rhai sy'n derbyn gofal rhwng lleoliadau llety gwahanol os bydd angen?

Dylai awdurdodau lleol weithredu er budd gorau'r rhai sy'n gadael gofal. Dylai’r rhai sy'n gadael gofal barhau i gael eu cefnogi i aros yn eu llety presennol yn ystod y cyfnod hwn, os yw'r lleoliad hwnnw'n diwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gadael gofal yn dymuno parhau â'u cynlluniau i bontio i lety addas a/neu annibyniaeth. Os felly, dylai awdurdodau lleol fod yn hyderus y gallant ddarparu'r lefel briodol o gymorth ac arweiniad sydd ei hangen i sicrhau proses bontio lwyddiannus. Dylai penderfyniadau o'r fath gael eu gwneud fesul achos.

Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod yn anodd o hyd dod o hyd i lety addas a llety sydd ar gael, a bod angen sefydlogrwydd a chymorth ar bobl ifanc yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddwn yn parhau i gynnal cyswllt â thimau gadael gofal awdurdodau lleol ynglŷn â'r pwysau y maent yn eu hwynebu ac, yn arbennig, anghenion llety, ar hyn o bryd.

Plant digwmni sy’n ceisio lloches

Ble y gall plant digwmni sy'n ceisio lloches symptomatig hunanynysu a beth sy'n cael ei wneud i gynyddu capasiti i ddarparu llety hunanynysu i blant digwmni sy'n ceisio lloches?

Pan fydd plentyn digwmni sy'n ceisio lloches yn cyrraedd Cymru gyda symptomau coronafeirws (COVID-19), bydd angen i'r awdurdod lleol sy'n ei dderbyn gymryd camau i sicrhau ei fod yn cael ei osod mewn llety addas ar wahân i bobl eraill yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru

Rydym yn annog awdurdodau lleol i ddod o hyd i staff a safle addas er mwyn galluogi'r plentyn i hunanynysu. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid comisiynu i ganfod a oes angen dod o hyd i lety a chymorth ychwanegol. Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol barhau i weithio yn ôl yr arfer gyda gwasanaethau Iechyd a gwasanaethau Trydydd Sector i ddarparu cymorth cofleidiol.

Pwy fydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am blant digwmni sy'n ceisio lloches mewn llety hunanynysu?

Fel sy'n wir am unrhyw blentyn sy'n cyrraedd yn ddigymell, dylai'r awdurdod lleol sy'n casglu'r plentyn i gychwyn (er enghraifft o orsaf yr heddlu neu Lu'r Ffiniau) asesu ei anghenion yn unol ag egwyddorion budd gorau fel y byddai mewn amgylchiadau arferol. Yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am y plentyn a dylai ei osod mewn llety hunanynysu addas os oes ganddo symptomau.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Prif flaenoriaeth AGC yw rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a Gweinidogion am ddiogelwch gwasanaethau. Mae penderfyniadau AGC yn seiliedig ar y tair egwyddor allweddol ganlynol: 

  • bydd AGC yn canolbwyntio ei gweithgarwch lle mae ei angen fwyaf er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal diogel – mae hyn yn golygu canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae'r risg i ansawdd y gofal ar ei huchaf a lle y gall AGC wneud y gwahaniaeth mwyaf 
  • bydd AGC yn cefnogi darparwyr drwy ystyried sut y gall weithredu'n hyblyg ac yn gymesur 
  • bydd AGC yn anrhydeddu ei dyletswydd i ofalu am ei chydweithwyr yn AGC 

Er mwyn cyflawni hyn, mae AGC wedi addasu ei gwaith craffu annibynnol gan sicrhau na fydd AGC yn peri risg afresymol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, staff y gwasanaethau hynny na'i staff hi ei hun, ac mae'n gweithio yn unol â'r canllawiau cenedlaethol. Mae hyn yn ei galluogi i wneud y canlynol:

  • cyflawni dyletswyddau statudol AGC i fonitro diogelwch a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a gwasanaethau chwarae, heb ychwanegu baich afresymol at system sy'n delio â heriau digynsail ar hyn o bryd
  • hyrwyddo tryloywder am yr ymateb i COVID-19 a sicrhau y gellir dysgu gwersi'n gyflym

Mae AGC wedi llunio trosolwg o'i phrosesau monitro a sicrwydd yn ystod pandemig COVID-19. Mae copi o'r ddogfen hon ar gael ar wefan AGC

Bydd AGC yn parhau i arolygu, monitro ac adolygu perfformiad unrhyw wasanaeth lle ceir pryderon sylweddol am ddiogelwch a llesiant pobl, a bydd yn parhau i ystyried yr angen i gynnal arolygiad mewn perthynas â'r pryderon a godir.  

Mae AGC wedi gwneud y penderfyniad hwn er mwyn sicrhau y gall awdurdodau lleol a darparwyr ganolbwyntio ar gynnal iechyd a diogelwch y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u staff yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.    

Mae AGC yn monitro risg a breuder yn y system yn absenoldeb arolygiadau arferol ac yn ceisio sicrwydd ynglŷn â hyn.  Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys galwadau ffôn rheolaidd â darparwyr a thrafodaethau rheolaidd â chomisiynwyr, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaethau. At hynny, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, bydd AGC yn cyfuno ceisiadau ffurfiol am wybodaeth ac yn rhannu'r data a'r wybodaeth ar draws y system er mwyn osgoi dyblygu a baich ychwanegol ar y system. 

Cymorth i blant agored i niwed mewn lleoliadau addysg

Os gellir gofalu am y plentyn yn ddiogel gartref, dylid gwneud hynny, a dim ond os nad oes dewis diogel arall y dylid gwneud darpariaeth yn yr ysgol neu leoliadau eraill.

At ddiben darpariaeth mewn ysgolion a/neu leoliad gofal plant cofrestredig, mae plant agored i niwed yn cynnwys plant â gweithiwr cymdeithasol, a phlant â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu’r mwyaf agored i niwed o’r rhain yn ôl y plant â’r angen mwyaf am y ddarpariaeth.

At ddiben y ddarpariaeth, mae’r rhai sydd â gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys plant â chynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr diogelu plant a phlant sy’n derbyn gofal.

Rhagor o wybodaeth am blant agored i niwed.

Gwybodaeth am ddiogelu mewn lleoliadau addysg

Gwybodaeth am gymhwysedd ar gyfer darpariaeth barhaus i blant y mae eu rhieni’n weithwyr allweddol

Addysg heblaw yn yr Ysgol

Mae plant sy'n mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac, yn arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, ymhlith ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Bydd gan gyfran uchel o'r disgyblion hyn weithiwr cymdeithasol, problemau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a/neu anghenion addysgol arbennig (AAA).

Dylai pob plentyn sy'n mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol gael gofal gartref os gellir gwneud hynny'n ddiogel. Dylid rhoi trefniadau lleol ar waith i gefnogi'r plant hyn a'u teuluoedd. Mae darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol mewn sefyllfa dda i nodi a diwallu anghenion disgyblion pan na fyddant yn mynychu'r lleoliad ac mae ganddynt brotocolau ar waith i sicrhau bod disgyblion yn cael eu diogelu. Mae hyn yn cynnwys neilltuo aelod o'r staff i bob disgybl, sy'n gyfrifol am gynnal cyswllt rheolaidd mewn perthynas â llesiant a diogelwch, ac am gyfeirio unrhyw faterion at yr asiantaeth gymorth briodol.

Bydd angen i awdurdodau lleol drefnu lleoliadau gofal plant ar gyfer y plant hynny na allant aros gartref am eu bod yn agored i niwed neu am fod eu rhieni'n weithwyr allweddol.  Bydd y trefniadau a roddir ar waith yn dibynnu ar anghenion y disgybl. Dylai awdurdodau lleol weithio fesul achos, gan weithio gyda'r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill i wneud trefniadau priodol. Gallai hyn gynnwys parhau i fynychu unedau cyfeirio disgyblion, os bydd yr unedau hynny'n dal i fod ar agor at ddibenion gofal plant, neu fynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol amgen. 

Plant sy'n cael eu haddysg yn y cartref

Dylai awdurdodau lleol hefyd gadw mewn cysylltiad â phlant sydd fel arfer yn cael eu haddysg yn y cartref gan eu rhieni a hyrwyddo'r adnoddau perthnasol sydd ar gael ar Hwb. Os bydd gwybodaeth i awgrymu bod plentyn yn agored i niwed, bydd yn bwysig cynnal cyswllt rheolaidd er mwyn cynnig cymorth i'r teuluoedd sydd ei angen a rhoi gwybod i Wasanaethau Cymdeithasol Plant am unrhyw bryderon am ddiogelu yn y ffordd arferol. Yn ddiweddarach yn yr haf, caiff canllawiau atodol ar gefnogi dysgwyr agored i niwed a dan anfantais eu cyhoeddi.

Cymorth i blant agored i niwed mewn lleoliadau addysg

Dylai pob plentyn gael gofal gartref os gellir gwneud hynny'n ddiogel, a dim ond lle nad oes dewis amgen diogel y dylid cynnig darpariaeth mewn ysgolion neu leoliadau eraill.

At ddiben darpariaeth mewn ysgolion a/neu leoliadau gofal plant cofrestredig, mae plant agored i niwed yn cynnwys y rhai hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol a Datganiadau o anghenion addysgol arbennig. O blith y rhain, dylai'r rhai mwyaf agored i niwed gael eu blaenoriaethu gan awdurdodau lleol yn ôl y plant sydd â'r angen mwyaf am y ddarpariaeth.

At ddiben y ddarpariaeth hon, dylai'r rhai sydd â gweithiwr cymdeithasol gynnwys plant â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sy'n derbyn gofal.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am blant agored i niwed yn: https://llyw.cymru/plant-agored-i-niwed-diogelu-y-coronafeirws

Mae gwybodaeth am ddiogelu mewn lleoliadau addysg hefyd ar gael yn: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddiogelu-dysgwyr-mewn-addysg-y-coronafeirws

Mae gwybodaeth am barhau â'r cynnig gofal plant hefyd ar gael yn: https://llyw.cymru/coronafeirws-canllawiau-rhieni-ar-ofal-plant-i-rai-dan-bump-oed

Mae gwybodaeth am gymhwysedd ar gyfer darpariaeth barhaus i blant y mae eu rhieni'n weithwyr hanfodol ar gael yn: https://llyw.cymru/gweithwyr-allweddol-hanfodol-y-coronafeirws 

Addysg heblaw yn yr ysgol

Mae plant sy'n mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac, yn arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, ymhlith ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Maent yn aml wedi wynebu sefyllfaoedd heriol, neu’n eu wynebu ar hyn o bryd, ac yn aml byddant wedi cael profiad o chwalu teuluol neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Yn ogystal, bydd gan rai dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol anghenion addysgol arbennig (AAA). Rydym wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais sy'n pennu’r disgwyliadau’n ymwneud â chymorth i ddysgwyr agored i niwed a dysgwyr dan anfantais mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Roedd disgwyl i bob dysgwr mewn addysg heblaw yn yr ysgol ddychwelyd i'r ddarpariaeth addysg ar ddechrau tymor yr hydref. Rhaid i ddarparwyr yr addysg gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt asesu risgiau, a rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Bydd angen sicrwydd ar awdurdodau lleol fel comisiynwyr yr addysg bod y mesurau hyn ar waith. Rydym wedi cyhoeddi Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref y dylai lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol eu dilyn i wneud eu safle'n ddiogel i staff a dysgwyr. Pan fo dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad yn rhan-amser fel mater o drefn, er enghraifft am ei fod wedi'i gofrestru'n ddeuol mewn ysgol brif ffrwd ac uned cyfeirio disgyblion neu leoliad arall ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol, neu ysgol arbennig, dylai'r lleoliadau weithio drwy'r system rheolaethau ar y cyd. Bydd hyn yn eu galluogi i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd a chaniatáu iddynt gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys ar y cyd i'r dysgwr.

Plant sy'n cael eu haddysg yn y cartref

Dylai awdurdodau lleol hefyd gadw mewn cysylltiad â phlant sydd fel arfer yn cael eu haddysg yn y cartref gan eu rhieni a hyrwyddo'r adnoddau perthnasol sydd ar gael ar Hwb. Os bydd gwybodaeth i awgrymu bod plentyn yn agored i niwed, bydd yn bwysig cynnal cyswllt rheolaidd er mwyn cynnig cymorth i'r teuluoedd sydd ei angen a rhoi gwybod i Wasanaethau Cymdeithasol Plant am unrhyw bryderon am ddiogelu yn y ffordd arferol.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 231 KB.

Maint Ffeil 231 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.