Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, fod gwasanaethau arbenigol Cymru ar agor ac ar gael i helpu’r rheini sy’n wynebu risg uwch o drais a cham-drin domestig yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y dirprwy weinidog:

Mewn cyfnodau o argyfwng, mae lefelau cam-drin domestig yn codi. Mae pellter cymdeithasol, hunanynysu a thensiynau wedi gwaethygu hyn, ac mae pryderon ynghylch iechyd, sefydlogrwydd gwaith ac arian yn gallu arwain at ffrwydradau o drais. Mae gwledydd eraill y mae’r pandemig yn effeithio arnynt yn cofnodi cynnydd sylweddol yn lefel y cam-drin domestig.

Mae cyfnod argyfwng Covid-19 yn un pryderus i bob un ohonom, ond yn ddwbl felly i’r rheini sy’n sownd yn eu cartrefi gyda rhywun sy’n eu cam-drin. I’r rhain, nid lle diogel yw eu cartref, ond lle o ofn, cam-drin a thrais. 

Rwy’n bryderus ei fod yn gyfnod anodd i ddioddefwyr a goroeswyr ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn pan fydd y person sy’n eu cam-drin o fewn clyw, ac felly rydyn ni’n hyrwyddo dulliau ‘tawel’ o ofyn am gymorth. Mae modd anfon neges destun, sgwrsio ar y we ac e-bostio os na all y dioddefwr siarad.

Yn ogystal, bydd yr heddlu yn ymateb ar frys i alwadau 999 ‘tawel’ – dim ond i’r person sy’n ffonio wasgu 55 pan fydd rhywun yn ateb.

Os ydych mewn perygl gartref, chewch chi ddim dirwy na chal eich arestio am adael y tŷ. Mae gwasanaethau cam-drin domestig Cymru ar agor ac ar gael, ac fe allan nhw eich helpu i adael yn saff.

Dw i’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU i hyrwyddo gwasanaethau ar-lein a llinellau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn Lloegr.

Yma yng Nghymru, mae ein gwasanaethau yn parhau i helpu unrhyw un sydd mewn perygl o gamdriniaeth ddomestig i gael eu diogelu fel y bo angen. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i roi cyngor a chefnogaeth sy’n benodol i Gymru.

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddais i £1.2 miliwn i dalu am lety cymunedol i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig, yn ogystal â £200,000 arall ar gyfer dodrefn, llenni a charpedi, cyfarpar cyfrifiadurol a nwyddau gwynion, tra bydd ein cronfa gyfalaf flynyddol i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn blaenoriaethu prosiectau i gefnogi’r argyfwng presennol.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd gyllid a phwerau newydd i awdurdodau lleol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni anghenion tai pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys y rheini nad oes arian cyhoeddus ar gael iddynt.

Rydyn ni eisiau i bobl gadw llygad ar ei gilydd a sylwi ar yr arwyddion bod angen help ar rywun.

Byddwn yn ailredeg ein hymgyrch ‘Paid cadw’n dawel’, ac rydym am weithio gyda’r heddlu, fferyllfeydd ac archfarchnadoedd i rannu ein neges ‘Paid cadw’n dawel’ ynghyd â gwybodaeth am sut i gael help a chefnogaeth.

Rydyn ni wedi agor modiwl e-ddysgu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i bawb er mwyn helpu pobl i allu adnabod arwyddion cam-drin domestig a gwybod sut i gael help i’w ffrindiau a’u cymdogion.

Mae ar gael i bawb, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dim ond mynd i wefan Learning@Wales sydd ei angen a mewngofnodi fel gwestai.

Mae hwn yn gyfnod eithriadol ac alla i ddim gorbwysleisio’r risg. Dw i am roi sicrwydd i bobl Cymru ein bod ni’n barod ac ar gael ddydd a nos i helpu’r rheini sy’n wynebu’r perygl o drais a cham-drin domestig.

Peidiwch, da chi, â dioddef yn dawel. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.