Heddiw, fod mwy o bobl ag awtistiaeth yng Nghymru bellach yn cael mynediad cyflymach at wasanaethau gwell o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru.
Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, gyda buddsoddiad o £13m mewn gwasanaethau Awtistiaeth Integredig newydd ledled Cymru.
Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Cynllun Gweithredu yn cael ei gyhoeddi heddiw, ac mae'n amlinellu'r hyn sydd wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r llwyddiannau'n cynnwys:
- Gwella gwasanaethau – Mae sefydlu gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn creu cymorth cyson i bobl awtistig ledled Cymru. Mae gwasanaethau eisoes ar waith yng Nghaerdydd a'r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys. Byddant yn cael eu lansio yn y Gogledd yr wythnos nesaf a byddant ar waith ym Mae'r Gorllewin ac yn y Gorllewin yn ddiweddarach eleni.
- Gwella amseroedd aros ar gyfer asesu – Ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2m yn ychwanegol y flwyddyn mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol plant. Ym mis Tachwedd 2017, cyflwynwyd safon aros newydd o 26 wythnos o’r atgyfeiriad i’r apwyntiad asesu cyntaf, ac mae hyn bellach yn cael ei dreialu.
- Codi ymwybyddiaeth – Ymestyn y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth. Yn ogystal â'r cynllun i ysgolion cynradd, mae'r cynlluniau i ysgolion uwchradd a'r blynyddoedd cynnar wedi'u lansio ac maent bellach ar waith. Erbyn hyn, mae 80 o ysgolion wedi cwblhau'r rhaglen i ysgolion cynradd, gyda bron i 13,000 o blant yn archarwyr awtistiaeth. Mae'r ymgyrch Weli Di Fi? hefyd yn cael ei darparu, a'r nod yw gwella ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn cymunedau lleol. Mae ffilm ac adnoddau'r ymgyrch yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â rheini a gofalwyr lleol, a busnesau ledled Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch o'r cynnydd go iawn rydyn ni wedi'i wneud eleni i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth. Rydyn ni'n codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar draws gwasanaethau, gan wella mynediad at wasanaethau asesu a diagnosis a darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth.
"Er ein bod yn gwneud cynnydd da, rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud llawer mwy. Rydyn ni'n parhau i edrych yn ofalus ar y materion mae pobl awtistig yn dweud sydd bwysicaf iddyn nhw er mwyn dylanwadu ar gamau gweithredu'r dyfodol."
Er mwyn helpu gwasanaethau i wella ymhellach, mae Gweinidogion yn bwriadu nodi anghenion pobl awtistig ar draws y gwasanaethau statudol drwy gyflwyno Cod Ymarfer ar Gyflawni Gwasanaethau Awtistiaeth sy'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig. Bydd yn rhoi eglurder ynghylch y cymorth y gall bobl awtistig ddisgwyl ei gael. Bydd hefyd yn darparu canllawiau ar y ffordd y gall gwasanaethau addasu i ddiwallu anghenion unigol pobl awtistig.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
"Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydyn ni am ganolbwyntio ein holl ymdrechion at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, ymwreiddio'r gwasanaeth integredig newydd a chyflawni ein holl ymrwymiadau eraill.
"Rydyn ni eisoes yn cyflawni gwelliannau y mae mawr eu hangen i wasanaethau awtistiaeth ac rwy' wedi fy argyhoeddi na fydd deddfwriaeth gostus a fydd yn galw am lawer o adnoddau yn arwain at unrhyw fanteision ychwanegol i bobl awtistig. Rhaid ei bod yn llawer gwell buddsoddi amser ac arian i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau cadarn ac yn sicrhau bod ffocws ar wella'n barhaus wrth i'r gwasanaethau newydd rydyn ni'n eu lansio sefydlu eu hunain.
"Rydyn ni yn gwrando ar y galwadau i wella gwasanaethau awtistiaeth ac yn gweithredu i gyflawni'r canlyniadau y mae pawb am eu gweld. Byddwn ni'n parhau i wrando a byddaf yn cadw meddwl agored o ran yr angen am ddeddfwriaeth sy'n benodol ar gyfer awtistiaeth yn y dyfodol os daw'n glir, drwy werthuso, mai dyna’r unig ffordd o gyflawni'r gwelliannau rydyn ni i gyd am eu gweld."