Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi gweld yn uniongyrchol sut y mae cyllid i wella cymorth ar gyfer pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl yn gwneud gwahaniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu’r Dirprwy Weinidog yn ymweld â gwasanaeth noddfa y tu allan i oriau, yn cyfarfod â darparwyr gwasanaeth derbyniadau cymunedol iechyd meddwl a llinell gymorth argyfwng iechyd meddwl 111 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r cymorth hwn wedi elwa o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid ychwanegol gwerth £6m sydd wedi cael ei ymrwymo eleni i wella’r llwybr gofal argyfwng.

Dywedodd Ms Neagle:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gofal mewn argyfwng, ond mae hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau atal cynnar fel na fydd angen y gofal hwnnw ar bobl yn y lle cyntaf. Gwyddom fod gan bobl sydd mewn argyfwng ystod eang o anghenion ac na fydd angen ymyrraeth glinigol arnynt. Rydym am i bobl allu cael gafael ar y gwasanaeth cymorth sy’n addas iddyn nhw, pan a lle y bo’i angen arnynt.

Heddiw, rwyf wedi gweld enghreifftiau gwych o bobl yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu opsiynau gwahanol i wasanaethau arbenigol, ond hefyd llwybrau clir i gymorth y GIG ar gyfer y rheini sydd ei angen. Mae’r camau gweithredu hyn yn gwireddu’r ymrwymiadau allweddol yn ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Dywedodd Dai Roberts, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig y tu allan i oriau, gan mai dyma pryd y mae argyfyngau iechyd meddwl yn datblygu gan amlaf, a phryd y mae angen cefnogaeth ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn croesawu cymorth Llywodraeth Cymru i’n galluogi ni i ddatblygu cynlluniau peilot fel y gwasanaeth 111 agored ar nos Wener ac ar y penwythnosau, a’r gobaith yw y gallwn ehangu’r gwasanaethau hwn i redeg pob awr o bob dydd os bydd y cyllid yn parhau.

Dywedodd Lianne Martynski, Arweinydd Hafal yn y De a rheolwr y gwasanaeth:

Roedd yn bleser gennym groesawu’r Gweinidog i’r Noddfa Iechyd Meddwl heddiw, er mwyn iddi gyfarfod â rhai o’r bobl sydd wir wedi cael budd o’r gwasanaeth arloesol hwn.

Pan fo pobl mewn argyfwng, mae’n hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ymarferol a chyfannol sy’n canolbwyntio ar y person mewn amgylchedd sy’n gyfforddus ac yn therapiwtig. Dyna’n union y mae’r Noddfa yn ei ddarparu.

Mae’r effaith y mae’r gwasanaeth yn ei chael eisoes yn glir: mae cleientiaid wedi derbyn ystod o ymyriadau ac wedi cael eu cyfeirio at ofal a thriniaeth barhaus, sydd wedi lleihau’r angen am orfod mynd i’r ysbyty ac wedi lleihau’r risg o niwed i’r bobl yn yr ardal.

Dywedodd James Shaughnessy, Pennaeth y Gwasanaeth Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan Cymru:

Fel prif elusen cymorth cyntaf Cymru, ein nod yw gwella iechyd a lles cymunedau ar draws Cymru.

Rydyn ni wrth ein boddau cael bod yn rhan o’r bartneriaeth arloesol hon gyda Llywodraeth Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wella profiad y claf yn y gymuned drwy ddarparu trafnidiaeth brydlon ac addas i bawb sydd dan ein gofal.