Neidio i'r prif gynnwy

Mae data ar alwadau brys ac amseroedd ymateb ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

O Mehefin 2018 rydym yn cyhoeddi Dangosyddion Ansawdd Ambiwlansys ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Mae'r data, yn fisol o Ebrill 2016, ar gael ar StatsCymru.

Cafodd 479,444 o alwadau brys ambiwlans eu gwneud yn ystod 2017-18, 4.4% i fyny o’r flwyddyn flaenorol, a 126% yn fwy nag yn 1991-92.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 479,444 o alwadau brys ambiwlans eu gwneud yn ystod 2017-18, 4.4% i fyny o’r flwyddyn flaenorol, a 126% yn fwy nag yn 1991-92.
  • Roedd 22,878 yn alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol), 4.8% o’r cyfanswm.
  • Roedd 74.6% o alwadau coch wedi derbyn ymateb o fewn 8 munud, i lawr o 76.3% yn 2016-17.
  • Roedd perfformiad yn amrywio o 68.2% yn Hywel Dda i 81.7% yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau coch oedd 4 munud a 58 eiliad, tair eiliad yn arafach o’i gymharu â 2016-17.
  • Yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau melyn oedd 19 munud a 3 eiliad, bron i 5 a hanner munud yn arafach na’r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwasanaethau ambiwlans, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.