Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth newydd ar-lein, fydd yn paru gweithwyr gyda ceiswyr swyddi sy’n chwilio am waith amaethyddol, ar y tir a gwaith milfeddygol yn ystod yr achosion o COVID-19, yn cael ei lansio heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, caiff y gwasanaeth peilot newydd ei ddarparu gan Lantra, y prif gorff dyfarnu ar gyfer y diwydiannau ar y tir yng Nghymru.   

Bydd y gwasanaeth yn cysylltu gweithwyr posibl, gyda’r sgiliau a’r profiad perthnasol, gyda busnesau i sicrhau bod swyddi yn cael eu llenwi yn y misoedd nesaf, gan fynd i’r afael ag unrhyw brinder llafur posibl yn y sector o ganlyniad i’r achosion o COVID-19. 

Mae ffurflenni paru sgiliau yn hawdd i’w llenwi a gellir eu llenwi ar-lein ar https://www.wales.lantra.co.uk.  

Ar gyfer unigolion sydd heb gyfrifiadur neu sydd heb sgiliau TG digonol, bydd y Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn gallu llenwi y ffurflenni ar-lein ar eu rhan. 

Meddai Lesley Griffiths y Gweinidog Materion Gwledig:

Rydyn ni i gyd yn pryderu am yr effaith y mae Covid-19 yn ei gael ar ein sectorau amaeth a garddwriaeth yng Nghymru, yn ogystal ag ar ein bywydau bob dydd.  Gallai prinder llafur, o bosibl, fod yn broblem fawr yn ystod yr haf. 

Yn anffodus, os bydd aelod o deulu ffermio neu weithiwr o fewn y busnes yn mynd yn sal, mae’n debygol y bydd nifer o aelodau’r teulu neu’r gweithwyr yn mynd yn sal hefyd oherwydd natur yr amgylchedd weithio a’r ffordd y mae’r clefyd yn lledaenu.  Gallai hyn olygu bod tasgau dyddiol heb eu cwblhau, gan gael effaith andwyol ar y busnes ac o bosibl hyd yn oed achosi problemau difrifol o ran iechyd a lles anifeiliaid. 

Rydym wedi ymrwymo i roi gwaith i bobl: cefnogi ein sectorau amaethyddol a garddwriaeth: sicrhau y gall y cadwyni cyflenwi gadw’r bwyd i lifo i gartrefi pobl a helpu ein heconomi wledig.

Bydd y gwasanaeth newydd gan Lantra yn helpu inni fynd i’r afael â hyn, gan baru pobl ddawnus gyda chyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr megis cneifwyr defaid, contractwyr dipio defaid, torwyr carnau, casglwyr ffrwythau a milfeddygon mewn swyddi mewn llai na 14 diwrnod.

Meddai Sarah Lewis, Dirprwy Gyfarwyddwr Lantra Cymru:

Rydym wedi datblygu Gwasanaeth Paru Sgiliau yn ystod y cyfnod anodd hwn i sicrhau y gall busnesau barhau gyda’u tasgau dyddiol, pe byddai aelod o’r teulu yn mynd yn sal neu weithiwr fynd yn sal a methu gweithio.   

Bydd y gwasanaeth yn gallu paru unigolion all weithio, naill ai dros dro neu yn yr hirdymor, gyda busnes sydd angen llafur ychwanegol yn ystod yr achosion o COVID-19.

Mae’r broses o gofrestru, naill ai fel unigolyn sy’n chwilio am waith neu fel busnes sy’n chwilio am gymorth ychwanegol, yn syml iawn.  

Unwaith y bydd y ffurflen gais wedi’i chwblhau, byddwn yn gwneud y gwaith o baru unigolion a busnesau yn seiliedig ar sgiliau, y galw a’r lleoliad.