Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd ar gyfer hunaniaeth rywedd oedolion
I gyd-fynd â Pride Cymru, mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi cam sylweddol ymlaen ym maes gofal iechyd i bobl drawsryweddol, a fydd yn golygu sefydlu gwasanaethau arbenigol mewn ysbyty am y tro cyntaf yng Nghymru.
Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i ofal cymunedol hefyd, wrth i rwydwaith o feddygon teulu trwy Gymru sydd â diddordeb arbenigol mewn gofal iechyd ym maes hunaniaeth rywedd allu darparu mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl. Bydd hynny’n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ofal, ac yn gwella’r profiad iddynt.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd i bobl drawsryweddol yng Nghymru. Fel rhan o’n hymrwymiad i wella iechyd a llesiant i bawb, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru eleni i wella’r ddarpariaeth ar gyfer hunaniaeth rywedd yng Nghymru.
“Mae’r gwasanaethau newydd rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn golygu y bydd yr holl wasanaethau ac eithrio’r rhai mwyaf arbenigol ar gael yng Nghymru cyn hir, a hynny mor agos â phosibl at gartrefi’r defnyddwyr. Bydd hynny’n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ofal, ac yn gwella’r profiad iddynt. Rwy’n edrych ymlaen at weld gwelliannau mawr i’r gwasanaethau hynny.
“Mae Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth Rywedd Cymru wedi ymwneud yn agos â’r gwaith o lunio’r llwybr gofal newydd, a byddant yn parhau i gymryd rhan yn holl waith y dyfodol. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith hyd yma ac am eu hymroddiad a'u cyfraniad wrth ddatblygu gwell gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl drawsryweddol yng Nghymru.”
O'r hydref eleni ymlaen, bydd seiliau llwybr gofal newydd dros dro yn ei le i wella mynediad at wasanaethau o'r fath i bobl Cymru. Mae'r llwybr gofal dros dro wedi'i gymeradwyo gan Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned drawsryweddol a defnyddwyr gwasanaethau.
Dan y model newydd hwn, bydd gwasanaeth amlddisgyblaethol - Tîm o ran Rhywedd Cymru - yn darparu cefnogaeth i rwydwaith o feddygon teulu trwy Gymru sydd â diddordeb arbenigol ym mhob maes gofal o ran rhywedd, gan gynnwys therapi hormonau. Byddant yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu.
I ddechrau, bydd y gwasanaeth yn hwyluso rhagnodi meddyginiaeth i unigolion sydd eisoes wedi bod yn mynychu Clinig Hunaniaeth Rywedd yn Llundain. O ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd y Tîm yn derbyn atgyfeiriadau newydd ac yn symud unigolion priodol sydd ar restrau aros am driniaeth ar hyn o bryd. Bydd hyn yn digwydd mewn partneriaeth gyda'r Clinig, lle bydd y llwybrau gofal yn parhau i fod ar agor ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth neu'r rhai sy'n gofyn am lawdriniaeth ailbennu rhywedd. Gall unigolion barhau i gael eu trin gan eu darparwr presennol os byddai'n well ganddynt wneud hynny.
O ganlyniad i'r trefniadau newydd hyn, bydd llai o bellter i'w deithio, llai o amser i aros a gwell profiad i'r defnyddwyr. Bydd hefyd yn golygu bod y lleoedd presennol mewn clinigau yn cael eu rhyddhau i'r rhai sydd angen gwasanaethau mwy arbenigol, ac yn helpu i fyrhau'r camau rhwng yr atgyfeiriad cychwynnol a dechrau’r driniaeth.
Wrth i'r gwasanaeth newydd hwn gael ei roi ar waith, bydd y Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth Rywedd Cymru yn symud ymlaen gyda gweddill yr argymhellion i adeiladu ar y gwasanaeth dros dro a datblygu gwasanaeth a llwybr cyfeirio llawn.
Dywedodd Jack Jackson, o’r Gogledd, sy’n aelod o Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth Rywedd Cymru:
“Rwy’n falch o gael bod yn rhan o’r broses ac yn gobeithio y gallaf wneud cyfraniad i helpu i wella pethau yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau trawsryweddol a phobl Cymru.”
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru:
“Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn falch iawn o weld sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n rhagweithiol i wrando ac i fynd i’r afael ag anghenion gofal holistig y gymuned drawsryweddol.
“Rydym yn falch hefyd y bydd gan feddygon teulu sydd â diddordeb arbenigol yn y maes ran allweddol yn y gwasanaeth newydd, yn ogystal â phob meddyg teulu sy’n rhan o siwrnai’r claf. A dyma’r tro cyntaf yn y DU inni gael eglurder ynghylch llwybrau atgyfeirio.”