Cynhaliwyd yr ymchwil ar ffurf sesiynau trafod estynedig mewn tri lleoliad yng Nghymru ac roeddent yn cynnwys cymysgedd eang o'r cyhoedd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Digwyddodd hyn rhwng Awst a Hydref 2012 a cheisiwyd barn a sylwadau ynglŷn â chreu dealltwriaeth rhwng pobl Cymru, Llywodraeth Cymru a'r GIG.
Amcanion yr ymchwil oedd egluro agweddau tuag at y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG a'r ffordd y defnyddir gwasanaethau o'r fath gan y cyhoedd ac archwilio sut y gellid gwella’r berthynas rhwng y GIG, y llywodraeth a'r cyhoedd er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf o ran darparu gwasanaeth. Roedd hyn yn rhan o fenter i ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy uniongyrchol o ran creu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/130603-peoples-nhs-research-support-consultation-compact-people-relation-health-services-en_0-thumb_jpg_0.jpg?itok=Xb20uOVv)
Gwasanaeth Iechyd y Bobl: ymchwil i gefnogi'r ymgynghoriad ar greu 'Compact' gyda phobl Cymru mewn perthynas â'u hiechyd a'u gwasanaethau iechyd , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 452 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/130603-peoples-nhs-research-support-consultation-compact-people-relation-health-services-summary-cy-thumb_jpg.jpg?itok=6DunRC-h)
Gwasanaeth Iechyd y Bobl: ymchwil i gefnogi'r ymgynghoriad ar greu 'Compact' gyda phobl Cymru mewn perthynas â'u hiechyd a'u gwasanaethau iechyd (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 364 KB
Cyswllt
Janine Hale
Rhif ffôn: 0300 025 6539
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.