Bydd y gwasanaeth estynedig yn cael ei lansio'n swyddogol heddiw gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd y gwasanaeth estynedig yn cael ei lansio'n swyddogol heddiw gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd. Hefyd yn y lansiad fydd Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru (WAA) Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros-dro Meddygon Awyr Cymru’Dr Ami Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Peter Higson, a Phrif Bwyllgor Gwaith BIPBC Dr Evan Moore.

Yn 2015, crëwyd partneriaeth Trydydd Sector-Sector Gyhoeddus unigryw rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. O ganlyniad, crëwyd y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru), a elwir yn aml wrth eu llysenw ‘Meddygon Awyr Cymru’, sy’n darparu gofal meddygol critigol a brys cyn-ysbyty arloesol ar draws Cymru. Mae’r Gwasanaeth, sy’n cymryd yr ystafell frys at y cleifion, yn cynnwys ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol GIG sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n medru darparu triniaethau brys arloesol sydd fel arfer yn amhosibl eu cael tu allan i amgylchedd ysbyty.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn codi £6.5 miliwn bob blwyddyn o rodd-daliadau elusennol i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr.

Cyn gyflwyno’r gwasanaeth ‘Meddygon Awyr Cymru’, roedd holl hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru wedi eu staffio gan barafeddygon. Mae cyflwyniad ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol yn golygu fod y gwasanaeth yn awr yn medru rhoi trallwysiadau gwaed ac anesthetyddion, cynnig cyffuriau lladd poen cryf, a darparu ystod o driniaethau meddygol – a hyn i gyd wrth safle’r digwyddiad.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ‘Meddygon Awyr’ wedi dod yn weithredol ar yr hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru sy’n seiliedig yn Nafen (Llanelli) ac yn y Trallwng. Bydd y cam nesaf yn gweld y Gwasanaeth yn dechrau gweithio o ganolfan yr elusen yng Nghaernarfon. Yn ogystal â chyflwyno’r meddygon, mae’r elusen hefyd wedi datgelu hofrennydd newydd a mwy datblygedig ar gyfer Gogledd Cymru.

Yn ychwanegol, mae gan y Gwasanaeth cerbydau ymateb cyflym, a bydd un ohonynt yn seiliedig yng Nghaernarfon, yn ogystal â’r hofrennydd. Cynlluniwyd y cyfarpar meddygol i fod yn gyfnewidiadwy rhwng hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym yr elusen.

Cefnogir y datblygiad hwn gan BIPBC a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn ogystal â’r partneriaid gwreiddiol.

Mae gwerthusiad annibynnol gan y Sefydliad Farr o Brifysgol Abertawe wedi dangos yn barod sut mae’r gwasanaeth ‘Meddygon Awyr Cymru’ yn cael effaith positif ar ofal critigol yng Nghymru.

Mae’r canlyniadau yn dangos:

  • bod y Gwasanaeth wedi lleihau’r amser mae’n cymryd i rywun sy’n difrifol wael i dderbyn triniaeth o dan arweiniad ymgynghorydd drwy gymryd yr ystafell frys at y claf
  • bod gan fwy o bobl yng Nghymru, mewn ardaloedd gwledig a dinesig, fynediad cyfartal i driniaeth amserol o dan arweiniad ymgynghorydd yn ystod digwyddiad brys, a gellir eu trosglwyddo’n syth i ofal arbenigol mewn cyfleusterau gofal iechyd ar draws Cymru a thu hwnt
  • bod y Gwasanaeth wedi tynnu pwysau oddi ar wasanaethau brys rheng flaen y GIG. Mae wedi gwella’r amser mae’n cymryd i gymryd cleifion penodol i gael sgan CT neu lawfeddygaeth brys. Yn ychwanegol, mae’r Gwasanaeth wedi lleihau trosglwyddiadau drud rhwng ysbytai drwy gymryd cleifion yn syth i’r gofal arbenigol priodol
  • bod y gwasanaeth wedi cefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth mewn gofal critigol a brys ar gyfer gweithwyr GIG Cymru, yn ystod digwyddiadau brys a thrwy drefnu cyfleoedd hyfforddi rheolaidd. 

Cyflwynir tystiolaeth o fuddion iechyd tymor hir y claf dros y rhai blynyddoedd nesaf; er hynny, mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu fod gofal critigol a brys gwell wrth safle’r digwyddiad neu mewn ysbyty lleol yn cynyddu siawns, a chyflymder, gwellhad y claf.


Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi cefnogi recriwtio ymgynghorwyr meddygaeth ac ymgynghorwyr anesthesia i mewn i Gymru, gan gynnwys BIPBC.  

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Rwy’n croesawu’r fenter hwn a fydd yn gwella'r gwasanaeth presennol o Gaernarfon ac yn ei roi ar yr un lefel â gweddill y cyflenwad EMRTS sydd ar gael mewn llefydd eraill. 

“Bydd yn dod â mynediad i ofal critigol a meddygaeth brys yn llawer yn agosach i bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru a bydd yn sicrhau eu bod yn medru cael y gofal gorau yn gyflymach.

“Bydd yr hofrennydd a’r cerbyd ymateb cyflym newydd a fydd ar gael ar y maes awyr yn diogelu’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru presennol ac yn gwneud yr ardal yn fwy atyniadol i’r clinigwyr ac ymarferwyr gofal critigol gorau. Bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu gofal heb ei gynllunio o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru.”

Dywedodd Dr Ami Jones, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro EMRTS Cymru: 


“Mae Cymru yn medru ymfalchïo yn y ffaith ein bod gennym ofal critigol o safon platinwm sefydledig a chyson ar draws yr holl wlad, drwy ganolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru. Mae’r Gwasanaeth yn cynorthwyo gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn barod, ond mae’r cam nesaf yma yn ein datblygiad ond yn gallu gwella’r buddion rydym yn eu cynnig, nid yn unig yng Ngogledd Cymru, ond ym Mhowys a rhannau o Geredigion.”

Dywedodd Angela Hughes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: 

“Mae’r cyfarpar a thriniaethau arloesol rydym wedi’u cynnig wedi denu sylw rhyngwladol, gyda nifer o wasanaethau ambiwlans awyr ar draws y byd yn edrych i fabwysiadu’r model Cymreig. Rydym yn diolch yn daer i bobl Cymru am godi’r arian rydym angen i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr bob blwyddyn. Rydym yn gwasanaethu Cymru ac yn achub bywydau.”

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr BIPBC: 


“Rydym yn falch iawn i gefnogi’r datblygiad hwn gan EMRTS Cymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ofal critigol yng Ngogledd Cymru.

“Bydd y gwasanaeth arbenigol hwn yn darparu mynediad chwim o ofal sy’n achub bywyd i gleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig.

“Rydym yn bles fod y gwasanaeth hwn hefyd wedi helpu i recriwtio ymgynghorwyr meddygaeth brys ac ymgynghorwyr anesthesia i mewn i’n hysbytai gan iddynt gael eu denu yma gan y cyfle i weithio ar gyfer EMRTS Cymru.”