Flwyddyn ar ôl iddo gael ei lansio, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud y bydd Cymru’n Gweithio’n chwarae rôl hanfodol wrth helpu Cymru i adfer o effeithiau’r coronafeirws (COVID-19).
Ers Mai 2019, mae Cymru’n Gweithio, sy’n cael ei ddarparu drwy Yrfa Cymru, wedi rhoi cymorth cyflogadwyedd uniongyrchol i dros 31,500 o oedolion a thros 6,000 o bobl ifanc wrth iddynt chwilio am swyddi.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Mae Cymru’n Gweithio eisoes wedi helpu miloedd o bobl, a bydd y cymorth hwnnw’n bwysicach nag erioed wrth inni ymdrin ag effeithiau economaidd y coronafeirws.
Rydyn ni’n gwybod y bydd y galw am y gwasanaeth hanfodol hwn yn cynyddu’n sydyn yn y tymor byr, gan ei bod yn debygol y bydd lefelau diweithdra’n codi’n sylweddol yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd sicrhau bod unigolion yn cael y cyngor a’r arweiniad priodol i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i waith yn hanfodol er mwyn adfer ein heconomi.
Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae’n cynnig ffordd symlach o roi cymorth cyflogadwyedd drwy ddarparu man cyswllt sengl ar gyfer pobl lle y gallant gael y cyngor a’r hyfforddiant arbenigol, wedi eu personoli sydd eu hangen i gael a chadw swyddi parhaol o ansawdd uchel.
Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys asesiad o’r hyn sy’n rhwystro rhywun rhag cael swydd; cyngor, arweiniad a chyfeirio; chwiliadau swyddi; ysgrifennu CV; yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau a dod o hyd i leoliadau gwaith.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn parhau i chwarae eu rôl hanfodol drwy ddulliau rhithwir, gan gynnwys gwerthuso a deall anghenion unigolyn drwy eu cyfleusterau sgwrsio dros y we a’u gwasanaeth ffôn.
Mae’r rhaglen hefyd yn darparu adnoddau pwysig ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo, fel cyrsiau ar-lein yn rhad ac am ddim lle y gall unigolion ddatblygu eu sgiliau.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi sy’n darparu’r gwasanaeth pwysig hwn am bopeth dych chi’n ei wneud i wella rhagolygon unigolion, ac yn y pen draw, eu bywydau.
Fel llywodraeth, rydyn ni’n benderfynol o weld busnesau Cymru yn ffynnu unwaith eto, gan helpu pobl i gael y cyfleoedd pwysig hynny i gael swyddi a helpu ein heconomi i ffynnu i’r un graddau ag yr oedd cyn y pandemig.
Bydd gan Gymru’n Gweithio rôl hanfodol i’w chwarae yn y dyfodol, a hoffwn i annog unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo neu sy’n chwilio am gymorth a chyngor i gysylltu â’r tîm.
Rhywun sydd wedi elwa ar y gwasanaeth yw Christopher, a fu yn y fyddin am 14 mlynedd, ond nid oedd yn sicr beth i’w wneud nesaf o ran gyrfa.
Diolch i gymorth gan Gymru’n Gweithio, mae wedi llwyddo i gael swydd newydd ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd.
Dywedodd Christopher:
Roeddwn i wedi bod yn y fyddin am tua 14 mlynedd, ond pan adawais i, doedd dim syniad gen i beth i’w wneud nesaf. Y lluoedd arfog fu fy mywyd.
Ces i gymorth gwych gan y cynghorydd gyrfaoedd yn ystod y broses ymgeisio, i sicrhau cyllid a hyfforddiant. Gweithion ni ar gynllun gweithredu gyda’n gilydd, a gwnes i ymchwil i swyddi y gallwn i wneud cais amdanyn nhw ar ôl hyfforddi.
Heblaw am Gymru’n Gweithio, dw i ddim yn credu byddwn i yn fy sefyllfa bresennol. Dw i wedi profi ymdeimlad gwych o gyflawni, ac mae hynny wedi fy annog i astudio ar gyfer gradd.
Dywedodd Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence:
Mae blwyddyn gyntaf Cymru’n Gweithio wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda'n cynghorwyr arbenigol yn darparu cymorth ar gyfer dros 37,000 o bobl ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth inni feddwl am y dyfodol yn y dyddiau heriol hyn, hoffwn i roi sicrwydd i bobl fod ein cynghorwyr gyrfaoedd ar gael dros y ffôn, drwy ein cyfleuster sgwrsio dros y we a thrwy ein sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn parhau i roi’r cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl i gael swydd.