Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, wedi ymweld â Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ynghyd â chynrychiolwyr o'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwasanaeth yn dod â gwaith ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid at ei gilydd i gefnogi pobl ifanc. Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn hanfodol er mwyn atal plant rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, lleihau eu cyswllt â'r system honno a'u helpu i fyw bywydau di-drosedd.

Mae Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn darparu amrywiaeth o gymorth arbenigol i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed i'w helpu i gyrraedd eu potensial personol, cymdeithasol ac addysgol llawn. Rhoddodd archwiliad cyfiawnder ieuenctid diweddar sgôr 'rhagorol' i'r gwasanaeth, gan dynnu sylw at lefel y gofal a'r ymroddiad gan staff a phartneriaethau â sefydliadau eraill a helpodd blant a theuluoedd i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.

Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wedi elwa ar Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys y gronfa Hyrwyddo Ymgysylltu Cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu.  Mae’r cyllid hwn yn cynnig cymorth ataliol a dargyfeiriol i blant sydd mewn perygl o ddod o fewn cwmpas y system cyfiawnder ieuenctid ac i'r rhai sy’n rhan o'r system eisoes. 

Mae'r grantiau hyn yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys cyfiawnder adferol, fel plant yn ysgrifennu llythyrau yn ymddiheuro i ddioddefwyr eu troseddau a gwaith adfer o fewn y gymuned. Mae hefyd yn ariannu ymyriadau i helpu pobl ifanc i fyw bywydau cynhyrchiol heb droseddu ymhellach ac mae'n derbyn atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: 

"Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ymroddedig i gefnogi plant, sy'n amlwg o'u hadroddiad arolygu cadarnhaol. Roeddwn yn falch o weld â'm llygaid fy hun sut mae'r tîm ymroddedig a brwdfrydig hwn yn blaenoriaethu anghenion y plant a'r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi gan ddarparu ymyriadau creadigol ac arloesol.

"Mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid yn rhoi plant yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar eu hanghenion a sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio mewn ffordd sy'n cydnabod eu buddiannau gorau. Gyda'r gefnogaeth gywir, gall plant gael eu grymuso i fyw bywydau cadarnhaol a di-drosedd, nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Stephanie Roberts-Bibby: 

"Roedd yn bleser ymweld â Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerfyrddin ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i weld arfer mor wych yn cael ei ddisgrifio gyda brwdfrydedd heintus. Yr hyn a oedd yn fwyaf trawiadol oedd yr ymrwymiad i gymhwyso'r sylfaen dystiolaeth gyntaf i ymarfer lleol a faint roedd pawb yn malio am eu gwaith, y plant, y dioddefwyr a'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.

"Roedd y graddau y canolbwyntiodd Caerfyrddin ar gyflawni canlyniadau cadarnhaol i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw yn wirioneddol drawiadol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai dyma pam eu bod yn cael eu hystyried yn wasanaeth rhagorol gan Arolygiaeth Prawf EF ac yn wasanaeth cwadrant 1 yn ôl ein fframwaith goruchwylio. Roedd yr arweinyddiaeth a welsom yn rhagorol ac mae'r tîm, a'r plant maen nhw'n gweithio gyda nhw, yn ffynnu o ganlyniad."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin, Jake Morgan a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans: 

"Rydym yn hynod falch o bob aelod o'n Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ac yn ddiolchgar am eu gwaith hynod bwysig: gwaith y maent yn ei gyflawni i'r safonau uchaf un.

"Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn arweinwyr yn eu sector ac yn chwarae rhan hanfodol yn amcan llesiant yr awdurdod lleol i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau."