Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasanaeth Canfod Tendr (Find a Tender Service - FTS) i ddisodli'r OJEU / TED ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasanaeth Canfod Tendr (Find a Tender Service - FTS) i ddisodli'r OJEU / TED ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo. Bydd FTS yn mynd yn fyw am 11am ar 31 Rhagfyr 2020.

Ar ôl diwedd y cyfnod pontio, bydd angen cyhoeddi eich hysbysiadau caffael cyhoeddus ar FTS (drwy GwerthwchiGymru) gan y bydd yn disodli'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau yn yr OJEU. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gall GwerthwchiGymru gysylltu â'r FTS newydd, a fydd yn caniatáu i gynnwys hysbysiadau iaith Gymraeg gael eu cyflwyno i FTS.

Os ydych wedi lansio gweithdrefn gaffael cyn diwedd y cyfnod pontio nad yw wedi'i ddyfarnu, bydd GwerthwchiGymru yn cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu ar FTS yn ogystal ag OJEU/TED ar ôl i'r cyfnod pontio ddod i ben.