Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi defnyddio gwasanaeth bws T9 y maes awyr yn ystod y chwe mis diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhwng mis Mawrth a mis Awst 2017, defnyddiodd dros 86,000 o bobl y gwasanaeth sy'n gynnydd o 15% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.


Gan fod maes awyr Caerdydd yn parhau i dyfu a Chymru yn cael ei gweld yn fwy ar draws y byd fel cyrchfan i dwristiaid, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, ei fod yn falch o weld gwasanaeth T9 yn chwarae mwy o rôl yn nhrefniadau teithwyr.


Dywedodd Mr Skates:


"Maes Awyr Caerdydd yw un o'r meysydd awyr sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae'n parhau i fynd o nerth i nerth. Rwyf wedi bod yn glir o'r dechrau'n deg fod gwasanaeth bws dibynadwy a rheolaidd rhwng y maes awyr a Chaerdydd a thu hwnt yn allweddol, yn enwedig gan fod y maes awyr yn symud ymlaen at y cam nesaf cyffrous yn ei ddatblygiad. 


"Yn ogystal â statws cynyddol y maes awyr, ei bosibiliadau a bod modd hedfan i fwy o gyrchfannau oddi yno, mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio gwasanaeth T9 yn galonogol iawn ac yn dangos yr awydd cynyddol am drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd rhwng Maes Awyr Caerdydd a'r ddinas.


"Mae dros hanner miliwn o deithwyr bellach wedi defnyddio'r gwasanaeth ers ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2013. Edrychaf ymlaen at weld T9 yn parhau i fod yn rhan o'r hyn y mae Cymru yn ei gynnig, gan adeiladu ar y nodweddion cadarnhaol hyn a hwyluso hyd yn oed mwy o deithiau i filoedd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf”.

Mae'r ffigurau ar gyfer y chwe mis diwethaf o'u cymharu â'r llynedd fel a ganlyn:

Mis Mawrth 2016 - 13,041 – Mis Mawrth 2017 - 13,223

Mis Ebrill 2016 - 8,653 – Mis Ebrill 2017 - 12,969

Mis Mai 2016 - 10,695 – Mis Mai 2017 - 15,786

Mis Mehefin 2016 - 13,358 – Mis Mehefin 2017 - 15,264

Mis Gorffennaf 2016 -14,589 – Mis Gorffennaf 2017 - 13,976

Mis Awst 2016 - 14,500 – Mis Awst 2017 - 15,089