Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth bws y T9 sy’n cysylltu Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd wedi cael ei flwyddyn orau erioed, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ffigurau chwarterol hyd at fis Medi 2016 yn dangos cyfartaledd o dros 13,200 o deithwyr y mis yn defnyddio’r gwasanaeth y llynedd, gyda thwf o fis i fis bob mis ers Mehefin 2014.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae Maes Awyr Caerdydd yn un o’r meysydd awyr sy’n datblygu gyflymaf ym Mhrydain ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.  Rwyf wedi dweud o’r dechrau bod gwasanaeth bws dibynadwy, rheolaidd i gysylltu’r maes awyr â Chaerdydd a thu hwnt yn allweddol os yw’r maes awyr i gyrraedd ei botensial llawn, ac mae’n galonogol gweld bod poblogrwydd y gwasanaeth T9 wedi cynyddu gyda phoblogrwydd y maes awyr.  

“Mae’r gwasanaeth, wrth gwrs, yn cynnig dau beth  – nid yn unig yn rhoi mynediad i deithwyr o Gymru a De Cymru i’r maes awyr ond hefyd yn cynnig cysylltiad hollbwysig i ymwelwyr.  Mae’r maes awyr yn parhau i weithio’n galed i gynyddu nifer y cyrchfannau, y llwybrau a’r posibiliadau sy’n cael eu cynnig ac rwy’n edrych ymlaen at weld y T9 yn parhau i lunio rhan o’r gwasanaeth hwn ac yn ychwanegu at y tueddiadau positif hyn i deithwyr.”  

Ychwanegodd Debra Barber, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd:

“Mae gwasanaeth bws cyflym yn hollbwysig i faes awyr mewn prifddinas ac rydym wedi ein calonogi gan dwf y T9 ac yn awyddus am gyfleoedd i gysylltu y maes awyr â gorllewin Cymru.  

“Fel maes awyr, mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer twf ac mae gwell mynediad ar y ddaear, gan gynnwys ar fysiau, ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd  yn hollbwysig i’n helpu i gyflawni hyn.”