Heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, y bydd prosiect peilot y T1C Traws Cymru rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn parhau tan o leiaf mis Rhagfyr.
Bydd estyniad o 6 mis i’r prosiect peilot presennol yn sicrhau y gall Llywodraeth Cymru asesu’n well anghenion a phatrymau teithio cwsmeriaid, gan gymryd i ystyriaeth tymor ymwelwyr yr haf a thu hwnt, cyn gwneud penderfyniad tymor hir ynghylch y gwasanaeth.
Dywedodd Ken Skates:
“Pan gyflwynon ni wasanaeth y T1C ychydig lai na chwe mis yn ôl, ein bwriad oedd hwyluso teithiau bws uniongyrchol rhwng y Gorllewin a Chaerdydd. Rydyn ni wedi gweld ers hynny bod y gwasanaeth hwn wedi’i ddefnyddio gan amrywiaeth o grwpiau ac unigolion gan gynnwys myfyrwyr, siopwyr ac ymwelwyr.
“Ar yr un pryd, fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn hollol agored nad yw’r gwasanaeth yr un mor boblogaidd ag yr oedden ni'n ei ddisgwyl. Y rheswm am hyn, efallai, yw bod Stagecoach Megabus wedi cyflwyno gwasanaeth masnachol yn gynharach eleni sy’n cynnwys yr un daith i raddau helaeth, er bod eithriadau pwysig.
O gofio hyn, credaf fod gwerth mawr mewn estyn y prosiect treialu am 6 mis arall. Bydd hyn yn sicrhau y bydd unrhyw benderfyniad tymor hir ynghylch dyfodol y gwasanaeth yn cael ei wneud ar sail data blwyddyn gron. Hefyd, bydd modd inni barhau i siarad â theithwyr, cwmnïau bysiau, cynghorau a grwpiau eraill am y gwasanaeth yr hoffent ei weld a’r ffordd orau o’i sicrhau.
“Dw i wrth fy modd bod ein gwasanaeth Traws Cymru yn parhau i gynnig teithiau bws rheolaidd i gymunedau ledled Cymru a fyddai fel arall heb ddewis o drafnidiaeth gyhoeddus. Dwi’n falch o gyhoeddi y bydd y T1C yn parhau i fod yn rhan o’r cynnig hwnnw tan o leiaf mis Rhagfyr."
Mae gwasanaeth T1C yn aros wrth bob safle bws rhwng Aberystwyth - Aberaeron - Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin ac wedyn yn aros wrth rai safleoedd rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd drwy Gross Hands, Gorsaf Fysiau Abertawe a Phentref Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.