Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein cytundeb fframwaith (NPS-PS-0095-19) ar gyfer cyflenwi cynlluniau buddiannau gweithwyr bellach yn fyw ac ar gael i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r fframwaith yn cynnwys darparu'r cynlluniau buddiannau gweithwyr canlynol:

  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cynllun ceir
  • Cynllun technoleg gartref
  • Cynllun lles ariannol
  • Cynlluniau iechyd a lles
  • Cynllun talebau gofal plant
  • Disgowntiau manwerthu a hamdden
  • Cyfryngau gwobrwyo a chydnabod
  • Platfform buddiannau ar-lein

Caiff cwsmeriaid ofyn am wasanaethau o'r un darparwr gwasanaeth a reolir a benodir i'r fframwaith. Nid oes angen cystadleuaeth bellach.

Cynghorir cwsmeriaid i edrych ar gofrestr contractau GwerthwchiGymru i sicrhau eu bod yn cael y fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau i gwsmeriaid (angen mewngofnodi): Dewis prynwr > Help ac Adnoddau > Contractau, Fframweithiau a Chanllawiau

A fyddech cystal â rhannu'r wybodaeth bwysig hon gyda’ch adrannau Caffael, Cyllid ac AD.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

Rhannu’r dudalen hon