Gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig
Prif bwyntiau
Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA wedi'i gyllidebu i fod yn £457 miliwn, cynnydd o £24.5 miliwn neu 5.7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 27% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 44% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 29% sy'n weddill.
Sir Ddinbych a Wrecsam sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 84%, a Chaerffili sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 52%.
Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £1,002. Mae’n cynnwys £709 o wariant dirprwyedig y disgybl a £293 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.
O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Merthyr Tudful sydd â’r mwyaf, £1,275 y disgybl, a Sir Fynwy sydd â’r lleiaf, £743 y disgybl.
Adroddiadau
Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 663 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.