Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi'i gyllidebu i fod yn £381 miliwn, cynnydd o £8.8 miliwn neu 2.4% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 27% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 46% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 27% sy'n weddill.
  • Sir Ddinbych sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 90%, a Chaerffili sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 56%.
  • Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £844. Mae’n cynnwys £617 o wariant dirprwyedig y disgybl a £227 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.
  • O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Blaenau Gwent sydd â’r mwyaf, £1,107 y disgybl, a Rhondda Cynon Taf â’r lleiaf, £639 y disgybl.

Adroddiadau

Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 490 KB

PDF
Saesneg yn unig
490 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.