Gwariant menter busnes ymchwil a datblygu: 2023
Amcangyfrifon o wariant ymchwil a datblygu gan fusnesau yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2023.
- Yn 2023, roedd gwariant menter busnes ar ymchwil a datblygu (BERD) yng Nghymru yn £835 miliwn, i lawr 5.5% ar ffigur 2022.
- Roedd hyn yn cynrychioli 1.7% o gyfanswm y DU.
- Ar gyfer y DU, cynyddodd gwariant busnes ar ymchwil a datblygu gan 2.9%.
Nodiadau
Gall nifer fach o brosiectau unigol sy'n cychwyn ac yn gorffen mewn cyfnod effeithio'n fawr ar lefel gwariant BERD yng Nghymru.
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon ar gyfer y cyhoeddiad hwn yw'r arolwg BERD blynyddol. Mae hyn yn casglu data blynyddol ar fusnesau'r DU sy'n perfformio ymchwil a datblygu. Mewn ystadegau BERD a gyhoeddwyd yn flaenorol, hyd at gyfnod cyfeirio 2020, sefydlwyd bod cwmpas anghyflawn, yn enwedig busnesau bach.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyflwyno sampl newydd ar gyfer 2022, sydd wedi cynyddu maint y data a dderbyniwyd ac wedi sicrhau bod yr ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr ymchwil a datblygu a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn disodli'r rhai o'r dull cynyddu interim a gymerwyd yn 2021 a'u bod yn cael eu hystyried yr amcangyfrifon mwyaf cywir o ymchwil a datblygu busnes yn y DU. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 a 2023 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU.
Mae SYG yn gweithio gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wrth iddynt gynnal asesiad ansawdd o ystadegau BERD. Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar y dulliau newydd a sut mae'r rhain yn diwallu anghenion ein defnyddwyr gyda'r nod o adennill statws Ystadegau Swyddogol Achrededig ar gyfer yr ystadegau hyn.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad SYG.
Bydd y setiau data manwl ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099