Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £3,096 miliwn, sef cynnydd o 6.3% ar y flwyddyn blaenorol.
- Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £6,773, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 6.0% neu £386.
- Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £5,617 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £1,156 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog.
- Mae £2,568 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion. Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 76% ac 89% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
- Mae 82.9% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 0.4 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau
Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 438 KB
PDF
Saesneg yn unig
438 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan StatsCymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.