Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Prif bwyntiau

Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £2,822 miliwn, sef cynnydd o 6.2% ar y flwyddyn blaenorol.

Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £6,203(r), sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 5.9%(r) neu £346(r). Mae hyn yn gynnydd mewn termau real o 3.9%(r) a'r cynnydd termau real cyntaf fesul disgybl ers 2007-08.

Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £5,192(r) y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £1,010(r) y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog. 

Mae £2,362 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion. Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 77% ac 90% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.

Mae 83.7% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 0.2 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

(r) Diwygiedig ar 16 Gorffennaf 2021.

Adroddiadau

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 752 KB

PDF
Saesneg yn unig
752 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.