Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £2,657 miliwn, sef cynnydd o 3.5% ar y flwyddyn blaenorol.
  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £5,857, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 3.2% neu £181. Mae hyn yn gynnydd mewn termau real o 1.2% a'r cynnydd termau real cyntaf fesul disgybl ers 2010-11.
  • Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £4,914 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £943 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog.
  • Mae £2,229 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion.  Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 77% ac 90% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
  • Mae 83.9% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 0.3 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2019 i Mawrth 2020 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 608 KB

PDF
Saesneg yn unig
608 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.