Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o gyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu (Y&D) ar draws sectorau marchnad gwahanol gan wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2019.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod cyfanswm o £794 miliwn wedi ei wario ar Y&D yn 2019 yng Nghymru; mae hyn yn ostyngiad bach o £4 miliwn (0.5%) o'i gymharu â 2018.
  • Roedd y gostyngiad hwn yn deillio’n bennaf o ostyngiad mewn gwaith ymchwil a datblygu ym maes Addysg Uwch, a ostyngodd £19 miliwn (5.6%) dros y flwyddyn. Roedd hyn yn dilyn cynnydd sylweddol o £102 miliwn (42.5%) rhwng 2017 a 2018.
  • Mae hyn yn cynrychioli 2.1% o gyfanswm gwariant Y&D y DU, a 1.0% o gynnyrch domestig gros Cymru.
  • Roed menter busnes Y&D yn cyfrif am 55.7% o’r cyfanswm yng Nghymru, gyda addysg uwch yn cyfrif am  40.7%, a’r llywodraeth yn cyfrif am y 2.9%.
  • Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer bach o brosiectau mawr yn cychwyn neu’n gorffen gael ddylanwad mawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.

Nodiadau

Mae'r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon o ymchwil a datblygu a gyflawnir yn y pedwar sector canlynol o economi'r DU ac a ariennir gan y pedwar sector canlynol:

  • ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD)
  • ymchwil a datblygu addysg uwch (HERD)
  • ymchwil a datblygu llywodraeth, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi'r DU (GovERD)
  • ymchwil a datblygu sefydliadau di-elw preifat (PNPRD)

Gelwir data ymchwil a datblygu'r sectorau hyn ar y cyd yn wariant mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (GERD).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn o fewn 48 awr.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.