Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Awst 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 997 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed gan gymunedau cynnal gwirfoddol posibl ar y prosesau y gallai gwaredu daearegol yn cael ei leoli yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mabwysiadu polisi ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA) yn ddaearegol. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai dim ond ar sail partneriaeth wirfoddol â chymuned neu gymunedau sy'n barod i ddechrau trafod y posibilrwydd o gynnig lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol ac os caiff y trafodaethau hynny eu cwblhau'n llwyddiannus y gellir gweithredu gwaredu daearegol yng Nghymru; proses a all gymryd dros ddegawd.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth i gymunedau cynnal gwirfoddol posibl a allai awyddus i fynd i drafodaethau heb ymrwymiad am gynnal cyfleuster gwaredu daearegol.