Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydym yn gofalu am y lleiniau ar ymylon ein cefnffyrdd a’n traffyrdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Asiantwyr Cefnffyrdd i ofalu am ein cefnffyrdd a’n traffyrdd. Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ran fwyaf o’r ffyrdd eraill.

Beth yw’r lleiniau ar ymylon ein ffyrdd

Dyma’r darnau o dir welwch chi ar ochr ein ffyrdd sydd fel arfer yn cynnwys:

  • porfa
  • coed
  • draeniau
  • nodweddion eraill fel twneli a phontydd gwyrdd

Gyda’i gilydd, mae rhyw 3,100 hectar o dir Cymru yn lleiniau.

Pam gofalu am y lleiniau ar ymyl ein ffyrdd

Mae’n bwysig ein bod yn cadw’n ffyrdd yn ddiogel i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Rydyn ni hefyd am wneud y lleiniau hyn yn llefydd gwell i natur.

Mae’r lleiniau ar ymylon ein ffordd a’r tir o’u cwmpas yn gartref i anifeiliaid, pryfed, planhigion a choed.  Wrth gynnal a chadw ein ffyrdd, rydyn ni’n trïo eu gwneud yn ddiogel i anifeiliaid a’r planhigion sydd yn ein helpu i:

  • reoli allyriadau carbon (sy’n twymo’r ddaear)
  • peillio’n cnydau bwyd
  • gadael i rywogaethau brodorol ffynnu
Image
decorative image
Ymyl y ffordd yn ne Cymru

Pam mae’r lleiniau ar ymyl ein ffyrdd yn bwysig

Mae lleiniau ar ymylon ffyrdd yn:

  • gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i ddefnyddwyr allu gweld yn well
  • atal llifogydd ar y ffyrdd
  • atal llygredd mewn dŵr rhag llifo i’r amgylchedd
  • helpu i wneud y ffordd yn rhan o’r wlad neu’r dref o’i chwmpas
  • cuddio’r ffordd a’r traffig oddi wrth dai a thirweddau sensitif
  • creu tirwedd amrywiol a diddorol ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd
  • darparu cynefin i fywyd gwyllt
  • diogelu nodweddion hanesyddol fel cerrig milltir a hen arwyddion
  • rhoi lle ar gyfer offer y briffordd
  • cario ceblau a phiblinellau

Sut ydyn ni’n gofalu am y lleiniau ar ymyl ffyrdd

I ofalu am y lleiniau hyn, rydyn ni’n:

  • torri tyfiant (fel porfa) yn y gwanwyn a’r haf er mwyn i ddefnyddwyr y ffyrdd allu gweld yn well ac i greu lle diogel oddi ar y ffordd
  • archwilio a rheoli coed a llwyni i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cwympo ac yn anafu pobl
  • archwilio a chynnal ffensys
  • cynnal draeniau a mannau storio dŵr
  • chwynnu planhigion ymledol yn yr hydref a’r gaeaf i’w rhwystro rhag lledaenu a niweidio mathau eraill o fywyd gwyllt ac yn ddifrodi ffyrdd. Darllenwch Chwyn niweidiol a rhywogaethau estron
  • torri tyfiant i bobl allu gweld golygfeydd
  • torri ac ailblannu coed a llwyni yn yr hydref a’r gaeaf fel eu bod yn gweddu’n dda i’r dirwedd
  • codi tyfiant i reoli plâu a chlefydau planhigion
  • codi tyfiant i wella cynefinoedd bywyd gwyllt; neu i ddiogelu nodweddion hanesyddol

Bywyd gwyllt ar leiniau ymylon ffyrdd

Rydyn ni’n creu lle ar gyfer natur a bywyd gwyllt wrth adeiladu a chynnal ffyrdd.  Mae hynny’n cynnwys:

  • plannu coed, llwyni a bylbiau a hau blodau gwyllt
  • torri’r borfa ar yr ymylon i gadw’r ffyrdd yn ddiogel, neu i annog blodau gwyllt i dyfu. Mae blodau gwyllt yn denu pryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw
  • gofalu am goed (eu trin, eu torri a’u hailblannu)

Mae’r lleiniau ar ymylon ffyrdd yn gynefin ardderchog i fywyd gwyllt am eu bod fel arfer yn cael llonydd gan bobl. Mae rhai’n gynefinoedd prin a chyfoethog.

Rydyn ni’n cadw golwg ar ein tir drwy’r flwyddyn gron i nodi’r rhannau sy’n bwysig i fywyd gwyllt.

Maen nhw’n gallu bod yn gartref i:

  • laswelltir blodeuog sy’n cynnal amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol fel llygad y llo mawr
  • mathau eraill o laswelltir fel glaswellt y gweunydd a brwyn
  • arwynebau craig a sgri – cynefin da ar gyfer cen a mwsogl
  • coetir, coed brodorol a llwyni gan ddarparu bwyd, mannau nythu/clwydo a chysgod i adar, ystlumod a phathewod
  • gweundir – yn gynefin i amrywiaeth o adar, ymlusgiaid (e.e. gwiberod) ac infertebratau
Image
decorative image
Pryf hofran ar flodyn gwyllt

Ymhlith yr anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yn y lleiniau ar ymylon ffyrdd y mae:

  • mamaliaid: fel ystlumod, pathewod, dyfrgwn a llygod y dŵr
  • amffibiaid (madfallod y dŵr, brogaod a llyffantod) ac ymlusgiaid (madfallod, nadredd defaid a gwiberod)
  • adar: fel bodaod (bwncathod) a thylluanod gwyn
  • planhigion: fel clychau’r gog, ffacbys chwerw, penigau’r porfeydd a thegeirianau)
  • pryfed: gan gynnwys brith y gors a’r gliradain Gymreig

Clefyd y coed ynn

Mae coed ynn yn gyffredin ar hyd ymylon ein ffyrdd yng Nghymru.

Mae rhyw 90% o goed ynn Prydain wedi dal y clefyd neu wedi’u lladd ganddo.

Darllenwch fwy am iechyd coed a phlanhigion a’n Strategaeth Coetiroedd i Gymru.

Pam mae’r onnen yn bwysig

Mae rhai rhywogaethau eraill yn dibynnu ar yr onnen.

Mae’n goeden ddefnyddiol iawn am gynnal bioamrywiaeth oherwydd:

  • mae mwy o faethynnau yn ei dail nag mewn llawer o ddail eraill
  • mae’n gartref i adar a mamaliaid bach (fel cnocellau’r coed ac ystlumod)
  • mae ei changhennau’n gadael mwy o oleuni i’r llawr oddi tani fel bod blodau, ffyngau a phlanhigion yn gallu cael mwy o heulwen

Bydd onnen sydd wedi dal y clefyd yn marw yn y pen draw oherwydd diffyg maeth a dŵr. Rydyn ni’n rheoli hyn oherwydd:

  • bydd bywyd yn anodd i’r pryfed, anifeiliaid a phlanhigion sy’n dibynnu ar yr onnen am eu bwyd neu eu cysgod
  • mae coed marw mawr yn gallu cwympo’n sydyn mewn stormydd gan beryglu’r bobl allai fod yn cerdded, beicio neu’n gyrru wrth eu hymyl
Image
decorative image
Onnen gyda clefyd y coed ynn

Beth ydyn ni’n ei wneud ynghylch clefyd y coed ynn

I amddiffyn pobl a bywyd gwyllt ar ac wrth ein ffyrdd, mae’n bwysig ein bod yn:

  • gwneud yn siŵr nad yw coed ynn yn cwympo
  • gwneud yn siŵr fod gan famaliaid bach a phryfed fwyd a chynefin i allu oroesi heb goed ynn

Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda’r Asiantwyr Cefnffyrdd SWTRA ac NMWTRA i:

  • gynnal arolygon bob haf i weld pa goed sy’n dioddef o’r clefyd
  • torri’r coed ynn sy’n dioddef o’r clefyd
  • plannu coed brodorol nad yw clefyd y coed ynn yn effeithio arnyn nhw

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

  • Asiantwyr Cefnffyrdd
  • awdurdodau lleol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • prifysgolion

Menter Coridorau Gwyrdd

Lansiwyd y Fenter Coridorau Gwyrdd gennym i wella teithiau ar y ffyrdd ac amgylcheddau lleol.

Beth yw coridorau gwyrdd?

Mae coridorau gwyrdd yn ffyrdd yr ydym yn eu defnyddio i annog mwy o fioamrywiaeth ac i reoli newid hinsawdd ledled Cymru.

Mae ganddynt fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Maent wedi'u cynllunio i wneud y gorau o'n tirweddau naturiol a gwneud ein ffyrdd yn fwy cynaliadwy.

Maent yn cynnwys y ffyrdd ar hyd y 3 llwybr sy'n rhan o Ffordd Cymru a mynediad i Gymru, a llwybrau i mewn i’n prif drefi a’n dinasoedd ac o’u hamgylch.

Mae rhai coridorau gwyrdd yn mynd drwy ein Parciau Cenedlaethol a'n safleoedd gwarchodedig neu'n agos atynt.

Image
Clychau'r gog ar ymyl ffordd yng ngogledd Cymru
Enghraifft o goridor gwyrdd yng ngogledd Cymru

Pam mae angen coridorau gwyrdd arnom

Mae coridorau gwyrdd yn helpu i wneud yr isod:

  • gwella ansawdd y dirwedd ar gyfer teithio gwyrdd neu ‘deithio llesol’ (fel cerdded a beicio)
  • gwarchod rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid pwysig
  • dangos cymeriad unigryw Cymru
  • gwella lles pobl
  • creu lleoedd ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys:
    • dyfrgwn
    • pathewod
    • tylluanod gwynion
    • ystlumod
    • madfallod dŵr cribog
  • mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Sut rydym yn creu coridorau gwyrdd

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a rheoli rhwydwaith ffyrdd mwy cynaliadwy.

Rydym yn gwneud hyn drwy’r isod:

  • plannu coed, trwsio neu adnewyddu nodweddion ffiniau (fel waliau a gwrychoedd) a phlannu blodau gwyllt
  • defnyddio atebion naturiol fel plannu coed brodorol ar gyfer gwarchod ffyrdd rhag eira’n lluwchio
  • gosod mannau croesi i anifeiliaid fel pontydd a chwlfertau fel y gall anifeiliaid groesi ffyrdd yn ddiogel
  • cysylltu coetiroedd, gwrychoedd a glaswelltiroedd fel bod gan anifeiliaid leoedd diogel i fyw ynddynt, gaeafgysgu ynddynt a symud o un lle i'r llall
  • gwarchod ein bywyd gwyllt a'n planhigion brodorol rhag rhywogaethau goresgynnol a rheoli clefydau niweidiol fel clefyd y coed ynn 
  • defnyddio'r 3000 hectar o dir ar rwydwaith ffyrdd Cymru i storio carbon
  • rheoli gorlifdiroedd a chreu systemau draenio cynaliadwy i ddelio â thywydd peryglus fel llifogydd
Image
The natural drainage on A40 Penblewin to Slebech green corridor
System draenio cynaliadwy ar ymyl yr A40 Penblewin i Slebech

Plannu coed ar gyfer storio carbon

Mae carbon deuocsid (CO2) yn nwy sy'n cyflymu cynhesu byd-eang.

Mae storio carbon yn ffordd o leihau swm y CO2 yn yr aer a rheoli newid hinsawdd.

Rydym yn plannu coed brodorol ar hyd ein ffyrdd oherwydd eu bod yn ffordd naturiol o storio carbon.

Mae angen CO2 ar goed i fyw, a storio CO2 yn eu dail a'u boncyffion. Pan fydd coed yn pydru neu'n cael eu llosgi, maent yn rhyddhau'r CO2 hwnnw yn ôl i'r atmosffer.

Mae storio carbon yn rhan bwysig o wneud ein ffyrdd yn llai niweidiol i'r blaned ac yn well i'n bywyd gwyllt.

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybod a oes gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn eich ardal, ewch i Traffig Cymru.