Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi dweud heddiw fod gwaith wedi dechrau ar greu arolygiaeth gynllunio neilltuedig newydd, ar wahân ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar hyn o bryd, yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ac argymhellion ynghylch amrediad o faterion sy'n gysylltiedig â chynllunio defnydd tir.

Asiantaeth weithredol yw hon sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol, ac sy'n atebol iddynt. 

Mae adran Gymreig yr Arolygiaeth yng Nghaerdydd yn rheoli achosion cynllunio, a cheisiadau ac apeliadau cysylltiedig, gan gynnwys Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Gan ddefnyddio tîm neilltuedig o arolygwyr a gweinyddwyr ar gyfer Cymru, mae'r adran hefyd yn archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol – sy'n nodi polisïau cynllunio defnydd tir ac sy’n sail i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio lleol.

Disgwylir y bydd yr arolygiaeth gynllunio newydd ar gyfer Cymru yn llawn weithredol erbyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad. Yn y cyfamser, i sicrhau ein bod yn trosglwyddo i'r gwasanaeth newydd yn ddidrafferth, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Cymru a Lloegr yn parhau i edrych ar geisiadau ar gyfer cynlluniau seilwaith ac apeliadau cynllunio.

Dywedodd Julie James:

“Mae cyfraith a pholisi cynllunio wedi gwahanu ac yn parhau i wahanu'n gyflym oddi wrth gyfraith a pholisi Lloegr, er mwyn diwallu anghenion unigryw cymunedau a busnesau Cymru. 

“Rydym wrthi hefyd yn crynhoi ac yn uno cyfraith gynllunio yng Nghymru i greu cod cynllunio ar wahân ar gyfer Cymru. 

“Am hynny, rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion i ddechrau gweithio ar wasanaeth neilltuedig, ar wahân ar gyfer Cymru.”