Mae gwaith wedi dechrau'r wythnos hon i ddarparu seilwaith ar gyfer safle gwaith 31,000 o fetrau sgwâr yn Rhondda Cynon Taf.
Caiff y gwaith o adeiladu ffyrdd a gwasanaethau allweddol ar gyfer y datblygiad yng Nghoed-elái yn Nhonyrefail ei ariannu gan fuddsoddiad gwerth £3.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd y contract i'r contractiwr peirianneg sifil, Walters UK, o Rondda ar ôl i ganiatâd cynllunio amlinellol gael ei roi ar gyfer y prosiect.
Nod y safle 75 erw hwn yw helpu i ddod â swyddi i'r safle ac i ysgogi datblygiad yn yr ardal. Mae sawl cwmni eisoes wedi dangos diddordeb mewn unedau diwydiannol mwy o faint yn yr ardal.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2020.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Wedi'i leoli yn ardal Tasglu'r Cymoedd, bydd y safle mawr hwn ar gyfer unedau busnes yn helpu i sicrhau newid economaidd hirdymor mewn rhanbarth sydd â digon o botensial.
"Drwy gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd yn darparu cyfleoedd am waith mewn cymunedau sydd wedi'u targedu drwy'r cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ac yn cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy ddatblygu cynaliadwy.