Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaith i baratoi safle yng Nghaerffili ar gyfer 200 o dai newydd a mwy na 6000 m sg o ofod busnes yn dechrau’r wythnos nesaf, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn rhoi caniatâd amlinellol i ddatblygiad aml-ddefnydd yn Nhŷ Du, yn Nelson, Caerffili, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r contract ar gyfer adeiladu’r ffyrdd a’r gwasanaethau allweddol.

Mae’r gwaith o baratoi’r safle, a fydd yn cael ei wneud gan y cwmni peirianneg sifil lleol, Walters UK, yn cael ei ariannu gan £4 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru gan gynnwys £2.5 miliwn o gronfeydd yr UE.  

Yn ôl yr amserlen, bydd yn gwaith yn dechrau ddydd Llun, 2 Gorffennaf ac yn gorffen ganol 2019.

Gan siarad ar ôl cyfarfod â Tasglu’r Cymoedd, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae sicrhau bod swyddi da yn cael eu creu yn un o flaenoriaethau’n cynllun gweithredu ar gyfer Cymoedd y De: Ein Cymoedd, Ein Dyfydol.

“Fodd bynnag, un o’r heriau wrth ddarparu swyddi da yw sicrhau bod lleoedd ar gael i fusnesau yn y lleoliadau iawn.  

“Gwyddom nad oes digon o safleoedd o ansawdd da ar gael ar hyn o bryd yn y Cymoedd y gellir eu datblygu ac sydd â chysylltiadau da â’r seilwaith lleol.

“Dw i’n hynod falch bod modd i Lywodraeth Cymru benodi contractwyr ar gyfer safle Tŷ Du. Byddant hwythau nawr yn gwneud y gwaith hanfodol o adeiladu’r ffyrdd a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddatblygu’r safle hwn gan ddarparu swyddi da yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn helpu i sicrhau y bydd y safle yn denu busnesau a phobl i brynu tai yno yn y dyfodol.”