Bydd gwaith yn dechrau ar brosiect gwerth £4miliwn i drawsnewid Canolfan Ddringo Rhyngwladol Cymru gynt yn Nhrelewis, i greu cyfleoedd gwaith newydd a denu mwy o ymwelwyr i'r ardal.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, sy’n cadeirio Tasglu'r Cymoedd y De, yn mynd i seremoni i ddathlu dechrau'r rhaglen ailddatblygu cyffrous yn swyddogol yng Nghanolfan Rock UK.
Mae'r prosiect wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd gwerth £2.3miliwn drwy brosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru a arweinir gan Croeso Cymru. Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys canolfan breswyl ac addysg awyr agored sy'n cynnwys 100 gwely ac a fydd yn denu ymwelwyr o'r DU a thramor.
Cyn y seremoni i ddathlu dechrau proses trawsnewid y Ganolfan, dywedodd Ken Skates:
"Bydd y cyllid yn trawsnewid y Ganolfan yn gyfleuster antur preswyl o'r radd flaenaf gan greu canolfan twristiaeth antur newydd yn ne-ddwyrain Cymru.
"Ein nod, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon.
"Mae'r farchnad antur awyr agored yng Nghymru yn tyfu'n gyflym ac yn gyson. Bydd y llety ychwanegol hwn o safon uchel o fantais fawr i'r rhanbarth. Mae Blwyddyn Antur 2016 Cymru yn dod i ben cyn hir, ond mae buddsoddiad yn y sector yn arwydd o fwy o dwf a datblygiad yn y maes twristiaeth antur. Nid yn unig y mae ymwelwyr yn dod i Gymru er mwyn gwerthfawrogi ein golygfeydd godidog a thirluniau gwych, maen nhw’n dod hefyd er mwyn cael antur a mwynhau ein safleoedd treftadaeth sy'n adrodd ein hanes.
“Rydym yn edrych ymlaen at y prosiect hwn fydd yn cyd-fynd â’r Flwyddyn Chwedlau yn 2017 pan fyddwn ni'n dod â'r gorffennol yn fwy byw nag erioed o'r blaen a dathlu chwedlau Cymreig newydd."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies,
"Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru ac yn dod â gwerth £5 biliwn y flwyddyn i’n heconomi. Mae treftadaeth ddiwydiannol y cymoedd wedi darparu adnodd cyfoethog i ymwelwyr o bob rhan o'r byd a bydd Canolfan Rock UK yn gyfle anhygoel i bobl fwy anturus.
"Un o nodau Tasglu Cymoedd y De yw sbarduno gweithgarwch economaidd a chreu swyddi yng nghymunedau'r cymoedd. Gall denu mewnfuddsoddiad gwych fel hwn ein helpu i gyrraedd ein nod."
Fel rhan o'r prosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth a ariennir gan yr UE, bydd yr ailddatblygiad yn trawsnewid yr ardal yn gyrchfan y mae'n rhaid i chi ymweld ag ef. Bydd y ganolfan newydd yn gweithredu fel canolfan weithgareddau yn yr ardal ac yn cynnwys y cyfleusterau beicio mynydd gwych yng Nghoedwig Gethin, a'r gweithgareddau sydd ar gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn ogystal â’r cyfleusterau preswyl bydd campfa newydd, ardal chwarae awyr agored, caffi, ystafelloedd cyfarfod a gweithgareddau awyr agored ychwanegol yng nghymunedau eraill de Cymru.
Bydd yr ailddatblygiad yn creu 35 o swyddi cyfwerth ag amser llawn gyda'r potensial i greu 55 o swyddi. Bydd hefyd yn cynnal swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd y tîm Rock UK, gan gynnwys y prif weithredwr John Heasman a chyfarwyddwr y ganolfan, Rachel Allen, yn rhannu'r cynlluniau ar gyfer yr hen lofa ddrifft.
Dywedodd Mr Heasman:
"Bydd cyhoeddiad heddiw yn datgan y cynlluniau i greu canolfan breswyl o safon uchel i bobl ifanc – a phobl hŷn -o bob rhan o'r DU i ymweld â hi. Y gymuned leol sydd wrth wraidd ein gweledigaeth a bydd y cyfleusterau newydd yn cydweddu â'r ganolfan ddringo dan do syfrdanol bresennol a bydd ar gael i bawb ei fwynhau, gan drawsnewid bywydau ifanc yng Nghymru.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr Tudful am ddatblygu'r prosiect rhanbarthol bwysig hwn hyd yn hyn. Yn ogystal â buddsoddiad ERDF, rhoddwyd arian drwy gonsortiwm o gronfeydd eraill gan gynnwys Cronfa Gymunedol Ffos y Frân a Rhaglen Pobl a Lleoedd y Gronfa Loteri Fawr."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi nifer o fuddsoddiadau twristiaeth sylweddol ar draws y cymoedd gan gynnwys y Parc Beicio a ariannwyd gan yr UE a Phrofiad y Royal Mint a agorwyd yn ddiweddar.