Mae gwaith ar gynllun mawr i amddiffyn yr A55 yn well yn erbyn llifogydd a gwella diogelwch wedi dechrau, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw.
Bydd y cynllun rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yn gwella diogelwch ar hyd darn 2.2km o’r ffordd, drwy dynnu mynediad uniongyrchol oddi ar yr A55, yn ogystal â chau wyth bwlch yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn galluogi cerbydau amaethyddol araf i groesi’r A55.
Bydd system ddraenio well yn atgyfnerthu gallu’r ffordd i wrthsefyll llifogydd. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith helaeth ar y draeniau yn 2017 – sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys pedwar cilometr o lwybrau teithio llesol i annog cerdded a beicio yn yr ardal.
Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud oddi ar y ffordd gerbydau. Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Medi – gyda mesurau Covid-19 llym ar waith.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae’n dda gen i fod y cynllun pwysig hwn i wella diogelwch ac i amddiffyn yr A55 yn well yn erbyn llifogydd bellach wedi dechrau. Yn ystod y gwaith adeiladu bydd y cynllun hefyd o fudd i’r economi leol, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion.
“Yn nawr yn fwy nag erioed mae angen inni fuddsoddi yn ein seilwaith ac adeiladau ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun £30 miliwn hwn yn ein helpu i wneud hynny.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths, Anthony Morgan:
“Rydyn ni wrth ein boddau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hanfodol hwn i wella gallu’r A55 i wrthsefyll llifogydd ac i wella diogelwch – gan wneud siwrneiau’n fwy diogel a dibynadwy ar gyfer defnyddwyr ffordd, a gwella mynediad ar gyfer y rheini sy’n byw yn gyfagos.”
Bydd y gwaith cychwynnol oddi ar yr A55 yn cael ei gwblhau, gan gynnwys adeiladu’r mynediad cyfunol 1.3km a’r llwybr teithio llesol. Bydd hyn wedyn yn cael ei ddefnyddio, ynghyd â system rheoli traffig dros dro ar yr A55 o fis Chwefror 2021, wrth i weddill y gwaith gael ei gwblhau. Fodd bynnag, bydd pedair lôn ar agor yn ystod y dydd, a disgwylir i’r gwaith adeiladau fod wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022.