Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn sefydlu grŵp cynghori arbenigol i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru o'r trafodaethau a gynhelir cyn hir ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys pobl fusnes, gwleidyddion ac arbenigwyr sydd â dealltwriaeth fanwl o'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y grŵp yn cynghori Llywodraeth Cymru ar yr effaith eang ar Gymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn cynghori ar sut y gall Cymru oresgyn heriau i sicrhau dyfodol ffyniannus a sicrhau bod y berthynas gadarnhaol gydag Ewrop yn parhau.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd yn cadeirio Is-bwyllgor o’r Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd o fis Medi ymlaen, wrth i'r gwaith trylwyr barhau rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i baratoi at y trafodaethau ynghylch yr UE.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Ers canlyniad refferendwm yr UE, rwyf wedi canolbwyntio yn y lle cyntaf ar amddiffyn ein heconomi a rhoi sicrwydd i gymuned fusnes Cymru. Felly, rydyn ni wedi amlinellu chwe mesur economaidd i roi sylw iddynt ar unwaith ac rydyn ni’n datblygu cynllun i godi hyder busnesau, gyda chymorth ar gyfer allforion o Gymru. Rydyn ni hefyd wedi creu cronfa newydd i roi hwb i gyflogaeth ac i ddenu mewnfuddsoddiadau.
"Rwyf wedi gofyn am ymrwymiad sicr na fydd Cymru'n colli ceiniog o arian yr UE sydd wedi'i gyllidebu i ni hyd at 2020. Rwyf hefyd wedi bod yn hollol glir fod parhau i gael mynediad di-dor at y Farchnad Sengl yn hanfodol.
"Mae trafodaethau manwl a ffurfiol rhwng ein swyddogion a Llywodraeth y DU wedi bod yn digwydd ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin, a bydd y cydweithio agos hwn yn dwysáu yn ystod yr wythnosau nesaf. Wedi i ni ddangos arweiniad drwy alw cyfarfod brys o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, mae gennyn ni ddealltwriaeth glir iawn o'r materion sy'n wynebu gweinyddiaethau datganoledig a byddwn ni’n dilyn pob llwybr sydd ar gael i ni er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru.
"Fy nghyfrifoldeb i yw llywio dyfodol Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd - ac rwy'n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cyfrifoldeb hwn. Byddaf yn cadw llygad barcud ar y ffordd y bydd gadael yr UE yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru. Bydd y grŵp cynghori yn ein helpu i ddeall y gwir effaith ar ein trefi, ein pentrefi, ein cymunedau ffermio, ein sefydliadau addysg, ein busnesau, ein trydydd sector a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Bydd cydweithio agos gyda phob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn rhoi'r llais cryfaf posibl i Gymru yn y trafodaethau sydd ar fin digwydd. Dyna pam rydyn ni'n cychwyn trafodaeth newydd gyda Phlaid Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, ochr yn ochr â pwyllgorau cyswllt eraill.
"Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, rydyn ni'n barod i dorchi ein llewys a llywio dyfodol Cymru mewn byd sy'n newid. Byddwn ni'n sicrhau bod ein buddiannau cenedlaethol wedi'u pennu'n glir a bod Cymru'n cael y canlyniad gorau sy'n bosibl."