Gwaith gan deulu byd-enwog o arlunwyr, archeolegwyr ac ysgrifenwyr, a hefyd rai o ddarnau gwaith gorau un o arlunwyr bywyd gwyllt mwyaf poblogaidd Prydain yw dau o’r casgliadau sy’n cael eu diogelu
Mae darluniau pensaernïol Colwyn Foulkes, o’r enw Adeiladau Anghofiedig, yn ymuno ag archifau Collingwood a Charles Tunnicliffe ac mae’n cynnwys darluniau o fanciau, elusennau, cartrefi plant a sinemâu. Byddant yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd, Oriel Môn a chan Gwasanaeth Archifau Conwy.
Rhoddwyd bron £35,000 i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu eitemau na all y cyhoedd eu gweld ar hyn o bryd gan eu bod yn rhy fregus, ac i sicrhau y byddant ar gael i fyfyrwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Dywedodd Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:
“Ers 2008, mae’r bartneriaeth hon wedi sicrhau bod casgliadau anghofiedig, ond gwirioneddol anhygoel, ar gael rŵan i bawb eu gweld. Ac unwaith eto eleni rydym wedi diogelu gwaith rhai o unigolion a grwpiau mwyaf gwerthfawr Prydain.
“Rwy’n ddiolchgar i ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol am eu cefnogaeth barhaus i brosiectau cadwraeth yng Nghymru, a dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i ddiogelu trysorau hanesyddol a diwydiannol fel y rheiny."
Ar ôl sicrhau eu bod mewn cyflwr sefydlog, bydd modd eu hastudio, eu trin, a gwneud copïau digidol ohonynt er mwyn inni i gyd eu gweld ar-lein.
Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:
“Rydyn ni wrth ein bodd o allu diogelu tri chasgliad pwysig, gwahanol iawn, diolch i’n partneriaeth lwyddiannus, barhaus ag Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru."