Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o ran sicrhau bod y rhai a gyflogir yn y sector manwerthu yn cael eu talu a'u trin yn deg ac yn briodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth nodi'r cynnydd a welwyd yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Gweithredu Manwerthu Llywodraeth Cymru, amlinellodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol y camau sy'n cael eu cymryd, o alluogi gweithredu cyflog byw go iawn yn ehangach i gymorth ariannol parhaus gyda biliau ardrethi annomestig a diogelu at y dyfodol. Ymrwymodd hefyd i weithio gyda chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â'r cam-drin corfforol a llafar sy'n parhau'n rhy gyffredin yn y sector.

Dywedodd y Gweinidog Partneriaethau Cymdeithasol, Sarah Murphy:

"Y sector manwerthu yw un o gyflogwyr mwyaf y sector preifat yng Nghymru, gan gynnig gyrfaoedd amrywiol a gwerth chweil. Dyma pam rydym wedi canolbwyntio ar elfennau "pobl" ein Cynllun Gweithredu Manwerthu dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol sgiliau, pobl ifanc ac economi bob dydd y Genhadaeth Economaidd.

"Mae bargen well i weithwyr yn un o'r allweddi i ddatgloi'r drws i ddyfodol cryfach, gwell, tecach a mwy cynaliadwy i'r sector manwerthu. Mae ein hegwyddorion Gwaith Teg yn ganolog i hyn a byddant yn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n wynebu'r sector.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cyflogau cyfartalog ar draws y sector manwerthu yn gwella o gymharu â chyfartaledd Cymru, sy'n dda i'w glywed, er ein bod yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod gan y rhai sy'n gweithio yn y sector manwerthu fynediad at waith teg, a diogel."

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol i ddarparu y bumed blwyddyn yn olynol o gymorth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig, gan adeiladu ar bron £1 biliwn o gymorth a ddarperir drwy ei chynlluniau rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020-21.

Mae hefyd wedi sicrhau bod £20 miliwn ychwanegol ar gael drwy ei Chronfa Diogelu'r Dyfodol, a fydd yn helpu hyd at 2,500 o fusnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwelliannau i'w hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau biliau ynni.