Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd gwaith ychwanegol yn cael ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu achos dros fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y gwaith ategol hwn, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ei gynnig yn dilyn cyhoeddi'r Achos Dros Fuddsoddi gan yr Athro Mark Barry. Nododd weledigaeth ac amcanion ar gyfer gwella Prif Reilffordd y Gogledd a rheilffordd Wrecsam-Glannau Mersi ar ôl trafod yn helaeth gyda rhanddeiliaid.

Byddai'r gwelliannau yn ehangu mynediad i gyflogaeth ar draws Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Lerpwl drwy wella gwasanaethau a chysylltiadau rheilffyrdd rhwng y Gogledd a meysydd awyr Manceinion a Lerpwl.

Yn ystod y cam nesaf, bydd angen gwneud rhagor o waith datblygu, a mireinio ac asesu'r pecynnau a nodwyd yn yr Achos Dros Fuddsoddi megis moderneiddio Prif Reilffordd y Gogledd o Gaergybi i Crewe gan gynnwys gwella cyflymder trenau, integreiddio â HS2 yn Crewe, darparu mwy o drenau, gwasanaethau parcio a theithio a bysys mewn sawl gorsaf ar hyd rheilffordd Wrecsam-Glannau Mersi.

Bydd hyn yn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am ariannu a chyflenwi'r gwelliannau i'r rheilffyrdd yng Nghymru, i sicrhau gwelliannau ledled Cymru ar ôl canslo'r rhaglen drydaneiddio yn Abertawe.

Dywedodd Ken Skates:

"Rhaid i'r gwaith o ddatblygu a chyflenwi rhaglen uchelgeisiol a theg a fydd yn gwella seilwaith y rheilffyrdd yn y Gogledd gael ei wneud heb unrhyw oedi ac rwyf eisoes wedi pwysleisio hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig arall yn y cyfeiriad cywir ac yn enghraifft dda o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Wrth ddatblygu ymhellach yr achosion dros wella'r rheilffyrdd yn y Gogledd, byddwn yn nodi gofynion, amserlenni, cwmpas a chostau ar gyfer achosion busnes amlinellol yn y dyfodol ac rwy'n falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r cam hwn o'r gwaith.

"Mae sicrhau cysylltiad rhwng y Gogledd a chanolfannau economaidd ar draws y ffin yn fwyfwy pwysig a bydd hynny'n bwysicach nag erioed ar ôl Brexit.

"Mae lleihau amserau teithio, sicrhau gwell mynediad i feysydd awyr a gwella cadernid y rhwydwaith rheilffyrdd yn y Gogledd i ateb y galw yn y dyfodol ymhlith yr ychydig faterion a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y cam nesaf o'r gwaith.

"Rydym yn benderfynol o weld gwahaniaeth go iawn yn ein seilwaith er lles teithwyr. Rwy'n pwyso ar Lywodraeth y DU i ddeall ein dyheadau."