Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir a’r cyd-destun

Cyflwyniad

Mae gwaith ieuenctid yn elfen allweddol o’r system addysg yng Nghymru, a gyflenwir gan ystod eang o sefydliadau. Fel gwasanaeth craidd i bobl ifanc, mae gwaith ieuenctid yn rhan o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, ond mae’n defnyddio dull addysgol neilltuol sy'n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc fel partneriaid cyfartal yn eu datblygiad eu hunain.

Mae'r canllawiau statudol hyn yn amlinellu sut y mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, gan weithio gyda sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid statudol eraill ('partneriaid'), gynllunio a darparu gwasanaeth gwaith ieuenctid neilltuol fel rhan o'r gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach y mae'n eu darparu i bobl ifanc.

Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â Chyfarwyddydau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2025 ('y Cyfarwyddydau'). O fewn y ddogfen ganllaw, mae'r defnydd o'r term 'rhaid' yn dynodi rhwymedigaeth, fel y'i nodir yn y Cyfarwyddydau. Mae'r term 'dylai' yn nodi bod rhaid dilyn y canllawiau oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Mae'r Cyfarwyddydau yn amlinellu fframwaith ar gyfer cynllunio, cyflenwi a monitro gwaith ieuenctid ar lefel leol ledled Cymru. Mae'r fframwaith statudol, sy'n defnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau, yn canolbwyntio ar y gofyniad i awdurdod lleol lunio cynllun strategol gwaith ieuenctid ('y cynllun strategol') bob pum mlynedd. Rhaid i bob cynllun strategol amlinellu amcanion yr awdurdod lleol ar gyfer gwaith ieuenctid, a fydd yn sail i'r adroddiad blynyddol ar gynnydd. Bydd trefniadau arolygu ac asesu ansawdd hefyd yn rhoi cryn sylw i'r cynlluniau strategol. 

Mae'r Cyfarwyddydau hefyd yn amlinellu hawlogaeth gwaith ieuenctid newydd i bobl ifanc. Mae hyn yn sefydlu'r egwyddor bod gan bobl ifanc hawlogaeth i waith ieuenctid a ffurfir drwy ymgysylltu â nhw, gyda'r nod o gyflwyno, diogelu a chryfhau gweithgareddau sy'n hygyrch, sy'n ymateb i'w hanghenion a'u dymuniadau, sy'n darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu'n gyfannol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac sydd ar gael ar draws ystod o leoliadau. 

Y dehongliad o'r hawlogaeth gwaith ieuenctid hon ar lefel awdurdod lleol yw'r cynnig gwaith ieuenctid lleol. Ni all awdurdodau lleol ar eu pennau eu hunain gyflenwi cynnig gwaith ieuenctid lleol cyfoethog ac amrywiol, felly mae trefniant amlasiantaethol cydweithredol yn hanfodol i gyflawni hyn.

Y gynulleidfa

Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau hyn. Rhaid i awdurdod lleol hefyd sicrhau bod partneriaid sy'n gweithredu ar ei ran wrth ddarparu gwasanaethau yn rhoi sylw i'r canllawiau hyn. Bydd y canllawiau o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys pobl ifanc 11 i 25 oed, sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a rhanddeiliaid ehangach sy'n gweithio i wella canlyniadau i bobl ifanc.

Ein gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Fel y'i nodir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn wlad lle:

  • mae pobl ifanc yn ffynnu
  • mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol
  • mae'r rheini sy'n cyflenwi gwaith ieuenctid yn cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer 
  • mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall
  • mae model cynaliadwy ar gyfer cyflenwi gwaith ieuenctid.

Nod cyflwyno'r Cyfarwyddydau newydd a'r canllawiau cysylltiedig hyn yw helpu i gyflawni'r weledigaeth hon drwy amlinellu trefniadau cynllunio, cyflenwi ac atebolrwydd gorfodol ar gyfer darparu gwaith ieuenctid.

Beth yw gwaith ieuenctid

Nododd adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yr angen am ddiffiniad cliriach o ystyr gwasanaethau gwaith ieuenctid o ansawdd da, ac i'r diffiniad hwnnw gael ei berchnogi a'i gymhwyso'n gyson ar draws y sector. Yn yr un modd, daeth adroddiad Estyn, 'Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru: Gwerth Gwaith Ieuenctid' i'r casgliad bod

diffyg eglurder ymhlith darparwyr gwasanaeth a llunwyr polisi ynglŷn â’r derminoleg a ddefnyddir wrth drafod gwasanaethau i gynorthwyo pobl ifanc. Mae’r term ‘gwaith ieuenctid’ yn cael ei ddrysu’n aml â ‘gwaith gyda phobl ifanc’.

Mae'r Cyfarwyddydau, am y tro cyntaf o fewn fframwaith deddfwriaethol Cymreig, yn diffinio gwaith ieuenctid fel:

gwasanaethau a ddarperir o fewn y gwasanaeth cymorth ieuenctid gan ddefnyddio dull addysgol neilltuol sy’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc, ac sy’n cael ei gyflenwi gan bersonau sy’n meddu ar gymhwyster gweithiwr ieuenctid neu gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid. 

Wrth wneud hynny, mae'r diffiniad hwn yn gosod gwaith ieuenctid fel elfen allweddol o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, ond yn y bôn mae'n sicrhau bod ei natur neilltuol yn cael ei ddeall a'i ddiogelu'n well.

Mae manylion cymwysterau cydnabyddedig gweithwyr ieuenctid neu weithwyr cymorth ieuenctid wedi eu hamlinellu yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.

Y cyd-destun deddfwriaethol

Mae'r Cyfarwyddydau, a'r canllawiau hyn, wedi eu gwneud gan ddefnyddio'r pwerau yn adran 123(1), (2), (4)(b) ac (c) a (5)(c) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n amlinellu'r ddarpariaeth a'r cymorth i bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru.

Cryfhau'r broses o gynllunio a chyflenwi gwaith ieuenctid

Dull partneriaeth

Mae dull cydweithredol yn rhan annatod o lwyddiant y fframwaith statudol hwn ac o gyflenwi gwaith ieuenctid yn fwy cyffredinol. Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog arweiniol dynodedig sydd mewn swydd ddigon uchel ac a chanddo brofiad digonol i gydlynu'r gwaith o ymgysylltu yn brydlon a pharhaus ag awdurdodau lleol eraill, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid statudol. Mae partneriaid statudol yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau fel byrddau iechyd lleol a heddluoedd.

Rhaid i bob awdurdod lleol nodi yn ei gynllun strategol sut y bydd yn gweithio gyda'r partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol hyn i gynllunio a chyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid. Dylai'r partneriaid hyn gynnwys sefydliadau arbenigol sy'n cefnogi grwpiau a chymunedau a ymyleiddiwyd neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd trefniadau arolygu ac asesu ansawdd yn rhoi cryn sylw i gwestiwn cydweithio effeithiol rhwng partneriaid.

Rhaid i awdurdod lleol ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r awdurdod lleol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid statudol i ddatblygu'r cynllun strategol yn ogystal â chydgysylltu a monitro'r gwaith o'i gyflenwi. Yn ei waith gyda’r sector gwirfoddol, dylai awdurdod lleol roi sylw dyledus i Gynllun y Trydydd Sector a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn benodol.

Efallai fod partneriaethau a rhwydweithiau amlasiantaethol sefydledig eisoes yn bodoli mewn llawer o awdurdodau lleol, gan alluogi partneriaid i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth, ymateb i anghenion sy'n dod i'r amlwg, nodi cyfleoedd i ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol a sicrhau bod pobl ifanc yn cael budd o wasanaethau cydgysylltiedig. Pan nad oes strwythurau sy'n bodoli eisoes, rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu trefniant addas i gyflawni'r gofyniad hwn.

Egwyddorion allweddol i feithrin a chefnogi partneriaethau effeithiol

Gwneud y defnydd gorau o'r wybodaeth sydd ar gael er mwyn cael darlun clir o'r ddarpariaeth bresennol ymhlith yr holl ddarparwyr, a chydweithio i greu map neu broffil cymunedol o ddarpariaeth gwaith ieuenctid ar lefel leol.

Gwahodd grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau ehangach sy'n weithgar yn yr ardal leol i ddarparu syniadau ar gyfer cydweithio, rhannu materion sy’n codi a rhwystrau, a thrafod cyfleoedd i alluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn unrhyw fentrau.

Darparu cyfleoedd i gynrychiolwyr cyflogwyr, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch drafod materion sy'n codi megis cymorth pontio i blant a phobl ifanc drwy gydol eu haddysg a thu hwnt.

Cyfranogiad pobl ifanc

Fel y'i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad a chynhwysiant plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Felly, rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod llwybrau clir ar waith i helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir ynghylch y broses o gynllunio a chyflenwi'r cynnig gwaith ieuenctid yn eu hardal, ac i gael eu cynnwys ynddynt. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol godi ymwybyddiaeth o'r llwybrau hyn fel y gall pobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn unol â'u hawliau.

Dylai awdurdod lleol wneud pob ymdrech i gyrraedd ystod mor eang â phosibl o bobl ifanc, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymgysylltu â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Dylid ymgysylltu'n aml mewn ffordd effeithlon ac ystyrlon, gan sicrhau bod pobl ifanc, waeth beth fo'u cefndir, eu gallu neu unrhyw amgylchiadau personol, yn cael eu clywed mewn amgylchedd hygyrch, gan ganolbwyntio'n benodol ar grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gall y modelau cyfranogi posibl amrywio'n sylweddol, ond dylai awdurdodau lleol sicrhau bod Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc yn sail i'r strwythurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fodloni'r gofyniad hwn. 

Mae sicrhau cyfranogiad effeithiol a dylanwadol gan bobl ifanc yn gofyn am amser ac adnoddau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob person ifanc sy'n rhan o strwythurau cyfranogi yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus. Bydd effeithiolrwydd strwythurau cyfranogi'r awdurdod lleol yn cael ei werthuso fel rhan o drefniadau arolygu ac asesu ansawdd ehangach.

Llunio'r cynllun strategol

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol lunio cynllun strategol pum mlynedd. Prif ddiben y cynllun strategol yw amlinellu amcanion ar gyfer y cyfnod hwnnw, gan gynnwys:

  • yr hyn y bydd yr awdurdod lleol yn ei gynnig sy'n seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc yn dweud bod arnynt ei angen neu ei eisiau yn eu hardal
  • sut y bydd unrhyw anghydraddoldebau mewn perthynas â darpariaeth gwaith ieuenctid bresennol yn cael sylw
  • nodi camau y gall fod angen eu cymryd o fewn cyfnod y cynllun i fynd i'r afael â galwadau yn y dyfodol

Dylai awdurdodau lleol gyfeirio at Y Ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yng Nghymru am fanylion pum egwyddor a ddylai fod yn sail i ddatblygu, cyflenwi a monitro'r cynllun strategol.

I gydnabod rôl gwaith ieuenctid fel gwasanaeth ataliol, ehangder y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i bob person ifanc, a'i gysylltiadau eang â meysydd polisi eraill, rhaid strwythuro amcanion y cynllun strategol i gyd-fynd â'r saith nod llesiant ar gyfer Cymru fel y'u hamlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi ein huchelgeisiau ar gyfer:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau mwy cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu 
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhaid i'r cynllun strategol amlinellu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer pob amcan. Dylai'r amcanion gael eu llywio gan anghenion pobl ifanc yn hytrach na'r ffynhonnell cyllid neu'r lleoliad.

Rhaid i'r cynllun strategol hefyd gynnwys crynodeb o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod y gwaith o ddatblygu'r cynllun, a chrynodeb o'r ymatebion a gafwyd. Rhaid iddo hefyd amlinellu sut y bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni ei amcanion. 

Bydd y cyfnod rhwng mis Ebrill 2025 a mis Ebrill 2026 yn flwyddyn bontio. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn rhagweld y bydd awdurdod lleol yn sefydlu strwythurau a phrosesau i'w alluogi i fodloni'r gofynion a amlinellir yn y fframwaith statudol hwn.

Mae'r llinell amser fras ar gyfer y cynlluniau strategol cyntaf fel a ganlyn:

Ebrill 2025: pob awdurdod lleol i ddechrau datblygu ei gynllun strategol.

Medi 2025: cyflwyno cynlluniau strategol drafft i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo.

Rhagfyr 2025: Llywodraeth Cymru i ddarparu adborth ar y cynllun strategol i'r awdurdod lleol. Os bydd angen, gwahoddir yr awdurdod lleol i ddiwygio ei gynllun strategol. 

Ebrill 2026: Y cynllun strategol cyntaf yn dechrau.

Mawrth 2031: Y cynllun strategol cyntaf yn dod i ben.

Asesu anghenion pobl ifanc

Rhaid i waith ieuenctid gael ei lywio gan yr hyn y mae pobl ifanc ei angen a'i eisiau, a chael ei deilwra yn unol â hynny. Fel y'i hamlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, bydd gwireddu hyn yn ddibynnol ar bartneriaethau ystyrlon gyda phobl ifanc. Dylai hyn gynnwys ystod amrywiol o leisiau, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymgysylltu â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. 

Dylai pob awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid statudol a sefydliadau gwirfoddol i ddadansoddi'r dystiolaeth sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â chasglu tystiolaeth ychwanegol, i helpu i lywio'r ddarpariaeth. 

Ni ddylid cynnal yr asesiad hwn o anghenion heb ystyried tystiolaeth o gynlluniau eraill, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:

Dylai awdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid, ystyried dull cyfannol o gasglu a rhannu data a gwybodaeth, pan fo hynny'n gyfreithlon ac yn briodol. Anogir partneriaid i ddefnyddio eu rhwydweithiau a’u gwybodaeth fel sefydliadau i sicrhau asesiad cyfoethog o anghenion. Bydd hyn yn sicrhau dull cydgysylltiedig i bartneriaid er mwyn cefnogi pobl ifanc yn well yn eu cymunedau, a nodi lle gall camau cynnar atal yr angen am gymorth dwysach yn ddiweddarach.

Wrth asesu anghenion pobl ifanc, dylai awdurdod lleol nodi ystod y ddarpariaeth a'r cyfleusterau sydd ar gael i bobl ifanc, a sut y gellir goresgyn rhwystrau y gallant ddod ar eu traws i sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Atgoffir awdurdodau lleol o'u cyfrifoldebau a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Gosod amcanion ar gyfer y Cynllun Strategol

Dylai amcanion y cynllun strategol fod yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn y mae pobl ifanc ei angen a'i eisiau. Dylai pob awdurdod lleol, gan weithio gyda'i bartneriaid, benderfynu pa ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddir i lywio'r broses o bennu amcanion, a sut yr eir i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth er mwyn darparu persbectif cyfoethog o'r anghenion a'r dymuniadau hyn. 

Dylai'r dystiolaeth bosibl gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:

  • tystiolaeth a gasglwyd gan gynghorau ieuenctid, fforymau neu grwpiau eraill awdurdodau lleol
  • tystiolaeth a gasglwyd gan gynghorau ieuenctid, fforymau neu grwpiau eraill sefydliadau gwirfoddol
  • arolygon o bobl ifanc, gan gasglu gwybodaeth ansoddol a meintiol
  • ymchwil academaidd
  • data ar boblogaeth a mudo, cynhwysiant a diogelwch cymunedol, addysg a sgiliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, tlodi a phrofiad o dlodi, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, llesiant, llesiant diwylliannol, a'r Gymraeg
  • data ar gyfranogiad diwylliannol, artistig a chwaraeon 
  • ystadegau heddlu a throseddu
  • data iechyd y cyhoedd
  • data economaidd-gymdeithasol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu pum ffordd o weithio. Dylid cymhwyso ei hegwyddor datblygu cynaliadwy: meddwl am y tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys, wrth bennu amcanion ar gyfer y cynllun strategol.

Cwestiynau allweddol i'w hystyried wrth osod amcanion:

  • A oes tystiolaeth o fwy o alw am fathau penodol o ddarpariaeth?
  • Sut y gellir lleihau'r rhwystrau presennol i gael gafael ar ddarpariaeth?
  • A yw'r holl opsiynau ar gyfer cyflenwi a hwyluso darpariaeth, gan gynnwys llwybrau digidol, yn cael eu defnyddio'n llawn, a ble fyddai'r dulliau hyn fwyaf effeithiol?
  • Sut y mae angen i'r gweithlu gael ei gefnogi a'i ddatblygu? A pha sgiliau a gwybodaeth arbenigol sydd eu hangen ar ymarferwyr?
  • A oes digon o gyfleusterau ac adnoddau yn eu lle i ddiwallu anghenion pobl ifanc?
  • A all canolbwyntio'n fwy ar gyfleoedd yn hytrach na phroblemau helpu i ddatblygu amcanion mwy effeithiol?
  • Sut y gellir sicrhau cynaliadwyedd y ddarpariaeth?

Gweithio'n rhanbarthol

Rhaid i'r cynllun strategol amlinellu sut y bydd awdurdod lleol a'i bartneriaid yn cydweithio i ddatblygu darpariaeth ar gyfer cymunedau o ddiddordeb sydd y tu hwnt i ffiniau awdurdod lleol, er mwyn sicrhau arbedion maint wrth ddarparu gwasanaethau neu i rannu arferion arloesol. Gellid cydweithio ag awdurdodau lleol cyfagos neu â phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol eraill.

Cymeradwyo'r cynllun strategol

Dylai awdurdod lleol roi trefniadau effeithiol ar waith i ymgynghori â phartneriaid lleol a phobl ifanc ynghylch cynnwys y cynllun strategol. Rhaid i'r cynllun strategol hefyd gael ei gyflwyno i bwyllgor trosolwg a chraffu'r awdurdod lleol er mwyn cyd-fynd â threfniadau atebolrwydd ehangach.

Rhaid i'r cynllun strategol gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Gellir cymeradwyo cynllun strategol fel y'i cyflwynwyd, ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gael ei addasu, ei gymeradwyo gydag addasiadau, neu ei wrthod.

Rhaid i'r cynllun strategol cymeradwy gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol. Dylai'r awdurdod lleol hefyd ystyried sut i gyfathrebu â phobl ifanc ynghylch y cynllun strategol mewn ffordd effeithiol i'w cefnogi i gyfranogi ac er mwyn eu grymuso i ddwyn partneriaid i gyfrif wrth gyflenwi gwasanaethau gwaith ieuenctid yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Gellir diwygio cynllun strategol o ganlyniad i angen a nodir, a all gynnwys mater sy'n dod i'r amlwg yn sgil tuedd neu ddigwyddiad pwysig sy'n effeithio ar bobl ifanc. Dylai awdurdod lleol drafod yr angen i ddiwygio ei gynllun strategol gyda Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl.

Adrodd ar gynnydd a gwerthuso

Rhaid i awdurdod lleol roi trefniadau ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y cynllun strategol. Rhaid i hyn gynnwys ymgynghori â phobl ifanc ynghylch i ba raddau y maent yn ystyried bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei amcanion. 

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi adroddiad cynnydd o leiaf unwaith bob blwyddyn ariannol i rannu canlyniadau'r asesiad hwn o gynnydd.

Yn ogystal â'r gofynion adrodd hyn, dylai awdurdodau lleol hefyd weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli i werthuso eu cynnig gwaith ieuenctid yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod prosesau arolygu ac asesu ansawdd.

Egwyddorion allweddol ar gyfer gwerthuso'r cynnig gwaith ieuenctid

Dylai awdurdod lleola'i bartneriaid ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis holiaduron, grwpiau ffocws, canfyddiadau data, dyddiaduron fideo a chyfweliadau i ganfod a yw'r cynnig gwaith ieuenctid yn gweithio i bobl ifanc ac i ddeall ei effaith yn well.

Dylai partneriaid anelu at gefnogi'r awdurdod lleol i adolygu'r trefniadau gwerthuso presennol i nodi meysydd sy'n bwysig i bobl ifanc ac a all fod yn effeithio arnynt yn gadarnhaol ac yn negyddol. Gallai hyn gynnwys effeithiolrwydd strwythurau cyfranogi, amrywiaeth o weithgareddau ac ymwybyddiaeth o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc.

Mae ymarfer myfyriol yn hanfodol i helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i werthuso ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid. Gallai hyn gynnwys cyfleoedd i ymweld â sefydliadau, gwasanaethau a lleoliadau eraill, neu eu cysgodi, er mwyn helpu i gyfoethogi arferion a llywio prosesau gwerthuso i'r dyfodol.

Hawlogaeth gwaith ieuenctid a'r cynnig gwaith ieuenctid

Hawlogaeth gwaith ieuenctid

Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu gwaith ieuenctid i'w bobl ifanc yn unol â'r hawlogaeth gwaith ieuenctid. Ystyr hawlogaeth gwaith ieuenctid yw gwaith ieuenctid:

  • a ddatblygir drwy ymgysylltu â phobl ifanc 
  • sy'n seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc yn dweud bod arnynt ei angen neu ei eisiau, ac sydd â'r nod o gyflwyno, diogelu a chryfhau gweithgareddau a gyflenwir yn Gymraeg a Saesneg 
  • sy'n darparu cyfleoedd ar draws ystod eang o leoliadau addysgol a chymunedol, a all gynnwys darpariaeth ddigidol 
  • sy'n hwyluso cyfleoedd cyffredinol a chyfleoedd sydd wedi eu targedu, fel y gall pobl ifanc wella eu llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol mewn ystod o weithgareddau 
  • sy'n cael ei gyflenwi mewn ffyrdd sy'n ei gwneud yn hawdd i bobl ifanc eu cyrchu, yn unigol neu gyda'u cyfoedion

Wrth gyflawni'r gofyniad i ddarparu gwaith ieuenctid, dylai'r awdurdodau lleol ystyried arferion gorau o ran galluogi pobl ifanc i arfer eu hawliau. Mae Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Dynol Plant o Ymdrin ag Addysg yng Nghymru yn amlinellu dull o helpu lleoliadau addysg i ddatblygu dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau dynol plant. Dylai fod gan bob awdurdod lleol drefniadau clir ar waith i ddangos sut mae'n galluogi pobl ifanc i arfer eu hawliau.

Y cynnig gwaith ieuenctid

Y cynnig gwaith ieuenctid yw'r ffordd y mae awdurdod lleol yn trosi'r hawlogaeth gwaith ieuenctid yn gamau gweithredu o fewn ei ardal. Bydd y cynnig gwaith ieuenctid hwn yn amrywio o un ardal i'r llall, yn dibynnu ar ei nodweddion a'i phoblogaeth, a bydd hefyd yn amrywio dros amser mewn ymateb i newidiadau o ran anghenion a diddordebau pobl ifanc.

Fel y'i nodir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae gwaith ieuenctid yn darparu cyfleoedd dysgu sy'n addysgiadol, yn fynegiannol, yn gyfranogol ac yn grymuso. Wrth ffurfio ei gynnig gwaith ieuenctid, dylai awdurdod lleol ganolbwyntio ar greu cyfleoedd a llwybrau cadarnhaol i bobl ifanc wrth iddynt ddod yn oedolion. Nod hyn yw symud oddi wrth ganfyddiad o waith ieuenctid fel gwasanaeth sy'n datrys problemau ar ôl iddynt ddigwydd, a thuag at ganolbwyntio ar greu mannau diogel lle gellir cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial. 

Yn yr un modd â datblygu'r cynllun strategol, bydd cydweithio yn hanfodol wrth gyflenwi'r cynnig gwaith ieuenctid. Rhaid i awdurdod lleol weithio'n agos gyda sefydliadau gwirfoddol, partneriaid statudol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl ifanc i gyflawni hyn. Anogir awdurdodau lleol a'u partneriaid i wneud y mwyaf o adnoddau a chydberthnasau sy'n bodoli eisoes, nodi cyfleoedd i atgyfnerthu gwaith partneriaeth, a datblygu dulliau arloesol, gyda'r nod o ddarparu cynnig gwaith ieuenctid effeithiol ar gyfer eu pobl ifanc.

Y gweithlu

Mae cyflenwi cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol yn dibynnu ar gyfraniad ystod eang o ymarferwyr.

Mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig wrth wraidd y gweithlu. Rhaid i weithwyr ieuenctid cymwysedig neu'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster gweithiwr ieuenctid, a delir i ymgymryd â'u rôl, gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Yn yr un modd, rhaid i weithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig neu'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid, a delir i ymgymryd â'u rôl, hefyd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. 

Bydd gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio'n agos gyda gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig i gyflenwi gwasanaethau cymorth ieuenctid. 

Bydd gwireddu'r cynnig gwaith ieuenctid yn cael ei gefnogi gan gymuned eang o weithwyr proffesiynol perthynol ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig a delir.

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan ganolog yn y sector gwaith ieuenctid, a byddant yn cyfrannu at sut mae'r cynnig gwaith ieuenctid yn cael ei lywio a'i wireddu.

Dylai awdurdod lleol, gan weithio gyda'i bartneriaid, ystyried yr anghenion ehangach o ran datblygu'r gweithlu wrth bennu amcanion ei gynllun strategol. Dylai hyn gynnwys datblygu'r gweithlu yn barhaus. Dylai awdurdod lleol hefyd weithio gyda phartneriaid i ddatblygu capasiti'r gweithlu a'r sgiliau sydd eu hangen i ymateb i'r gofynion ar y gwasanaeth gwaith ieuenctid i'r dyfodol. Dylai hyn gynnwys canolbwyntio ar sgiliau arbenigol, y gallu a'r hyder i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, a sgiliau arwain a rheoli. Dylai hefyd ystyried yr angen i sicrhau bod y gweithlu yn cael ei hysbysu’n briodol am brofiadau bywyd pobl ifanc.

Diogelu

Fel y nodir yn Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu, mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r rhai sy'n cyflenwi gwaith ieuenctid ddilyn y cyngor a amlinellir yn y Cod, a sicrhau bod gan y gweithlu y sgiliau a'r wybodaeth briodol i gadw pobl ifanc a'r gweithlu ei hun yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwiriadau priodol a chyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael eu cynnal.

Y Gymraeg a gwaith ieuenctid

Un o brif amcanion Cymraeg 2050, strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yw sicrhau bod llai o bobl ifanc yn colli eu sgiliau Cymraeg wrth symud ymlaen o addysg statudol, a bod mwy ohonynt yn cyrraedd eu hugeiniau canol â meistrolaeth ar yr iaith.

Mae ystod yr oedrannau a gefnogir gan waith ieuenctid, ac ehangder y cyfleoedd a'r profiadau y mae'n eu cynnig, yn golygu bod ganddo rôl hanfodol i'w chwarae o ran galluogi pob person ifanc, beth bynnag fo'i allu neu ei gefndir o safbwynt y Gymraeg, i ddefnyddio ei Gymraeg gyda'i gyfoedion yn y gymuned ac ar-lein, gan feithrin hyder pobl ifanc i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg. Mae'r Gymraeg hefyd yn hanfodol i ddatblygu llais, dylanwad a lle person ifanc mewn cymdeithas a'i helpu i gyflawni ei botensial.

Mae cefnogi ac ehangu cymuned o ymarferwyr sy'n hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg fel rhan o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn elfen allweddol o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, a dylai awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid i ymgorffori hyn yn amcanion y cynllun strategol. 

Wrth ddatblygu ei gynnig gwaith ieuenctid, dylai awdurdod lleol ystyried proffil ieithyddol y boblogaeth yn ogystal ag anghenion a diddordebau pobl ifanc mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Dylai hefyd ystyried creu cyfleoedd newydd i'r rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn ymgysylltu â gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fel ffordd o annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio a mwynhau'r iaith a'i harlwy diwylliannol.

Dylid archwilio cyfleoedd i alinio amcanion y cynllun strategol â'r rhai mewn cynlluniau perthnasol eraill, er enghraifft Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol (Deilliant 5).

Gwaith ieuenctid digidol

Mae'r defnydd o dechnoleg ddigidol yn ganolog i'r ffordd y mae pobl ifanc yn byw eu bywydau, a gall ddarparu cymuned ychwanegol i bobl ifanc gysylltu â'u cyfoedion. O fewn gwaith ieuenctid, gallai hyn gynnwys:

  • helpu pobl ifanc i ddeall sut i lywio eu bywydau ar-lein mewn ffordd ddiogel sy'n dangos parch
  • defnyddio technoleg i gysylltu pobl ifanc â'u cyfoedion a chreu cynnwys 
  • defnyddio technoleg i alluogi pobl ifanc i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas
  • darparu gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi i bobl ifanc 
  • helpu pobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr, cyfnewid gwybodaeth o'r fath, a meddwl yn feirniadol am gynnwys ar-lein 
  • prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau digidol.

Dylai awdurdod lleol ystyried sut y gall technoleg ddigidol gyfoethogi ei gynnig gwaith ieuenctid, gan ystyried ar yr un pryd unrhyw annhegwch o ran mynediad digidol a sut y gellir lleihau rhwystrau o'r fath. 

Dylai awdurdod lleol ystyried sut y gall weithio gyda phartneriaid i gefnogi a datblygu sgiliau a chapasiti'r gweithlu i gyflenwi darpariaeth effeithiol sy'n gwneud defnydd llawn o'r cyfleoedd a gynigir gan dechnoleg.

Gwaith ieuenctid rhyngwladol

Mae gwaith ieuenctid yn darparu llwyfan unigryw i bobl ifanc fyfyrio ar brofiadau personol, deall safbwyntiau pobl eraill yn well ac archwilio'r hyn sy'n eu huno nhw a'u cyfoedion. Mae'r profiadau a gynigir gan waith ieuenctid rhyngwladol yn arbennig o werthfawr wrth ddatblygu hunanhyder ac annibyniaeth pobl ifanc, a sefydlu cysylltiadau a rhwydweithiau â phobl ifanc eraill ledled y byd.

Dylai awdurdod lleol, gan weithio gyda'i bartneriaid, ystyried sut y gall gwaith ieuenctid rhyngwladol ategu ei gynnig gwaith ieuenctid, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyfranogiad ar yr un pryd.

Arloesi

Ochr yn ochr â threfniadau arolygu ac asesu ansawdd, dylai awdurdod lleol a'i bartneriaid nodi arferion gorau, rhannu ei ganfyddiadau ag eraill, dysgu o astudiaethau academaidd ac adroddiadau gwerthuso gan eraill yng Nghymru a thu hwnt, ac ystyried sut y gall y rhain lywio a gwella'r cynnig gwaith ieuenctid i'w pobl ifanc. Fel y'i nodir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae'n hanfodol bod sefydliadau gwaith ieuenctid hefyd yn cael eu cefnogi i ddatblygu a gweithredu mentrau arloesol a chydweithredol gydag ystod eang o bartneriaid, er mwyn sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall bob amser. 

Gall arloesi helpu i nodi gwahanol ffyrdd o weithio, rhannu syniadau i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol a meithrin ei chynaliadwyedd, cefnogi trawsnewid, a sbarduno'r gwaith o greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc. Dylai awdurdod lleol weithio gyda'i bartneriaid i sicrhau bod arloesi yn rhan annatod o'r broses o ddatblygu, cyflenwi a monitro'r cynllun strategol yn ogystal â gwireddu ei gynnig gwaith ieuenctid.

Geirfa

Cyfleoedd cyffredinol

Mae darpariaeth gyffredinol, neu fynediad agored, yn ddarpariaeth gwaith ieuenctid sy'n agored i bob person ifanc ei mynychu'n wirfoddol. Gall gynnwys amrywiaeth o weithgareddau hamdden, diwylliannol, chwaraeon a chyfoethogi, yn aml o amgylch canolfannau ieuenctid, ac sy'n cael eu darparu'n gyffredinol mewn partneriaeth â chymunedau lleol.

Cyfleoedd wedi eu targedu

Mae darpariaeth wedi ei thargedu yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gan gynnwys timau allgymorth yn y gymdogaeth 

a thimau allgymorth gwaith stryd, gwasanaethau cyngor ac arweiniad i bobl ifanc, timau cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau iechyd rhywiol a chymorth digartrefedd.

Cynllun strategol gwaith ieuenctid

Cynllun sydd wedi ei ddatblygu gan awdurdod lleol gyda phartneriaid a phobl ifanc, sy'n amlinellu sut y bydd gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi dros gyfnod o bum mlynedd.

Gwaith ieuenctid

Gwasanaethau a ddarperir o fewn y gwasanaeth cymorth ieuenctid gan ddefnyddio dull addysgol neilltuol, sy’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc, ac sy’n cael ei gyflenwi gan bersonau sy’n meddu ar gymhwyster gweithiwr ieuenctid neu gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid.

Gwasanaethau cymorth ieuenctid

Gwasanaethau sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i chwarae rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant, manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, a chwarae rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person sy’n perthyn i'r categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

Gweithiwr ieuenctid

Person sy’n perthyn i'r categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

Gwirfoddolwr

Person y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni ac eithrio er elw ac sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i ardal gyfan yr awdurdod lleol neu unrhyw ran ohoni.

Hawlogaeth gwaith ieuenctid

Disgwyliad cenedlaethol o ran sut y mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynllunio a'i gyflenwi. Mae hwn yn waith ieuenctid:

  • y mae'n rhaid ei ddatblygu drwy ymgysylltu â phobl ifanc, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i'w hanghenion a'u dymuniadau 
  • sydd â'r nod o gyflwyno, diogelu a chryfhau gweithgareddau a gyflenwir yn Gymraeg a Saesneg
  • y mae'n rhaid iddo ddarparu cyfleoedd ar draws ystod eang o leoliadau, a all gynnwys darpariaeth ddigidol 
  • a ddylai ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol pobl ifanc 
  • y mae'n rhaid ei gyflenwi mewn ffyrdd sy'n ei gwneud yn hawdd i bobl ifanc ei gyrchu, yn unigol neu gyda'u cyfoedion

Partneriaid

Gwasanaethau awdurdod lleol y tu hwnt i waith ieuenctid, gwasanaethau statudol fel iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydliadau gwirfoddol, sef y sefydliadau hynny y mae eu gweithgareddau'n cael eu cyflawni ac eithrio er elw ac sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i ardal gyfan yr awdurdod lleol neu unrhyw ran ohoni.

Partneriaid statudol

Mae partneriaid statudol yn cyfeirio at y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau fel byrddau iechyd lleol a heddluoedd.

Person ifanc

Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, mae person ifanc yn berson sydd wedi cyrraedd 11 oed, ond nid 26 oed.

Y cynnig gwaith ieuenctid

Sut y mae'r hawlogaeth gwaith ieuenctid yn cael ei drosi'n gamau gweithredu gan bob awdurdod lleol, yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn y mae pobl ifanc yn yr ardal ei angen neu ei eisiau.