Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle y gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl a theimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Drwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, y bwriad yw bod gweithwyr ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed fod yn aelodau cofrestredig o'r sector gwaith ieuenctid a chael y cyfle i ennill achrediadau cenedlaethol fel gwobr Dug Caeredin.

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy'r 22 awdurdod lleol bob blwyddyn a hefyd drwy'r sector gwirfoddol. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd gan y sector gwaith ieuenctid statudol yng Nghymru.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a oedd o fewn cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd y ffigurau ar gyfer 2020-21 a 2021-22, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag aelodau cofrestredig, eu heffeithio'n sylweddol wrth i'r pandemig a'r cyfyngiadau oedd ar waith gael effaith ar allgymorth. Dylid ystyried hyn wrth gymharu data diweddar â data blynyddoedd blaenorol.

Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth awdurdodau lleol mewn datganiad blynyddol cyfanredol.

Prif bwyntiau

Roedd 81,293 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol yn 2023-24, i lawr 2% o gymharu â 2022-23 ac yn debyg i'r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19.

Ym mis Mawrth 2024, roedd 740 o staff rheoli a chyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, cynnydd o 4% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cyfanswm yr incwm ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn 2023-24 oedd £46.4 miliwn (r). Cynyddodd cyfanswm yr incwm 4% o gymharu â 2022-23, gyda'r gyllideb graidd yn cynyddu 7% (r) ac incwm ychwanegol yn cynyddu 3% o gymharu â 2022-23.

Cyfanswm y gwariant ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru yn 2023-24 oedd £44.4 miliwn, i lawr 3% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

(r) Wedi’i ddiwygio ar 28 Tachwedd 2024.

Aelodau

Ffigur 1: Aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran a rhyw, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar yn dangos mai'r grŵp oedran 14 i 16 oed sydd â'r nifer uchaf o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Y grŵp oedran 20 i 25 sydd â'r nifer isaf.

Aelodau cofrestredig yn ôl awdurdod lleol, oedran a rhyw (StatsCymru)

Roedd 81,293 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol yn 2023-24, i lawr 2% o gymharu â 2022-23 ac yn debyg i'r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19.

Roedd 51% o'r aelodau cofrestredig yn fenywod a 49% yn ddynion yn 2023-24, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol.

Mae mwy o ddynion na benywod yn y grwpiau oedran 11 i 13 a 14 i 16, ond yn fwy o fenywod na dynion yn y grwpiau oedran 17 i 19 ac 20 i 25 oed.

Ffigur 2: Canran yr aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart gylch yn dangos mai pobl ifanc 14 i 16 oed yn cyfrif am y ganran fwyaf o aelodau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn 2023-24, ac yna pobl ifanc 11 i 13 oed.

Ffigur 3: Aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid fel canran o'r boblogaeth 11 i 19 oed, 2023-24 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos mai Wrecsam oedd â'r gyfran uchaf o aelodau cofrestredig fel canran o'r boblogaeth 11 a 19 oed yn 2023-24, a Sir Gaerfyrddin oedd â'r gyfran isaf.

Aelodau cofrestredig yn ôl awdurdod lleol, oedran a rhyw (StatsCymru)

[Nodyn 1] – Nid yw Powys wedi'i chynnwys yn y siart hon ond mae'n cael ei gynnwys yn y ffigwr ar gyfer Cymru. Oherwydd gwaith trawsffiniol gyda 13 awdurdod lleol arall, mae Powys yn gweithio gyda thua 1,160 o bobl ifanc ychwanegol sy'n defnyddio gwasanaethau ym Mhowys ond sy'n byw mewn siroedd eraill.

Roedd yr aelodau cofrestredig rhwng 11 a 19 oed yn cynrychioli 23% o'r boblogaeth 11 i 19 oed yn 2023-24, i lawr 1 pwynt canran o gymharu â 2022-23. Roedd y ganran yn amrywio o 5% yn Wrecsam i 53% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Achrediadau

The survey collects information on individuals gaining accreditations through youth work provision differentiated between national and locally recognised accreditations. There were 4,257 young people who were reported as having gained a national accreditation in 2023-24. This is 5% of all registered members, down 1 percentage point compared with 2022-23.

There were 9,815 young people reported as having gained a local accreditation in 2023-24 (12% of members, the same as in 2022-23). A young person can gain both national and local accreditations.  

Ffigur 4: Nifer yr aelodau sy'n ennill achrediadau cenedlaethol mewn darpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl lefel neu ddyfarniad a rhyw, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos mai Gwobr Dug Caeredin oedd yr achrediad a gyflawnwyd fwyaf yn 2023-24 a Lefel 3 oedd yr achrediad a gyflawnwyd leiaf.

Aelodau sy'n ennill achrediad cenedlaethol yn ôl awdurdod lleol a mesur (StatsCymru)

Gwobr Dug Caeredin oedd yn cyfrif am y gyfran uchaf o achrediadau cenedlaethol yn 2023-24. Cafodd 1,448 o Wobrau Dug Caeredin eu hachredu drwy'r sector gwaith ieuenctid statudol, i fyny o 1,182 yn 2022-23. Mae cynllun Gwobr Dug Caeredin hefyd yn cael ei gynnig drwy'r sector gwirfoddol, ac mewn rhai ysgolion a cholegau.

Roedd nifer yr achrediadau cenedlaethol lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2 a gyflawnwyd yn is yn 2023-24 nag yn 2022-23. 

Roedd menywod yn cyfrif am 55% o'r achrediadau cenedlaethol a enillwyd yn 2023-24 ac roedd dynion yn cyfrif am 45% ohonynt.

Ffigur 5: Canran yr aelodau sy'n ennill achrediadau lleol o fewn darpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos mai'r grŵp oedran â’r gyfran uchaf o aelodau yn ennill achrediad lleol oedd y grŵp 14 i 16 ac yna’r grŵp 11 i 13.   

Aelodau sy'n ennill achrediad lleol yn ôl awdurdod lleol, oedran a mesur (StatsCymru)

Yn 2023-24, enillodd 12% o'r holl aelodau achrediad lleol. Roedd y ganran uchaf ymhlith y rhai 14 a 16 oed (13%) a'r ganran isaf ymhlith rhai 20 a 25 oed (8%). Cyfanswm yr achrediadau lleol a enillwyd oedd 9,815 yn 2023-24, i lawr o 10,379 yn 2022-23.

Lleoliadau a phrosiectau

Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am y lleoliadau a'r prosiectau ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid a oedd yn cael eu cynnal ledled Cymru. Gall prosiectau gwaith ieuenctid gael eu cyflawni gan yr awdurdod lleol yn unig, neu mewn partneriaeth â chyrff statudol neu wirfoddol eraill.

Ffigur 6: Nifer cyfartalog yr aelodau fesul lleoliad gwaith ieuenctid, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy'n dangos bod nifer cyfartalog yr aelodau fesul lleoliad yn amrywio rhwng gwahanol fathau o leoliad gyda'r nifer uchaf o aelodau gan dimau datgysylltiedig neu allgymorth.

Timau datgysylltiedig neu allgymorth oedd â'r nifer cyfartalog uchaf o aelodau fesul lleoliad yn 2023-24, sef 383 o aelodau cofrestredig fesul lleoliad, i lawr o 439 yn 2022-23. Gwasanaethau ieuenctid symudol oedd â'r nifer isaf, gyda chyfartaledd o 160 o aelodau cofrestredig fesul lleoliad, i fyny o 105 yn 2022-23. Mae nifer yr aelodau sydd wedi'u lleoli mewn ysgol neu goleg wedi dyblu bron ers 2022-23.

Tabl 1: Aelodau cofrestredig sy'n mynychu prosiectau mewn gwahanol leoliadau, 2023-24
Math o leoliadNifer y lleoliadauNifer yr aelodau sy'n mynychu
Mewn ysgol neu goleg29071,607
Clwb ieuenctid29557,811
Tîm datgysylltiedig neu allgymorth8733,281
Canolfan ieuenctid9126,110
Siop wybodaeth328,284
Gwasanaeth ieuenctid symudol355,608
Cyfanswm830202,701

Mae Tabl 1 yn dangos mai ysgolion neu golegau oedd â'r nifer uchaf o aelodau a fynychodd brosiectau, ac yna clybiau ieuenctid. Roedd y lleoliadau hyn yn cyfrif am 64% o'r holl aelodau a fynychodd brosiectau. 

Bydd rhywfaint o aelodaeth yn gorgyffwrdd, gydag aelodau'n gallu rhyngweithio â phob un o'r gwahanol leoliadau, ac er enghraifft gyda mwy nag un clwb neu ganolfan ieuenctid.

Ffigur 7: Nifer y prosiectau gwaith ieuenctid, yn ôl math o ddarpariaeth, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar yn dangos bod nifer y gwahanol fathau o brosiectau a ddarparwyd yn amrywio o 35 o brosiectau ar gyfer rhieni ifanc i 2,223 o brosiectau un-i-un.

Prosiectau yn ôl awdurdod lleol a'r math o ddarpariaeth (StatsCymru)

Prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol oedd yr ail fwyaf cyffredin gyda 1,116 ohonynt, ac yna prosiectau iechyd a lles gyda 1,082.

Caiff prosiectau eu cofnodi sawl gwaith os ydynt yn berthnasol i fwy nag un categori. Er enghraifft, gellid cofnodi'r un prosiect o dan y celfyddydau a drama, diwylliant Cymreig a phreswyl.

Ffigur 8: Canran y prosiectau gwaith ieuenctid a gyflwynir yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar sy'n dangos bod canran y prosiectau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio yn ôl awdurdod lleol, o 0% yn Abertawe i 100% yng Ngwynedd a Cheredigion.

Prosiectau a phresenoldeb yn ôl y math o ddarpariaeth a mesur (StatsCymru)

[Nodyn 1] Doedd Sir Ddinbych ddim yn gallu darparu'r data yma.

O'r holl brosiectau a gyflawnwyd, cafodd 38% eu cyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2023-24, sy'n gynnydd o 8 pwynt canran o gymharu â 2022-23.

Cyflawnwyd dros 90% o brosiectau yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngwynedd, Ceredigion, Ynys Môn a Phowys. 

Cyflawnwyd llai na 5% o brosiectau yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Sir Benfro, ac Abertawe.

Staff

Ffigur 9: Nifer y staff gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar yn dangos mai staff cyflawni gwaith ieuenctid a gyllidir yn allanol yw'r gyfran uchaf o staff gwaith ieuenctid, ac yna staff cyflawni gwaith ieuenctid rheng flaen.

Cyfanswm staff yn ôl y math o weithlu ac oriau gwaith (StatsCymru)

Ym mis Mawrth 2024, roedd 740 o staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru (ac eithrio staff gwirfoddol). Roedd y swyddi cyflawni cyfwerth ag amser llawn yn cynnwys 9% o staff rheoli a 91% o staff gwaith ieuenctid rheng flaen (sy'n cwmpasu staff craidd a staff a gyllidir yn allanol). 

O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cynnydd o 4% yn nifer y staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. Cynyddodd nifer y staff cyflawni a ariennir yn allanol 6%, cynyddodd staff cyflawni rheng flaen craidd 1% a chynyddodd staff rheoli 3%. Mae'r cynnydd hwn yn dilyn gostyngiadau ym mhob un o'r mathau hyn o staff yn y flwyddyn flaenorol.

Yn ogystal, roedd 5 o staff cyflawni gwaith ieuenctid gwirfoddol cyfwerth ag amser llawn, a 53 o staff gweinyddol a staff eraill cyfwerth ag amser llawn, gan roi cyfanswm o 797 o staff gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ym mis Mawrth 2024.

Ffigur 10: Canran y staff cyflawni gwaith ieuenctid yn ôl cymhwyster JNC, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart yn dangos bod canran y staff cyflawni gwaith ieuenctid â chymhwyster JNC hyd at lefel 2 o leiaf yn 2023-24 yn amrywio o 44% yn Abertawe i 100% yn Nhorfaen a Rhondda Cynon Taf. 

Staff rheoli a darparu yn ôl awdurdod lleol a lefel cymhwyster (StatsCymru)

Yn 2023-24, roedd 88% o'r holl staff cyflawni gwaith ieuenctid (cyfwerth ag amser llawn) yn meddu ar gymwysterau proffesiynol JNC hyd at lefel 2 o leiaf, yr un fath ag yn 2022-23. O'r rhai sydd heb gymhwyster JNC hyd at lefel 2 neu uwch, roedd 69% mewn hyfforddiant (44% yn 2022-23).

Cymarebau staff

Roedd y gymhareb o staff rheoli cyfwerth ag amser llawn i staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn eraill yng Nghymru yn 2023-24 oddeutu 1:10.

Y gymhareb o aelodau cofrestredig 11 i 25 oed i staff cyflenwi gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio staff gwirfoddol a rheoli) oedd 121 o bobl ifanc fesul gweithiwr yn 2023-24. Ar gyfer aelodau rhwng 11 a 19 oed, y gymhareb oedd 116:1.

Cyllid

Incwm

Cyfanswm yr incwm ar gyfer gwaith ieuenctid yn 2023-24 oedd £46.4 miliwn (r), i fyny 4% o gymharu â 2022-23. Roedd cyfanswm yr incwm yn amrywio ar draws awdurdodau lleol. Gwelodd 13 awdurdod lleol gynnydd o gymharu â'r llynedd ac adroddodd 9 ostyngiad. 

Cyfanswm y cyllidebau gwaith ieuenctid craidd yn 2023-24 oedd £18.2 miliwn, i fyny 7% (r) o gymharu â 2022-23. Roedd y cyfraniad y cyllidebau gwaith ieuenctid craidd i gyfanswm yr incwm ar gyfer gwaith ieuenctid ar draws Cymru yn amrywio rhwng awdurdodau, o 11% yng Nghasnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr i 66% yng Ngwynedd.

(r) Wedi’i ddiwygio ar 28 Tachwedd 2024.

Ffigur 11: Cyllideb graidd y gwasanaeth ieuenctid ac incwm ychwanegol yn ôl awdurdod lleol, 2023-24 (r)

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart bar pentwr sy'n dangos cyfanswm yr incwm wedi'i rannu rhwng cyllideb graidd y gwasanaeth ieuenctid ac incwm ychwanegol. Caerdydd oedd â'r cyfanswm incwm uchaf (£4.4m) a Thorfaen oedd â'r cyfanswm isaf (£1.0m).

Crynodeb o incwm yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Yn ogystal â’r gyllideb graidd ar gyfer gwaith Ieuenctid, roedd cyfanswm y gyllideb ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn 2023-24 yn cynnwys incwm o £28.2 miliwn o ffynonellau eraill. Daeth y rhan fwyaf o’r cyllid hwn o 'ffynonellau cenedlaethol' (£24.7 miliwn neu 88%). O fewn hynny, darparwyd £4.9 miliwn gan Teuluoedd yn Gyntaf a daeth £10.6 miliwn o Grant Cymorth y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Ffigur 12: Ffynhonnell incwm ychwanegol fel canran o gyfanswm yr incwm ychwanegol, 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart gylch yn dangos bod ffynonellau cenedlaethol yn cyfrif am 88% o'r incwm ychwanegol yn 2023-24. Cyfrannodd adrannau awdurdodau lleol 6%.

Gwariant

Cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru yn 2023-24 oedd £44.4 miliwn, i lawr 3% o gymharu â 2022-23. Roedd gwariant yn amrywio o £1.0 miliwn yn Nhorfaen i £4.3 miliwn yng Nghaerdydd.

Roedd y rhan fwyaf o'r gwariant ar weithwyr, sef 75% o'r holl wariant. Roedd gweddill y gwariant yn cynnwys 9% ar adnoddau a 5% ar lety.

Roedd 2% arall o'r gwariant yn gymorth grant o gyllidebau’r sector gwaith ieuenctid statudol i'r sector gwirfoddol. Yn cynnwys cyfraniadau o gyllideb ehangach yr awdurdodau lleol, darparodd awdurdodau lleol oddeutu £0.8 miliwn mewn cymorth grant i wasanaethau ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn.

Gwariant y pen o'r boblogaeth

Yn 2023-24, cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid fesul person 11 i 25 oed oedd £79, gostyngiad o 4% o gymharu â 2022-23. Y gyllideb gwaith ieuenctid craidd fesul person 11 i 25 oed oedd £32 yn 2023-24, i fyny 2% o gymharu â 2022-23. 

Gellir gweld y manylion llawn yn Nhabl 4 yn y tablau data a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Cesglir data fel rhan o ddarpariaeth statudol y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru trwy arolwg a gynhelir bob blwyddyn ymhlith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod yr haf. Cafwyd ffurflenni llawn gan bob un o'r 22 awdurdod lleol ym mhob un o'r pedair blynedd diwethaf. Mae rhifynnau blaenorol o'r datganiad hwn wedi cynnwys materion gyda chyflawnrwydd data ac felly yn gyffredinol mae angen gwneud cymariaethau rhwng blynyddoedd yn ofalus.

Cesglir gwybodaeth trwy daenlenni Microsoft Excel. Mae copïau o'r ffurflen casglu data gwaith ieuenctid presennol a'r canllawiau ar gael.

Mae'r taenlenni yn caniatáu i ymatebwyr ddilysu eu data eu hunain cyn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Gofynnir i awdurdodau lleol ddarparu sylwadau esboniadol lle mae newidiadau mawr wedi digwydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y data a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru eisoes o ansawdd uchel. Mae enghreifftiau o wiriadau dilysu o fewn y ffurflenni yn cynnwys newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, croeswirio gyda thablau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod data'n gyson yn rhesymegol, er enghraifft cymharu aelodaeth gofrestredig yn erbyn amcangyfrifon poblogaeth.

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn data, mae'n mynd trwy wiriadau dilysu a gwirio pellach, er enghraifft, gwiriadau synnwyr cyffredin, gwiriadau cysondeb rhifyddeg, croeswiriadau yn erbyn y data ar gyfer y flwyddyn flaenorol a gwiriadau goddefgarwch. Dilynir gwallau dilysu gydag awdurdodau lleol i geisio datrysu, yn y nifer fach o achosion rydym yn methu â chael ateb o fewn amserlen resymol, efallai y byddwn yn defnyddio cyfrifiant os yw'n briodol i ddatrys y gwall.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a gyhoeddwyd ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar ddiwrnod cyhoeddi.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) ac egwyddorion ansawdd ansawdd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae ansawdd y data a gesglir drwy arolwg statudol y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn parhau i ddatblygu, gan ein bod yn ganolog yn gwella'r canllawiau a'r diffiniadau a ddefnyddir yn yr arolwg, ac mae awdurdodau lleol sy'n darparu darpariaeth gwaith ieuenctid yn parhau i fireinio eu systemau a'u data rheoli, er mwyn sicrhau bod yr holl ddata a gesglir ar gyfer yr archwiliad yn gadarn, yn gyson, yn gyfredol ac yn gywir. Mae materion ansawdd data hysbys yn cael eu hamlygu gan adran isod.

Aelodaeth

O arolwg 2010-11 ymlaen, gofynnwyd i awdurdodau lleol gynnwys pobl ifanc a gofrestrwyd ar y system Reach fel rhai gweithredol yn ystod y flwyddyn yn unig (h.y. y rhai y gwyddid enw, cyfeiriad a dyddiad geni iddynt.) Reach yw'r term a ddefnyddir i fesur nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid o'r boblogaeth ieuenctid o fewn ardal ddynodedig/awdurdod lleol. Mewn blynyddoedd blaenorol, efallai bod rhai awdurdodau lleol hefyd wedi cynnwys aelodau dienw. O ystyried hyn, a gwelliannau i systemau cofnodi rhai awdurdodau, nid yw'n briodol cymharu'r data hwn ar sail debyg am yr un peth â blynyddoedd cynharach.

Achrediadau

Roedd arolwg 2010-11, am y tro cyntaf, yn gwahaniaethu rhwng pobl ifanc a oedd wedi derbyn achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn lleol.

Achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol yw'r rhai a gwblheir yn llwyddiannus o dan raglenni a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n cael eu hasesu a'u gwirio, er enghraifft: Dug Caeredin (DofE), BELA; Agored Cymru/OCN; ASDAN; Datblygiad Cymdeithasol Personol (PSD).

Dyfarniadau a gydnabyddir yn lleol yw'r rhai a gwblhawyd yn llwyddiannus nad ydynt yn rhan o'r rhaglen genedlaethol ac sy'n cael eu hasesu'n lleol, er enghraifft: modiwlau unigol DofE neu PSD; Gwobrau'r Maer; Ardystiad mewnol; Y Brifysgol Plant/Ieuenctid a Gwobr John Muir.

Sylwer y gall unigolyn dderbyn achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn lleol ac felly nid yw'r data o 2010-11 ymlaen yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, sef cyfrif pawb ag unrhyw achrediad.

Cyn 2012-13 casglwyd gwybodaeth am achrediadau gan grŵp oedran eang. Ar gyfer arolwg 2012-13 ymlaen mae achrediadau lleol yn parhau i gael eu casglu ar y sail hon, ond mae achrediadau cenedlaethol bellach yn cael eu casglu yn ôl lefel neu ddyfarniad.

Prosiectau

Cyn 2010-11 credir bod dehongliadau anghyson wedi bod wrth gofnodi prosiectau gan awdurdodau lleol, lle gallai rhai awdurdodau fod wedi cyfrif un prosiect o fewn nifer o fathau o brosiectau, tra bod eraill wedi cyfyngu i gynnwys pob prosiect yn un neu ddau fath o brosiect. O arolwg 2010-11, mae lleoliad neu leoliad prosiectau (clwb ieuenctid ayyb) wedi'i wahanu o'r math o ddarpariaeth (cynllun gwyliau, iaith Gymraeg). Unwaith eto, mae'r newid hwn yn y dull casglu yn golygu na ddylid gwneud cymhariaeth uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. 

Sylwch nad cyfanswm y prosiectau yw cyfanswm y lleoliadau, gan y gallai fod sawl prosiect yn rhedeg ym mhob lleoliad. Yn yr un modd, ni ellir crynhoi'r math o wybodaeth prosiect i roi cyfanswm nifer o brosiectau, gan y gellir cyfrif yr un prosiect sawl gwaith. 

O 2013-14, casglwyd gwybodaeth am gyfrwng cyflwyno prosiectau (er mai dim ond yn y datganiad o 2014-15) lle mae awdurdodau lleol yn nodi prosiectau a ddarperir yn bennaf neu'n gyfan gwbl (70% neu uwch) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweithlu

O arolwg 2010-11 ymlaen, eglurwyd bod y diffiniad o "staff rheoli" yn rhai sydd â llai na 10 y cant o gyswllt wyneb yn wyneb â phobl ifanc. Roedd newid hefyd yn y diffiniad o "staff darparu gwaith ieuenctid - staff craidd a darparu gwaith ieuenctid - allanol" i "staff rheng flaen gwaith ieuenctid - staff craidd a gwaith ieuenctid - wedi'u hariannu'n allanol". Mae hyn wedi effeithio ar gymhariaeth data gyda blynyddoedd cynharach.

Cyllid

Defnyddiwyd gwell diffiniadau a phrosesau dilysu i gasglu gwybodaeth am gyllid ar gyfer 2010-11 ymlaen, gan arwain at rywfaint o anghytuno rhwng y data hwnnw a data cyllid ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Gwerth

Cynhyrchir y datganiad hwn yn flynyddol gyda'r ystadegau a ddefnyddir o fewn Llywodraeth Cymru, gan lywodraeth leol ac ymarferwyr i fonitro tueddiadau mewn staff aelodaeth, cyllid a gwaith ieuenctid yng Nghymru. Lansiwyd Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn haf 2019 ac mae'n nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, teimlo'n ddiogel, eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Y bwriad yw drwy gyfleoedd addysgol anffurfiol ac anffurfiol a phrofiadau mae gweithwyr ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Cynhyrchodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei adroddiad terfynol ar gyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru ym mis Medi 2021.

Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manwl ar StatsCymru hefyd yn cyd-fynd ag ef, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Geraint Turner
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 98/2024