Gwybodaeth am aelodau cofrestredig, achrediad, prosiectau, y gweithlu a chyllid ay gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwaith Ieuenctid
Dyma'r set gyntaf o'r ystadegau hyn sy'n cynnwys â chyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19) (ac eithrio Mawrth 2020 a gwympodd yn adroddiad flwyddyn 2019-20). Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar rai ffigurau, yn enwedig adrannau ‘aelodau’ a ‘phrosiectau’ y datganiad hwn, gan fod allgymorth wedi ei effeithio gan y pandemig a’r cyfyngiadau roedd yn lle. Dylid cmryd hyn i ystyriaeth wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Prif bwyntiau
- Roedd 32,751 o aelodau cofrestrig o ddarpariaeth statudol yn y sector gwaith ieuenctid yn 2020-21, gostyngiad o 62% ers 2019-20(a).
- Ym mis Mawrth 2021, roedd tua 754 o staff rheoli a darparu gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, cynnydd o 5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol(b).
- Cyfanswm yr incwm ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn 2020-21 oedd £38.5 miliwn, a chyfanswm y gwariant oedd £38.1 miliwn. Cynyddodd y ddau o gymharu â 2019-20(b).
(a) Mae'r cymariaethau rhwng 2019-20 a 2020-21 yn seiliedig ar yr 21 awdurdod lleol a ddarparodd data ar gyfer y ddwy.flynedd.
(b) Mae'r cymariaethau rhwng 2019-20 a 2020-21 yn seiliedig ar yr 22 awdurdod lleol a ddarparodd data ar gyfer y ddwy flynedd.
Adroddiadau
Gwaith Ieuenctid, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwaith Ieuenctid, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 18 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.