Bydd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn cyhoeddi heddiw bod datblygiad amlwg ym Mhorthcawl wedi cymeryd cam arall.
Mae Canolfan Forol Porthcawl, sy’n werth £5.5 miliwn yn rhan o’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid sy’n anelu at greu 11 o gyrchfannau eraill y mae’n rhaid ymweld â hwy ledled Cymru.
Hefyd, gydag arian y Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, ag arian y sector preifat a’r trydydd sector, mae’r Ganolfan Forol yn gam cyntaf ar gyfer rhaglen Buddsoddi ym Mhorthcawl sy’n anelu at drawsnewid Porthcawl yn gyrchfan bwysig o safon uchel yng Nghymru fydd yn denu ymwelwyr newydd i’r ardal.
Mae gan y datblygiad y potensial i greu 55 o swyddi yn ogystal â chefnogi swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddapraru cyfleoedd am swyddi i bobl leol.
Meddai’r Gweinidog:
“Yr arfordir yw Pwynt Gwerthu Unigryw y sir, a dyma pam y mae mwyafrif yr ymwelwyr yn dod i’r ardal. Ond i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, mae angen inni ddaprau mwy o gyfleusterau a gwasanaethau arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr. Bydd Canolfan Forol Porthcawl yn cyflawni’r nod hwn drwy ddarparu atyniad cyffrous ac arloesol i deuluoedd drwy’r flwyddyn ar lan y môr.
“Ein nod trwy’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ein hymdrechion a’n buddsoddiadau ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth fel ein bod yn cael effaith wirioneddol ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol ryngwladol hon.
“Mae Canolfan Ddarganfod a Gwyddoniaeth yr Arfordir Seaquest yn brosiect cyffrous iawn fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth ac ystyried gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth. Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o ddatblygu’r prosiect at y pwynt hwn ac rwy’n dymuno’r gorau ichi.”
Wrth groesawu’r penderyfniad, dywedodd Mike Clarke, Cadeirydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl:
“Mae’n amhosibl i ddisgrifio’n llawn pa mor gyffrous a balch y mae tîm Porthcawl Harbourside CIC o dderbyn y caniatâd i fynd ymlaen â’r prosiect hwn. Dyma ddangos hyder mawr yn ein tîm ac yng nghymuned Porthcawl. Rydym yn credu bod hwn y prosiect twristiaeth mwyaf yn y DU o bosib i gael ei arwain gan y gymuned, ac rydym bellach yn gallu cynnig tendr ar gyfer yr adeiladu a dechrau ar y prosiect.”
Bydd y gwaith adeiladu ar y Ganolfan Forol yn dechrau yn nghanol 2017. Dros y bum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid yn gweld dros £85 miliwn o o arian yr UE, Llywodraeth Cymru ac arian Preifat ac Elusennol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau twristiaeth ledled Cymru.