Fel rhan o waith diogelwch a gwelliannau ehangach i’r M4, bydd gwaith cynnal a chadw dros nos ar Dwneli Brynglas yng Nghasnewydd yn dechrau ddydd Llun, 20 Mehefin.
Yn ystod y nos fydd y gwaith yn cael ei wneud yn bennaf a hynny tan fis Chwefror 2018. Bydd y rhan o’r M4 rhwng cyffyrdd 25A a 26 ar gael rhwng 8 y nos a 6 y bore am hyd at 5 noson yr wythnos.
Wrth wneud sylw ar y gwaith hanfodol, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Mae’r M4 yn bwysig iawn i economi Cymru ac mae’r gwaith o gynnal a chadw Twneli Brynglas yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella’r draffordd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr amser a nodir er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wneud mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl a chreu cyn lleied â phosibl o anghyfleustra i ddefnyddwyr y draffordd.
“Er y bydd hi bob amser yn angenrheidiol i’r math hwn o waith gael ei wneud, mae’n amlwg nad yw gwneud gwelliannau i’r M4 yn unig yn mynd i ddatrys y problemau ehangach, mwy hirdymor sef y tagfeydd traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Hoffwn nodi’n glir bod y problemau ehangach, mwy hirdymor hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i ni ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud cyhoeddiad yn eu cylch yn fuan iawn.”