Cynhelir gwaith hanfodol ar Draphont Afon Ceiriog yr A5 er mwyn adnewyddu’r uniad symud ar ddec y bont.
Bydd y gwaith, sy'n cael ei wneud mewn ymgynghoriad â Highways England, yn dechrau ar 22 Chwefror a bydd yn cymryd wyth diwrnod.
Wedi'i adeiladu ym 1990, mae'r draphont yn rhychwantu 500m o ochr ogleddol Dyffryn Ceiriog yng Nghymru i'w hochr ddeheuol yn Lloegr. Ar ôl 30 mlynedd, mae'r uniad ehangu mawr ym mhen deheuol y draphont yn cyrraedd diwedd ei oes a rhaid ei adnewyddu.
Bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel ac ail-adeiladu'r draphont goncrit wedi'i hatgyfnerthu lle mae'n ymuno â’r bont ar ochr ddeheuol Dyffryn Ceiriog. Bydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac ymchwilio’r bont hefyd yn cael ei wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cau. Bydd Highways England hefyd yn gwneud gwaith ar eu rhan hwy o'r ffordd rhwng pen deheuol y draphont a chylchfan Gledrid.
Bydd 3.6km o’r A5 ar gau rhwng cylchfannau Halton a Gledrid drwy gydol y gwaith, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio drwy dref y Waun ar hyd y B5070.
Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod ar bont Ffordd y Waun y B5070 dros Afon Ceiriog. Rhaid cyfyngu'r bont i un lôn drwy gydol y gwaith i sicrhau y gall y bont gario cerbydau trymach heb gael eu gorlwytho.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, bydd y gwaith yn cael ei gynnal 24 awr y dydd ar adeg o'r flwyddyn pan fo llif traffig yn is fel arfer. Mae'r safle gwaith yn ddigon bach i'w ddiogelu rhag y gwaethaf o dywydd y gaeaf, gan leihau'r risg o dywydd garw yn amharu ar gwblhau'r prosiect.
Gall defnyddwyr ffyrdd glywed yr wybodaeth ddiweddaraf am y traffig a’r prosiect ar wefan Traffig Cymru neu sianeli Twitter: Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth a Thraffig Cymru De.
Cytunwyd ar y gwaith cynllunio ar gyfer hyn gyda Chynghorau Wrecsam a Swydd Amwythig.
Meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth:
"Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud i gynnal cyflwr Traphont Afon Ceiriog ar yr A5. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i darfu cyn lleied â phosibl ac i gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosibl.
"Nid yw cerbytffyrdd yn cael eu cau yn llawn oni bai bod hynny yn gwbl angenrheidiol, ond mae diogelwch y cyhoedd sy'n teithio yn hollbwysig ac mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau hynny.
"Byddwn yn annog y cyhoedd sy'n teithio i ddilyn arwyddion y llwybr dargyfeirio tra bo'r gwaith hwn ar y gweill, a diolchaf iddynt hwy a thrigolion lleol am eu cydweithrediad a'u hamynedd.