Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y ffordd rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llwyr o 29 Gorffennaf, gyda gwyriad ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynghorir modurwyr y bydd rhan yr A465 rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llawn am bum wythnos yr haf hwn, er mwyn caniatáu i waith pwysig gael ei gwblhau yn gynt a gyda llai o ansicrwydd i'r cyhoedd sy'n teithio. 

Bydd y cau yn dechrau am 6yb ddydd Llun 29 Gorffennaf a bydd yn dod i ben am 6yh ddydd Llun 2 Medi 2024, ac mae'n digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol pan fydd llai o draffig ar y rhan hwn o’r ffordd.

Bydd cau'r ffordd yn caniatáu i sawl elfen bwysig o waith yr A465 fynd rhagddo, gan helpu i arbed amser ar y rhaglen adeiladu a chael gwared ar yr ansicrwydd i amseroedd teithio y gall cau dros nos ac ar benwythnosau eu hachosi.

Mae adborth gan y cyhoedd yn dangos bod newid cyson, fel cau dros nos ac ar benwythnosau, yn tarfu mwy na chau sefydlog gyda gwyriad clir.

Bydd y gwyriad yn yr achos hwn tua phedair milltir yn hirach, ond dylai'r amser teithio fod o dan bum munud yn hirach yn unig.

Bydd yr A465 rhwng cyffordd Dowlais Top a chylchfan dros dro Ystâd Ddiwydiannol Pant yn dal ar agor, ond dim ond ar gyfer traffig lleol.

Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda phartneriaid gan gynnwys yr awdurdod lleol, Ysbyty'r Tywysog Charles a'r gwasanaethau brys cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.

Mae'r gwaith cau a'r gwaith yn cael ei reoli gan Future Valleys Construction. 

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y cau fel a ganlyn:

  • Tynnu'r hen bont ym Mryniau 
  • Adeiladu pont newydd ym Mryniau
  • Adeiladu arglawdd priffyrdd newydd ar gyfer y ffordd gerbydau tua'r dwyrain yn Gurnos
  • Datblygu gwaith i adeiladu'r rhan newydd o Gyffordd Ysbyty Tywysog Charles
  • Integreiddio pob rhan o'r ffordd a'r droedffordd dros draphont Taf Fechan
  • Cwblhau'r ffordd gerbydau trwy Gefn Coed a thros draphont Taf Fawr

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Future Valleys Construction.

Gallwch hefyd weld map yn dangos y gwyriad.