Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates yn atgoffa pobl y bydd gwaith i osod system sy'n groes i lif arferol y traffig yn dechrau gyda'r hwyr, ddydd Sul 8 Medi wrth i waith atgyweirio hanfodol ddechrau ar gerbytffordd tanbont Kneeshaw Lupton ar yr A55 tua'r dwyrain.
Bydd y trefniadau hynny'n dechrau ger Cyffordd 23 Llanddulas ac yn dod i ben ger y bont droed ym Mae Colwyn sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel y Bont Enfys. Bydd hyn yn golygu y bydd un lôn o draffig yn teithio i bob cyfeiriad ar y gerbytffordd tua'r gorllewin 24 awr y diwrnod am hyd at bum wythnos.
Mae'r gwaith i'r gerbytffordd tua'r dwyrain yn dilyn yr atgyweiriadau llwyddiannus i gerbytffordd Kneeshaw Lupton tua'r gorllewin y llynedd, a gafodd eu cwblhau'n gynnar.
Y gwaith atgyweirio hwn ynghyd â rhai'r llynedd yw'r unig waith a drefnwyd pan oedd angen cau lonydd yn ystod y dydd ar yr A55 o Gyffordd 11 Bangor i'r ffin â Lloegr ers mis Ebrill 2017.
Yn debyg i'r gwaith a wnaed ar y gerbytffordd tua'r gorllewin yn 2018, bydd angen tywydd ffafriol i adnewyddu'r wyneb diddos ar ddec y bont a dyna pam y bydd y gwelliannau yn cael eu gwneud nawr. Daw hefyd ar ôl gwyliau haf yr ysgolion a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 6am ddydd Gwener 11 Hydref fan bellaf.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
Yn sgil natur y gwelliannau sy'n cynnwys cael gwared ar goncrid a dŵr a pharatoi'r dec, bydd bwrdd dau fetr o uchder yn cael ei osod gyda'r gwaith yn digwydd y tu ôl iddynt. Mae'r mesur hwn yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cyhoedd sy'n teithio.
Bydd cyfyngiad cyflymder 40 m.y.a. ar waith drwy'r system sy'n groes i lif y traffig tra bo'r gwaith yn cael ei wneud.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:
"Ddydd Sul hwn pan fydd y llif traffig wedi lleihau, bydd y gwaith yn dechrau i osod set sy'n groes i lif y traffig er mwyn dechrau gwaith hanfodol i wella cerbytffordd tanbont Kneeshaw Lupton tua'r dwyrain.
"Ar gyfartaledd mae dros 55,000 o gerbydau yn croesi'r rhan hon o'r A55 bob dydd ac mae rhai o'r uniadau sy'n cysylltu dec y bont dros 30 mlwydd oed, felly mae angen y gwaith hwn i sicrhau bod y ffordd yn ddiogel ac yn ddibynadwy am flynyddoedd i ddod.
"Yn debyg i'r llynedd, bydd y tîm ymroddedig sy'n gweithio ar y gwaith atgyweirio hwn yn gwneud hynny 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y gwaith yn cael ei orffen yn gynnar, ond rwy'n gwybod y byddan nhw'n gweithio'n ddyfal i wneud hynny.
"Nid yw'r gwaith cynllunio i gau cerbytffyrdd yn llawn byth yn digwydd oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol, ond mae diogelwch y cyhoedd sy'n teithio o'r pwys mwyaf ac mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau hynny.
"Dyma gam olaf y gwaith ar danbont Kneeshaw Lupton a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd sy'n teithio am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bo'r gwaith hwn yn cael ei wneud.
Gallwch weld y diweddariadau am y gwaith gwella hanfodol ar wefan Traffig Cymru ac ar ei gyfrif trydar.