Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaith ffordd sylweddol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar yr A487 ger Trefdraeth, Sir Benfro, yn dechrau o 6 Ionawr 2025 am wyth wythnos.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gwaith, sy'n cael ei wneud i sicrhau gwytnwch hirdymor y ffordd a lliniaru yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn golygu ailosod system ddraenio sy'n croesi o dan yr A487.

Bydd hefyd yn diogelu'r cysylltiadau ffordd hirdymor rhwng cymunedau a gwasanaethau hanfodol, fel darparwyr gofal iechyd ac ysgolion.

Ailosod llawn oedd yr unig opsiwn gan nad oedd modd atgyweirio'r strwythur presennol.

Gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, bydd llwybr dargyfeirio lleol, a reolir gyda signalau traffig dros dro, yn cael ei osod. Bydd traffig cefnffyrdd, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm, yn dilyn llwybr dargyfeirio hirach, tua 35 milltir o hyd.

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi aflonyddwch yn y tymor byr tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer gwytnwch y ffordd yn y dyfodol.

Cynhaliwyd ymgynghoriadau i nodi pa adeg o'r flwyddyn fyddai orau i wneud y gwaith o ran aflonyddu cyn lleied â phosibl.

Bydd busnesau an agor fel arfer ond bydd cymorth uniongyrchol gan Busnes Cymru ar gael i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd bod y ffordd ar gau a byddwn yn gweithio gyda busnesau lleol i helpu i gael gafael ar y cymorth hwn.