Neidio i'r prif gynnwy

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach. Mae gwaith trwsio mawr ar fin dechrau a fydd yn golygu cau'r ffordd yn llwyr o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gwaith yn datrys unwaith ac am byth problem y wal sy'n cynnal y ffordd. Disgynnodd honno ym mis Hydref 2023 gan orfodi cau'r ffordd mewn argyfwng. Mae goleuadau wedi bod yn rheoli'r traffig ers hynny

Mae gwaith manwl i ddylunio ateb i'r broblem bellach wedi'i wneud a gall y gwaith trwsio ddechrau.

Bydd y gwaith yn gwneud yr A470 yn fwy cydnerth ac yn golygu na fydd y gofyn i gau'r ffordd mewn argyfwng a'r aflonyddu yn sgil hynny, mor debygol o ddigwydd.

Bydd y gwaith yn trwsio'r wal gynnal uwchlaw'r Afon Laen gerllaw. I wneud hynny, bydd angen cau'r ffordd bob dydd trwy’r dydd gydol y cyfnod hwn. Ond mae'r peirianwyr ffyrdd yn gwneud eu gorau i gadw cyfnod y cau mor fach â phosibl.

Yn dilyn y cyfnod cau, caiff y goleuadau traffig 2 ffordd eu hailosod ar y safle er mwyn gallu gorffen y gwaith adeiladu. Bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi'u cymryd o'r safle erbyn 14 Chwefror  2025.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud pan fydd y ffordd ar ei thawelaf, gan gynnwys dros wyliau hanner tymor.

Mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn gallu cadw’r ffordd ar agor dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn deall y bydd y gwaith yn creu anawsterau yn y tymor byr, ac rydym am ddiolch i yrwyr am eu hamynedd. Mae’n hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod gennym ffordd gydnerth at y dyfodol.

Mae mwy of wybodaeth ar gael ar wefan Traffig Cymru.